Tumgik
#gwirfoddolwyr
charlotte-of-wales · 1 year
Text
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
princeandprincessofwales: What a wonderful day in South Wales today! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Leisure centres like the one at Aberavon are at the heart of our communities and play such an important part in helping us all lead a healthy lifestyle - including through regular spin classes.…🚴‍♀️🚴‍♂️
At the Wales Air Ambulance Charity the new family room will play a vital role in supporting families, nurses and volunteers. It's safe spaces like these that help our emergency workers who do so much to keep us safe, 24/7 🚁
Am ddiwrnod gwych yn Ne Cymru heddiw! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Mae canolfannau hamdden fel yr un yn Aberafan yn ganolog i'n cymunedau ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo bywyd iach. - gan gynnwys drwy wersi sbin rheolaidd...🚴‍♀️🚴‍♂️
Ym mhencadlys Wales Air Ambulance Charity bydd yr ystafell deuluol newydd yn chwarae rôl allweddol wrth gynnal teuluoedd, nyrsus a gwirfoddolwyr.
Mae lleoedd diogel fel hwn yn helpu gweithwyr ein gwasanaethau brys, sy'n gwneud cymaint i'n cadw yn ddiogel 24/7 🚁
30 notes · View notes
wcva · 5 years
Text
Meithrin gwirfoddoli arloesol
Tumblr media
Mae gymaint o engreifftiau penigamp ar hyd a lled Cymru o wirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth mawr mewn iechyd a gofal cymdeithasol – felly pam nad yw’r arfer da hwn yn cael ei ddefnyddio ym mhob man? Mae Fiona Liddell yn ystyried yr her o ‘gynyddu’ syniadau newydd.
Mae Andrew Goodall (Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru) yn ei gyflwyniad i Gymru Iachach yn traethu ar y weledigaeth o newid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol:
‘Drwy arloesedd lleol sy’n bwydo modelau newydd o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, byddwn yn cynyddu syniadau newydd a ffyrdd gwell o weithio i lefel rhanbarthol ac yna lefel cenedlaethol. Bydd Rhaglen Drawsnewid genedlaethol yn dod â chyflymder a phwrpas i sut yr ydym yn cefnogi newid ar draws yr holl system… ein gwir brawf fydd yn ein darpariaeth o wasanaethau a gwellau canlyniadau ar hyd a lled Cymru’.
Nid yw’r broses a ddisgrifir yn gryno ac yn obeithiol yn y dyfyniad yn fater syml er hynny. Er enghraifft, roedd cyflwyno ffrwythau sitrig i ddiet morwyr yn 1601 heb amheuaeth yn ‘syniad da’ ar y pryd ond fe gymrodd dan 1795 i’r arfer gael ei ddefnyddio gan y llynges Brydeinig. Cant naw deg a phedwar o flynyddoedd!
Mae’r cwestiwn o sut i ‘gynyddu’ arfer da lleol yn un a aethom i’r afael ag o mewn gweithdy mewn cynhadledd diweddar ar rôl y trydydd sector yng Nghymru i gyflawni cynllun hirdymor Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.  
Rhai heriau
Roedd cyfranogwyr yn barod i adnabod (yn aml o brofiad!), y cyfyngiadau oblegid natur byr dymor yr ariannu. Yn aml mae hyn yn golygu nad oes modd o fewn y cyfnod byr yr ariennir y prosiect, i archwilio, i ddogfennu neu rannu’r gwersi a ddysgwyd gyda’r rhwydwaith ehangach. 
Mae swyddi’r staff yn aml yn dod i ben yr un pryd a’r prosiect ac felly collir profiad lleol gwerthfawr. Yn fwy na hynny, mae ariannu tymor byr yn arwain at feddwl tymor byr.
Yn llwyr arwahân i’r cwestiwn o gyllid, os yw prosiect gwirfoddoli yn effeithiol mewn un ardal, beth yw’r tebygoliaeth y bydd yn gweithio mewn ardal wahanol, ble mae’r cynnwys a’r personoliaethau yn wahanol? 
Os yw’n gweithio’n dda ar raddfa fach, beth yw’r tebygoliaeth y bydd yn gweithio ‘run mor dda pan fydd ar raddfa fwy?
Trawsblanwch model craidd neu weithgaredd gwirfoddoli o un amgylchedd gysgodol mewn ‘inciwbator’ i ardal fwy agored a ni all o reidrwydd ffynnu. 
Byddai’n well i ni mewn unrhyw achos siarad am ‘ledaenu’ yn hytrach na ‘chynyddu’ o ran ymyriadau gwirfoddoli, gyda mwy o bwyslais ar ddyblygu rheolaidd o syniad yn hytrach na masgynhyrchu.
Gall ‘llwyddiant’ gael ei farnu drwy wahanol lensiau: o economeg, i ganlyniadau clinigol, i lesiant ungiol neu effeithionlrwydd cyflenwei gwasanaeth, yn dibynnu ar byw ydych chi – neu bwy yr ydych yn bwriadu ei argyhoeddi.
Mae her benodol yn ein hwynebu o ran sut yr ydym yn ‘pecynnu’ a chyfathrebu ymyriadau gwirfoddoli sydd wedi eu profi’n effeithiol mewn un ardal, mewn ffordd sy’n galluogi eraill i’w gwneud yr un mor effeithiol mewn ardal arall.  
Lledaenu arfer da
Cynhaliodd The Health Foundation ymchwil ymhlith y rhai a oedd yn derbyn grantiau ganddynt a phartneriaid yn ystod 2017-18. Daethant i’r casgliad yn eu hadroddiad The Spread Challenge y dylid rhoi mwy o sylw i’r rôl mabwysiadwyr yn hytrach na sylw penodol i arloeswyr y modelau newydd ac arferion newydd mewn gofal iechyd.
‘I ledaenu ymyriadau gofal iechyd cymhleth yn llwyddiannus bydd gofyn eu pecynnu mewn ffordd fwy soffistigedig a dylunio rhaglenni bydd yn eu lledaenu mewn ffyrdd mwy soffistigedig.’
Gellir dadlau, bod y rhan fwyaf o raglenni gwirfoddoli yn ‘ymyriadau cymhleth’ o ganlyniad i bresenoldeb bod dynol.  
Bydd gofyn efallai hefyd i fabwysiadwyr fod yn addaswyr wrth iddynt gyfieithu, coethi, ac weithiau yn fwy neu lai ailddyfeisio ymyriad peilot. 
Mae’r cam hwn yn hanfodol ac yn datblygu ein dealltwriaeth o beth yw’r elfennau hanfodol o’r prosiect, yr hy’n sydd, yn anghenrheidiol ar gyfer ei lwyddiant a beth sydd angen ei deilwra i weddu gydag amgylchiadau lleol.
Helplu yng Nghymru
Mae Helpforce, a’i brif bartner WCVA yng Nghymru, yn gweithio gyda phartneriaid ar hyd a lled y DU i feithrin a lledaenu arloesedd mewn gwirfoddoli o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 
Bydd yn canolbwyntio’n fwyfwy ar sut y gall gwirfoddoli llwyddiannus gael ei ‘becynnu’ a’i ‘ledaenu’ ar gyfer buddion ehangach. Mae swydd newydd wedi cael ei chreu er mwyn datblygu’r gwaith.  
Yng Nghymru gallwn ddysgu o brofiadau ar hyd a lled y DU ac o dystiolaeth a’r fethodoleg sy’n dod i’r wyneb. Byddwn yn adolygu’r llenyddiaeth a gyhoeddir gyda phartneriaid ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal â thynnu sylw at engreifftiau o wirfoddoli effeithiol sydd â photensial strategol. Os ydych yn gwybod am brosiect o’r fath, cysylltwch â ni!
Mae’r Comisiwn Bevan yn cychwyn ar raglen arall yn fuan i gefnogi’r penodiad o fabwysiadwyr arloesedd gofal iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd. Bydd rhain yn dod yn gydnabyddion clos i’r achos.
I gloi..
Gadewch i mi ddod yn ôl at gydweddiad garddwriaethol, unwaith eto er mwyn gwneud fy mhrif bwynt: er mwyn i arloesedd mewn gwirfoddoli wreiddio, mae angen i ni hefyd baratoi’r tir, hynny yw, i greu’r capasiti a’r parodrwydd ar gyfer cymryd rhan mewn gwirfoddoli. 
Mae hyn yn golygu datblygu diwylliant mudiad, agweddau staff a’r polisi isadeiledd er mwyn galluogi gwirfoddoli i ffynnu. Wrth gydweithredu gyda WCVA ar lefel genedlaethol, mae Canolfannau Gwirfoddoli ym mhob sir yn cefnogi mudiadau i ddatblygu rhaglenni gwirfoddoli addas a pholisïau. 
Bydd WCVA hefyd yn paratoi’r sylfaen drwy drafodaethau cenedlaethol gydag ystod o rhanddeiliaid a thrwy ddatblygiad o safonau arfer fwy cyson.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helpforce Cymru, wedi’i lleoli o fewn WCVA. Gellir cysylltu â hi ar   [email protected]  029 2043 1730.
Erthyglau perthnasol
Datblygu gwirfoddoli i gefnogi gofal iechyd yng Nghymru
Amser i ddathlu
0 notes
mantellgwynedd · 7 years
Photo
Tumblr media
#volunteer #gwirfoddoli #volunteering #gwirfoddolwyr #gwynedd #mv #millenniumvolunteers #gwirfoddolwyrymileniwm
0 notes
atscorpsblog · 3 years
Text
Trydydd brechiad Covid yn rhan o brawf clinigol yn Wrecsam
Trydydd brechiad Covid yn rhan o brawf clinigol yn Wrecsam
Gwirfoddolwyr yn rhan o dreial i weld a fyddai mwy o bigiadau atgyfnerthu o werth wrth frwydro coronafeirws. Source link
View On WordPress
0 notes
pontiobangor · 3 years
Text
Blog Emyr
Pan ddechreuais weithio fel Cydlynydd Sinema yma yn Pontio doedd gen i ddim syniad y byddai dros flwyddyn yn pasio heibio cyn i ni allu agor ein drysau a dangos ein ffilm gyntaf. Mae dwyn i gof y profiad ffurfiannol hwn heddiw yng nghanol y cloi bresennol hon yn fy atgoffa o'r egni, y brwdfrydedd a'r ymrwymiad gwreiddiol a oedd gennym fel tîm ifanc, yn ôl yn 2014, wrth i ni baratoi’r fenter gyffrous newydd hon ym Mangor. Rwyf am ategu yn y blog yma fy mod i'n profi ymdeimlad tebyg o gyffro cynyddol ac egni cadarnhaol heddiw wrth i ni fynd ati i baratoi ar gyfer ailagor y sinema ar ôl cyfnod mor hir ac anodd i ffwrdd o'n cynulleidfaoedd.
Tumblr media
Ers y dangosiad cyntaf hwnnw, dros bum mlynedd yn ôl, mae rhedeg y rhaglen sinema wedi bod yn llawenydd di-dor i mi. Mae natur y gwaith a rhinweddau y swydd wedi cael ei datgelu i mi yn araf bach dros y cyfnod yma. Rwyf wedi dysgu bod problemau yn bodoli er mwyn cael ei datrys; mae bron bob amser y penderfyniad cywir rhoi yr hyn maen pobl yn dymuno gweld ar y sgrin iddyn nhw; ni fyddai unrhyw beth yn digwydd heb waith y staff a'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg blaen tŷ a’r swyddfa docynnau ac yn ola’ ni all neb reoli'r tywydd!
Ond y peth pwysicaf rydw i wedi'i ddysgu yw mai cyfrifoldeb mwyaf y swydd yw sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn mwynhau, yn ymgysylltu, yn cael eu difyrru ac yn cymryd rhan yn y broses o greu ein rhaglen ffilm. Mae rhedeg y rhaglen ffilm i mi yn rhyw fath o sgwrs gyda'r gymuned ac mae medru cymryd cyfrifoldeb am lunio'r broses hon gyda chi wedi bod yn anrhydedd enfawr i mi dros y blynyddoedd.
Wrth i'r cloi roi sdop ar yr ymgysylltiad uniongyrchol hwn, bûm yn ymwneud â mwy o weithgareddau ar-lein ac yn anuniongyrchol dwi wedi llwyddo i dderbyn addysg lawer ehangach o ran sut mae'r busnes ffilm yn gweithio, ym maes arddangos a chynhyrchu, yma yng Nghymru a thramor.
Ymunais â bwrdd Ffilm Cymru Wales ar ddechra 2020 a thrwy gydol y cyfnod clo rwyf wedi gweld yr asiantaeth yn gweithio’n ddiflino i ymladd yn frwd dros sicrhau buddiannau y sector arddangos yma yng Nghymru a parhad canolfannau ar draws y wlad. Rwyf wedi dysgu llawer am economeg cymhleth byd y ffilmiau yn ogystal â dod i ddeall pa mor fregus yw sdad llawer o weithwyr llawrydd yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae gwybod fod yr asiantaeth wedi cymryd rhan uniongyrchol mewn llunio cronfaoedd adfer ar gyfer staff cynhyrchu llawrydd a wedi cynnig cyfleoedd a cymorth uniongyrchol yn dystiolaeth pwysig fod rôl gan pawb i chwarae wrth ddygymod â phroblemau Covid a chynnig cefnogaeth a dyfodol i rhai sy'n dioddef. Mae’r asiantaeth wedi chwarae rhan bwysig trwy lywio'r sector cynhyrchu ffilm yn ôl o'r dibyn er mwyn hwyluso gweld y ffilmio yn dychwelyd i Gymru mewn modd diogel ac wrth gwrs pob tro yn gweithio yn galed i sicrhau bod gennym ffilmiau Cymraeg newydd i'w dangos i chi yn ein sinema pan fydd yr ail agor yn digwydd.
Mae wedi dod yn amlwg iawn i mi yn y pandemig hwn trwy weld sut mae diwydiant byd-eang cyfan fel y diwydiant ffilm yn ymateb i fygythiad dirfodol, trwy weithio fel un y gallwn gyflawni llawer mwy ac y bydd y sylweddoliad hwn yn cael effaith ar sut y bydd sinemâu yn gweithio pan fyddwn yn ailagor ar draws y wlad.
Bydd rhai pethau'n sicr yn wahanol. Credaf fod natur fy swydd, a gwaith pawb arall yn anorfod yn gorfod newid. Teimlaf y bydd y gwaith sydd i ddod yn golygu ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd lawer mwy ac yn adeiladu ar y gwirionedd syml a cadarnhaol ein bod ni i gyd yn gysylltiedig ac yn ddibynnol ar ein gilydd.
Mae sinema yn ddiwydiant fyd-eang a chredaf fod y rhan fach yr ydym yn ei chwarae yn Sinema Pontio yr un mor bwysig fel cyfraniad i iechyd a pharhad y diwylliant ffilm, ac rwyf am i fwy a mwy o bobl yn ein cymunedau gymryd rhan yn y broses honno pan fyddwn yn ailagor.
Rwy'n gobeithio y gallwn ni gyd wneud rhywbeth mor syml ac mor bwysig â phrynu tocyn ar gyfer ffilm rydym ni am ei weld, aros i'r goleuadau fynd i lawr a mynd i mewn i'r ffilm gyda'n gilydd cyn bo hir.
Tumblr media
0 notes
ffrindiaugigiau · 6 years
Text
Gig Buddies Cardiff is looking for a Project Administrator
Tumblr media
++Sgroliwch i lawr am y Gymraeg / Scroll down for Welsh++
LDW Salary Scale Grade 2 (£14,973) pro-rata + Pension. 15 hours per week (flexible).
Do you want to join our exciting new Gig Buddies project in Cardiff?
We have a great opportunity for an experienced Administrator to support and promote this project.  
This new befriending scheme matches people with a learning disability with volunteers who share the same interests so they can go to gigs together.
Working for 15 hours per week you will meet both volunteers and gig-goers, maintain a matching database, process DBS disclosures, manage appointments and be the first point of contact for project enquiries.  
The post will be based at our newly awaited office accommodation in Cardiff.
Closing date: Friday 6 April 2018
Interview date: Monday 16 April 2018
To apply please download the recruitment pack below and return your completed application to: [email protected]. Please label the subject of your email as ‘Gig Buddies Project Administrator’.
This is our preferred method of applying.
If you prefer to post your application, then please send to:
Gig Buddies administrator recruitment Human Resources & Governance Manager Learning Disability Wales 41 Lambourne Crescent Llanishen Cardiff CF14 5GG
For more information contact Zoe Richards or Kai Jones on 029 2068 1160, email [email protected].
Application pack
Gig Buddies Project Administrator information pack
Project Administrator job description
Person spec
Application form
Mae Ffrindiau Gigiau Caerdydd yn chwilio am Weinyddydd Prosiect
Cyfradd Cyflog ADC Gradd 2 (£14,973) pro-rata + Pensiwn. 15 awr yr wythnos (hyblyg).
Hoffech chi ymuno gyda’n prosiect Ffrindiau Gigiau newydd cyffrous yng Nhaerdydd?
Mae gennym gyfle gwych i Weinyddydd profiadol i gefnogi a hyrwyddo’r prosiect yma.  
Mae’r cynllun ymgyfeillio newydd yma yn cydweddu pobl gydag anabledd dysgu â gwirfoddolwyr sydd yn rhannu’r un diddordebau, er mwyn iddyn nhw allu mynd i gigiau gyda’i gilydd.
Gan weithio 15 awr yr wythnos, fe fyddwch yn cyfarfod y gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n mynd i gigiau, yn cynnal cronfa ddata cydweddu, yn prosesu datgeliadau DBS, yn rheoli apwyntiadau  a chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ynghylch y prosiect.  
Fe gaiff y swydd ei lleoli yn ein swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd.
Dyddiad cau: Gwener 6 Ebrill 2018
Dyddiad cyfweliad: Llun 16 Ebrill 2018
I ymgeisio lawrlwythwch y pecyn recriwtio isod a dychwelwch eich cais wedi’i chwblhau i: [email protected]. Labelwch destun pwnc eich ebost fel ‘Gweinyddydd Prosiect Ffrindiau Gigiau’ os gwelwch yn dda.
Dyma ein dull dewisol o wneud cais.
Os yw’n well gennych bostio eich cais, yna anfonwch os gwelwch yn dda at:
Gweinyddydd Prosiect Ffrindiau Gigiau Rheolwraig Adnoddau Dynol a Llywodraethiant Anabledd Dysgu Cymru 41 Lambourne Crescent Llanisien Caerdydd CF14 5GG
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Zoe Richards ar 029 2068 1160, ebost [email protected].
Pecyn Cais
Pecyn gwybodaeth Gweinyddydd Prosiect Ffrindiau Gigiau
Disgrifiad swydd Gweinyddydd Prosiect
Manyleb person
Ffurflen ymgeisio
2 notes · View notes
wcva · 6 years
Text
Rwyf ar lwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - beth nawr?
Tumblr media
Yn ei hail flog ar y pwnc, mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli yn WCVA, yn cynnig rhagor o awgrymiadau ar ddefnyddio gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a fydd yn cael ei lansio ddechrau mis Mehefin.
Yn fy mlog blaenorol soniais am gofrestru eich mudiad ar y llwyfan a sut i greu cyfleoedd gwirfoddoli. Dewch i ni edrych ar nodweddion eraill a all fod yn ddefnyddiol i chi.
Yn ddiweddar prynais gamera newydd sy’n gwneud llawer mwy nag ydwi’n gallu’i wneud gydag ef, ar y funud - er dwi’n dysgu. I fod yn onest mae’n gwneud llawer mwy na fydda’ i’n debygol o fod eisiau ei wneud fyth. Ond mae’n tynnu lluniau gwell na mae fy ffôn yn ei wneud, a dwi’n hapus gyda hynny.
Yn yr un modd, mae nifer o nodweddion ar y llwyfan newydd na fyddwch chi’n teimlo’n barod i’w defnyddio, yn gallu eu defnyddio neu angen eu defnyddio, ac mae hynny, wrth gwrs, yn berffaith iawn. Byddwch er hynny, efallai’n darganfod eich bod eisiau meddwl am sut y byddwch yn defnyddio’i nodweddion yn llawnach yn y dyfodol ac i wneud hynny’n nod yn y tymor canolig i’r hirdymor.  
Mae’r cyfleuster wedi’r cyfan, ar gael i chi am ddim yn rhan o seilwaith Gwirfoddoli Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae yno i’w gwneud yn haws i wirfoddolwyr gael at gyfleoedd gwirfoddoli ac i’ch helpu i reoli gwirfoddolwyr.  
Felly, rydych wedi creu ychydig o gyfleoedd, beth nawr?
Ymateb i wirfoddolwyr
Gwahaniaeth pwysig o gymharu â’r hen system yw pan fydd gwirfoddolwyr yn gofyn i ‘ymuno’ neu ‘ymgeisio’ (pa bynnag un rydych chi wedi’i ddewis - gwelwch y blog blaenorol sy’n egluro’r gwahaniaeth) bydd hysbysiad e-bost yn mynd yn syth atoch chi ac nid, fel yn flaenorol (yn y rhan fwyaf o achosion), i’r ganolfan wirfoddoli.
Afraid dweud bod ymateb i’r hysbysiadau hyn yn brydlon o bwysigrwydd mawr. Mae gwirfoddolwyr eisiau system recriwtio sy’n sydyn, hawdd ac uniongyrchol. Gall y llwyfan hwn alluogi hynny’n union, ond mae’n gofyn am berson cyswllt y mudiad i fod yn barod ac yn gallu ymateb yn briodol.
Mae canolfannau gwirfoddoli weithiau wedi bod yn gyfryngwr yn y broses recriwtio, yn dewis ac yn gyrru ymgeiswyr argymelledig i gael eu hystyried gennych. Pe byddai hyn yn ddefnyddiol yna cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol; efallai y gallant reoli rhai agweddau ar y broses recriwtio ar eich rhan.
Creu tudalen broffil darparwr
Tumblr media
Pan fyddwch yn cofrestru fel ‘darparwr’ cyfleoedd gwirfoddoli, byddwch yn cael eich tudalen we unigryw eich hun a chyfeiriad gwe ble gallwch ychwanegu eich logo, delwedd clawr a gwybodaeth am eich mudiad. Pan fydd gwirfoddolwr yn chwilio ac yn dod o hyd i gyfle yr ydych wedi’i bostio, gallant glicio ar enw eich mudiad i fynd ar eich tudalen broffil. Yno byddant yn gweld yr holl gyfleoedd yr ydych yn eu cynnig.
Drwy gyhoeddi URL/ cyfeiriad gwe eich tudalen broffil gallwch arwain pobl yn syth bin at eich tudalen broffil. Gallant weld ac ymuno â chyfleoedd, neu gallant gysylltu â chi, o’r dudalen hon.
Gallwch ddod o hyd i help i greu tudalen darparwr yma: http://guide.teamkinetic.co.uk/provider-profile-page
Cofnodi oriau gwirfoddolwyr
Gallwch gofnodi oriau gwirfoddolwyr ar y system. Mae’n rhoi adborth gweladwy o’r cyfraniad y maent yn ei wneud. Unwaith maent wedi gwneud 50, 100, 200, 500 a 1,000 o oriau, bydd bathodyn lliw Gwirfoddoli Cymru yn ymddangos ar eu proffil yn gydnabyddiaeth.
Tumblr media
Gall gwirfoddolwyr gofnodi eu horiau eu hunain ar eu dangosfwrdd. Bydd y system yn ‘cyfrif’ yr oriau hyn pan fyddant yn cael eu gwirio gennych fel darparwr. Gall gweinyddwyr hefyd gofnodi neu gymeradwyo oriau ar ran darparwr. Os yw hyn yn rhywbeth na allwch ei wneud am ba bynnag reswm, efallai gall eich canolfan wirfoddoli helpu.  
Mwy na recriwtio yn unig
Mae yna sawl rheswm da pam y dylech fynd ati i annog eich gwirfoddolwyr presennol i gofrestru ar gyfer y llwyfan.
Tumblr media
Byddai’n eich galluogi i greu cyfleoedd caeedig, y gallwch eu cyfyngu i’ch grŵp gwirfoddoli. Gall y rhain fod yn sesiynau gwirfoddoli fel eich bod yn gallu cwblhau eich rota ar-lein, gallant yn ogystal fod yn hyfforddiant neu’n sesiynau gwybodaeth yr ydych eisiau i bobl gofrestru ar eu cyfer.
Os ydi gwirfoddolwyr wedi cofrestru ar eich system gallwch fonitro oriau gwirfoddoli - a all fod yn ddefnyddiol i gefnogi ceisiadau cyllid, ynghyd â’ch galluogi i roi adborth positif i wirfoddolwyr a rhanddeiliaid.
Creu a rheoli grwpiau gwirfoddoli
Tumblr media
Os ydi gwirfoddolwyr wedi cofrestru ar eich system gallwch greu a rheoli grwpiau gwirfoddoli a gyrru e-byst grŵp.
Gallwch, er enghraifft, greu grŵp a’i alw yn ‘myfyrwyr’ (y mae’n debygol y bydd eu hargaeledd yn cael ei gyfyngu i gyfnodau gwyliau). Gallwch anfon dolen arbennig at wirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr a phan fyddant yn cofrestru byddant yn cael eu rhoi’n awtomatig yn y grŵp gweinyddol hwn.
Mae creu grwpiau yn hwyluso cyfathrebu. Gallwch e-bostio’r holl wirfoddolwyr am gyfle penodol, neu efallai eich bod eisiau e-bostio gwirfoddolwyr mewn grŵp penodol yr ydych wedi’i greu. Gallwch hefyd wrth gwrs e-bostio gwirfoddolwyr unigol hefyd.
A ydych wedi cofrestru ar y llwyfan newydd eto?
Tumblr media
Cofiwch mai’r cam cyntaf pwysicaf yw rhoi cyfleoedd arno cyn i’r llwyfan fynd yn fyw, ddechrau mis Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwnnw, ni fydd unrhyw gyfleoedd fydd gennych ar hen wefan Gwirfoddoli Cymry yn cael eu hyrwyddo.
Dechrau Arni
Ewch i’r cyfeiriad gwe dros dro https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk/ i gofrestru ac i greu cyfleoedd. Gallech hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr prawf, chwilio am eich cyfleoedd gwirfoddoli eich hun ac ymuno â nhw er mwyn ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae’n gweithio. Ar ôl y dyddiad lansio, bydd y wefan ar gael ar www.volunteering-wales.net.
Gobeithiwn y bydd y system newydd o gymorth i chi wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes, bydd y system a’n defnydd ohoni, yn broses esblygol. Yn y cyfamser byddwn yn awyddus i glywed sut hwyl rydych yn ei chael arni, beth sy’n ddefnyddiol a gwnawn ein gorau i helpu gydag unrhyw anawsterau a gewch chi.
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ebostio [email protected] neu [email protected].  
0 notes
wcva · 6 years
Text
Llwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - Help! Lle dwi’n dechrau?
Tumblr media
Yma mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, yn cynnig cyngor ar ddefnyddio gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a fydd yn cael ei lansio ddechrau Mehefin.
Mae newid yn hoff beth gan rai ohonom ac yn gas beth gan eraill. Gall gwefan newydd godi ofn ar y rheini ohonom sydd ddim yn meddu ar athrylith dechnolegol naturiol.
Pam felly, dwi’n clywed chi’n gofyn, yr ydym yn newid gwefan Gwirfoddoli Cymru a ddefnyddir ar hyn o bryd (yn ddidrafferth gan y mwyafrif) i recriwtio gwirfoddolwyr gan tua 2,000 o fudiadau yng Nghymru?
Mae rhan o’r ateb yn ymwneud â chadw gyda’r oes ddigidol yr ydym yn byw ynddi a disgwyliadau darpar wirfoddolwyr - yn enwedig, ond nid dim ond, y rhai iau.
Mae rhan arall yn ymwneud â photensial technoleg i gynorthwyo staff prysur drwy leihau’r baich gweinyddol sydd ynghlwm wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, gan roi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar dasgau o bwys. (Rydym yn ymwybodol nad yw pob gwirfoddolwr eisiau defnyddio gwasanaeth digidol ac felly’n parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn ogystal drwy ein canolfannau gwirfoddoli).
Mae’n cymryd amser i ymgyfarwyddo ag unrhyw system newydd a chyrraedd y pwynt lle mae’n teimlo’n fuddiol yn hytrach nag yn rhwystredig.
Dyma rai o’r nodweddion ar y wefan newydd sy’n wahanol i’r hen un. Wrth gofrestru’ch mudiad ar y wefan newydd (y cyfeiriad dros dro yw https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk) fe fydd hi’n ddefnyddiol i chi fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau hyn o’r dechrau.
Tumblr media
Cofrestru
Os oes gennych gysylltiad â Chyngor Gwirfoddol Sirol neu ganolfan wirfoddoli leol yna chwiliwch am y sir briodol o brif dudalen y wefan a chofrestrwch yno. Mae hyn yn golygu bod eich cymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu o’r sir honno. Nid oes ots i raddau helaeth ble rydych yn cofrestru, serch hynny, ac os yw’n teimlo’n anghywir gallwn sortio’r peth yn ddigon hawdd.
Dim ond un enw cyswllt ac un cyfeiriad ebost y gellir eu rhoi ar gyfer mudiad (a elwir yn y system hon yn ‘ddarparwr’). Dyma’r person a fydd yn cael hysbysiadau gan ddarpar wirfoddolwr.
Os oes gennych fwy nag un person cyswllt allweddol mae dau ddewis gennych: naill ai defnyddio cyfeiriad ebost cyffredinol y gall y ddau gael ato, neu, os ydych yn gyfrifol am rolau gwirfoddoli gwahanol neu ardaloedd gwahanol, cofrestrwch fel 2 (neu fwy) o ddarparwyr ar wahân, gydag enwau gwahanol megis Mudiad (Gogledd) a Mudiad (De); yna gall y ddau fod ag enw cyswllt a chyfeiriad ebost eu hunain.
Creu cyfleoedd
Rhaid i chi benderfynu a ydych am i wirfoddolwyr ‘ymuno’ neu ‘ymgeisio’. Os ydych am iddynt gofrestru a ‘throi lan’, ar sail y cyntaf i’r felin, dewiswch ‘ymuno’. Gallwch ddynodi faint o lefydd sydd gennych ar gael i wirfoddolwyr; dyweder bod angen 10 gwirfoddolwr arnoch, bydd y system yn rhoi gwybod i’r unfed person a’r ddeg sy’n mynegi diddordeb fod y cyfle yn ‘llawn’.
Tumblr media
I lawer o rolau gwirfoddoli ceir gwahanol gamau yn y broses recriwtio; efallai ffurflen gais ac yna sgwrs anffurfiol a sesiwn brawf neu sesiwn gynefino, cyn derbyn gwirfoddolwr. Os felly, dewiswch ‘ymgeisio’ bob tro. Gallwch lanlwytho ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall rydych am i wirfoddolwyr ei gweld ar yr adeg hon.
Os oes unigolion yn ymgeisio sy’n anaddas i’r hyn sydd gennych mewn golwg, gallwch ddewis ‘dileu’ i ddileu eu henw o’r rhestr ymgeiswyr a bydd ebost yn cael ei greu’n awtomatig yn cadarnhau eu bod wedi bod yn aflwyddiannus. (Gallwch hefyd anfon ebyst personol i gadw mewn cysylltiad ac efallai gynnig dewis arall a all fod yn fwy priodol).
Ar ddiwedd eich proses recriwtio, pa mor hir bynnag y mae’n ei gymryd, byddwch yn dewis ‘cadarnhau’ i anfon ebost wedi’i greu’n awtomatig at wirfoddolwyr ‘llwyddiannus’ yn cadarnhau eu bod wedi’u derbyn. Ni allwch newid testun y negeseuon sy’n cael eu creu’n awtomatig ond gallwch bob amser anfon eich ebyst eich hun, naill ai at unigolion neu at grŵp o wirfoddolwyr. Mae rhagor o gymorth ar greu cyfle ar gael yma: http://providerguide.teamkinetic.co.uk/introduction-2
Denu gwirfoddolwyr
Tumblr media
Fel o’r blaen, mae’n bwysig rhoi teitl clir ac atyniadol i’ch cyfle ynghyd â disgrifiad llawn. Nid yw’n orfodol rhoi gwybodaeth yn ddwyieithog ond anogir hynny’n gryf. Cofiwch y gall darpar wirfoddolwyr fod yn chwilio am gyfleoedd ar y wefan yn y naill iaith neu’r llall ac os nad yw’r allweddeiriau cywir yn eich cyfle ni fyddant yn dod o hyd i chi. Gallwch ddefnyddio tagiau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i helpu pobl i ddod o hyd i chi’n haws.
Tumblr media
Mae angen rhoi lleoliad penodol ar gyfer pob cyfle er mwyn mesur pellter, gan fod canlyniadau chwilio yn cael eu dangos yn ôl pellter o’r chwiliwr. Gall hyn fod yn broblem i rai cyfleoedd, efallai gan fod modd eu gwneud unrhyw le ac rydym wrthi’n ymchwilio i ffyrdd gwell o reoli hyn.
Am y tro, y peth gorau i’w wneud yw ei gwneud yn glir yn y disgrifiad ei fod yn gyfle y gellir ei wneud gartref, ledled y wlad, neu beth bynnag, a chreu copïau eraill o’r cyfle fel y gall pobl mewn lleoliadau gwahanol ddod o hyd i chi. Efallai hefyd y bydd defnyddio tagiau ar gyfer rhanbarthau neu drefi yn helpu.
Pa fath o gyfle gwirfoddoli yr ydych yn ei gynnig?
Tumblr media
Ar waelod y dudalen ‘Creu Cyfle’ gofynnir i chi benderfynu a yw’ch cyfle yn un sy’n ailadrodd, ddim yn ailadrodd neu’n hyblyg. Os yw’n gyfle untro, megis glanhau traeth neu ŵyl ar benwythnos, dewiswch yr opsiwn ddim yn ailadrodd. Os oes gan y cyfle sesiynau rheolaidd, ac rydych angen rota o wirfoddolwyr, dewiswch ailadrodd. Fel arall, mae’ch cyfle yn debygol o fod yn un hyblyg, h.y. dim oriau gosod, neu bydd y mudiad a’r gwirfoddolwr yn trafod yr oriau. Os nad ydych yn siwr, dewiswch y categori hwn.
Hyd yn oed ar gyfer cyfle parhaus mae angen i chi ddynodi dyddiad gorffen - gallai hwn fod yn flwyddyn neu fwy yn y dyfodol os mynnwch a bydd yn sicrhau’ch bod yn adolygu ac yn diweddaru cyfleoedd yn rheolaidd.
Gallwch hefyd reoli gwiriadau DBS a geirdaon a threfnu sesiynau cynefino i’ch gwirfoddolwyr - ond rhaid i ni beidio â rhedeg cyn y gallwn gerdded. Y cam cyntaf pwysicaf yw rhoi cyfleoedd ar y wefan cyn iddi fynd yn fyw, ddechrau mis Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd cyfleoedd sydd gennych ar hen wefan Gwirfoddoli Cymru yn cael eu hysbysebu mwyach.
Sut i ddechrau arni
Ewch i’r cyfeiriad gwe dros dro https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk i gofrestru ac i greu cyfleoedd. Gallech hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr prawf, chwilio am eich cyfleoedd gwirfoddoli eich hun ac ymuno â nhw er mwyn ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae’n gweithio. Ar ôl y dyddiad lansio, bydd y wefan ar gael ar www.volunteering-wales.net.
Gobeithiwn y bydd y system newydd o gymorth i chi wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a byddwn yn awyddus i glywed sut hwyl rydych yn ei chael arni, beth sy’n ddefnyddiol a gwnawn ein gorau i helpu gydag unrhyw anawsterau a gewch chi. Bydd y system a’n defnydd ohoni yn broses esblygol, heb os.
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ebostio [email protected] neu [email protected].
Mwy o hyn
Darllenwch ail flog Fiona am lwyfan newydd gwirfoddoli cymru:
Rwyf ar lwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - beth nawr?
0 notes
wcva · 7 years
Text
Sut ydych yn diogelu’ch gwirfoddolwyr?
Tumblr media
Mae swyddog y gwasanaeth diogelu Suzanne Mollison wedi bod am sgwrs â Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, ynglŷn â diogelu gwirfoddolwyr.
Mae gan bob mudiad ddyletswydd tuag at ei wirfoddolwyr i’w diogelu rhag cael eu cam-drin, yn union fel y maent yn diogelu eu buddiolwyr sy’n debygol o fod yn agored i niwed. Ydych chi’n credu bod mudiadau gwirfoddoli yn deall hyn?
‘Mae diogelu gwirfoddolwyr yn bwnc pwysig iawn i dynnu sylw ato. Rwy’n siwr fod y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddoli yn deall bod eu dyletswydd o ofal yn golygu y dylent sicrhau cyn lleied o risgiau â phosib fel nad oes neb yn cael ei niweidio wrth wirfoddoli.
‘Efallai nad yw’n glir bod hyn yn cynnwys eu diogelu rhag niwed neu gam-drin posib gan bobl eraill. Mae’n bwysig ein bod yn cofio y gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn agored i niwed; efallai eu bod o dan 18 oed ac felly’n blant yn llygad y gyfraith; efallai y bydd gan oedolion sy’n gwirfoddoli anghenion o ran gofal a chymorth, p’un ai a yw’r rhain yn cael eu diwallu ai peidio, gan gynnwys materion yn ymwneud ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anableddau dysgu, galluedd meddyliol.’
Sut y byddech chi’n awgrymu i fudiad gwirfoddoli roi sylw i anghenion gwirfoddolwyr a’u diogelu?
‘Dylai polisi diogelu cyffredinol gyfeirio’n benodol at anghenion gwirfoddolwyr. Dylid recriwtio gwirfoddolwyr drwy systemau priodol fel eu bod yn annhebygol o gael eu rhoi mewn sefyllfaoedd y byddent yn eu cael yn anodd neu’n ofidus. Dylid rhoi cyfle iddynt gael eu hyfforddi yn yr hyn mae angen iddynt ei wybod i chwarae rhan weithgar yn y mudiad, ac i gyflawni’r tasgau o’u blaenau yn ddigonol, a pheidio â’u hanafu na’u niweidio eu hunain, na neb arall, mewn unrhyw ffordd wrth wneud hynny.’
Mae yna lawer o arfer da cyffredinol mewn mudiadau a ddylai fod yn berthnasol i wirfoddolwyr megis iechyd a diogelwch, arferion gweithio diogel, polisi gweithio’n unigol, ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, goruchwyliaeth ac yn y blaen. A fyddech chi’n argymell y gellid defnyddio polisïau eraill sy’n ceisio cefnogi pobl nad ydynt wedi arfer â’r gweithle, er enghraifft, cynlluniau cyfaill, mannau i gael seibiant, cefnogi trefniadau teithio?
‘Yn bendant. Dylai pob polisi diogelu nodi’r ffyrdd y gallai pobl gael eu brifo, eu niweidio neu eu cam-drin a dweud beth sydd wedi’i roi yn ei le i leihau’r risgiau. Mae asesiad risg rheolaidd o gymorth mawr.’
Rwy’n aml yn sôn am ddull diogelu sy’n cynnwys y mudiad cyfan. Ydych chi’n credu bod hyn o gymorth i fudiadau gwirfoddoli?
‘Ydw, mae angen i bolisïau a hyfforddiant gyrraedd pawb. Mae fersiwn hawdd ei deall neu restr gyfeirio sydyn o bolisïau arferol staff yn ddefnyddiol iawn. Mae hyfforddiant yn hanfodol i’r unigolion sy’n gyfrifol am sicrhau arfer diogelu da; yr ymddiriedolwyr, swyddogion diogelu, rheolwyr llinell, swyddogion lleoliadau gwirfoddoli, ac yn y blaen, a sicrhau bod pawb yn gwybod pwy sy’n gwneud beth.’
A ydych yn meddwl bod rhai pobl yn dal i gredu nad yw diogelu yn rhywbeth y dylent fod yn ei wneud?
‘Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu. Mae’n helpu os yw polisïau diogelu yn dweud yn union sut y dylid ymateb i bryderon ynghylch diogelwch rhywun, gyda sensitifrwydd a chymorth, a sut y dylid eu rhannu/adrodd yn briodol o fewn eich mudiad, a’r tu hwnt os oes angen.’
Dylid sicrhau bod pob unigol dynodedig yn gwybod sut i adrodd bygythiad difrifol neu niwed i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid pwysleisio nad cyfrifoldeb neb yn y mudiad gwirfoddoli yw penderfynu a oes niwed neu gam-drin wedi bod, nid eu dyletswydd nhw yw ymchwilio, dim ond adrodd yr hyn maent yn ei wybod.
Mae Gwasanaeth Diogelu WCVA yn darparu gwybodaeth, adnoddau, cyngor a hyfforddiant i fudiadau trydydd sector sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed i wella polisïau ac arferion diogelu. I gael gwybod mwy ewch i http://www.wcva-safeguarding.org.uk/Hafan sy’n cynnwys offeryn hunanasesu diogelu, a gallwch gysylltu â’r llinell ymholiadau diogelu drwy ffonio 01745 357 574, neu drwy ein desg gymorth 0800 2888 329 neu drwy ebostio [email protected].
Gweler hefyd ein templed a’n harweiniad ar bolisi diogelu a’r daflen wybodaeth wirfoddoli ar ddiogelu.  
Yn fuan
Cynhelir y cwrs ‘Hyfforddiant sylfaenol Cymru gyfan ar ymwybyddiaeth o ddiogelu’ gydag achrediad lefel 2 yn y Rhyl ar 28 Tachwedd 2017 ac yng Nghaerdydd ar 13 Mawrth 2018.
Bydd modiwlau diogelu newydd ar gael ar Hafan Dysgu WCVA a bydd gweminar ar y cyd rhwng WCVA a Swydddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn edrych ar ddiogelu data a diogelu – mwy am hyn yn y man!
Gallwch gofrestru ar gyfer ein diweddariadau hyfforddi i gael gwybod am holl gyfleoedd hyfforddi WCVA.  
0 notes
wcva · 4 years
Text
‘Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’n sector’
Korina Tsioni yw Swyddog Datblygu Nod Ansawdd CGGC. Yma, mae hi’n siarad â BulliesOut ar ôl iddyn nhw adnewyddu’r nod ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yn ddiweddar, a pham dylai sefydliadau eraill gymryd rhan.
Sefydlwyd BulliesOut ym mis Mai 2006, ac mae’n un o elusennau gwrth-fwlio mwyaf ymroddedig ac uchelgeisiol y DU. Mae eu gwaith sydd wedi ennill gwobrau yn cael ei ddarparu ledled y DU, ac wrth weithio gydag ysgolion, colegau a lleoliadau ieuenctid a chymunedol, maent yn addysgu, hyfforddi a chefnogi miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn.
Tumblr media
Mae BulliesOut yn defnyddio eu profiad, eu hegni a’u brwdfrydedd yn eu gweithdai a’u rhaglen hyfforddiant arloesol a rhyngweithiol i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth, atal, meithrin empathi a pherthnasau cadarnhaol â chyfoedion. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol i greu amgylchedd anogol lle gall pobl ifanc a staff ffynnu.
Mae BulliesOut wedi llwyddo i adnewyddu’r wobr am y trydydd gwaith ac maen nhw’n tyfu’n gryfach gyda’u tîm o 20 o wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o swyddi. Siaradais â Linda James MBE, Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol BulliesOut, am daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (liV) y sefydliad:
Beth fu manteision cyffredinol cyflawni’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Yn BulliesOut, drwy wasanaethau mentora, gweithdai ymgysylltu a rhaglenni hyfforddiant, rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â bwlio. Mae cyflawni’r wobr yn dangos faint rydyn ni’n gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr gwych a’r rhan bwysig maen nhw’n ei chwarae yn yr elusen.’
‘Dim ond un gweithiwr rhan-amser sydd gennym, felly heb ein tîm o wirfoddolwyr ymrwymedig, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaethau hanfodol i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan fwlio.’  
Sut byddech chi’n disgrifio unrhyw heriau a wyneboch ar y daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  
‘Nid yw’r daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr golygu llawer o waith ychwanegol i’r sefydliad, ond fe gymerodd amser i ni allu trefnu'r diwrnod asesu olaf.’  
Sut mae’r rhaglen Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi effeithio ar eich gwirfoddolwyr?  
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi gweld bod ein brwdfrydedd i gyflawni’r wobr am y tro gyntaf ac yna i ddal ati i’w chyflawni’n bwysig iawn i ni fel sefydliad, ac rydyn ni’n awyddus i fuddsoddi yn y gwirfoddolwyr ac yn yr hyn mae’n ei gymryd i gyflawni’r wobr.’
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi teimlo’n rhan o’r daith ac rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi o ganlyniad i hynny.  
Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw’r safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i’ch sector?  
‘Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’r sefydliadau yn ein sector.’
‘Mae’n arddangos y gwerth clir a chynhenid sy’n cael ei roi ar y cyfraniadau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud at sefydliad, ac mewn nifer o achosion, mae’n dangos sut na fyddai sefydliadau yn bodoli nac yn ffynnu heb eu gwirfoddolwyr.’
Tumblr media
Yr hyn sy’n cymell BulliesOut yw eu gweledigaeth i rymuso ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i oresgyn bwlio a chyflawni eu llawn potensial. Eu nod yw cefnogi unigolion, ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol sydd wedi delio â bwlio.
Oes gennych chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill am sut i wneud y mwyaf o’u taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  
‘Ein cyngor i unrhyw sefydliad arall sy’n ystyried Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fyddai ymchwilio i’r safon ansawdd ymlaen llaw i wneud yn siŵr pan fyddwch chi’n penderfynu ymgymryd â'r daith, eich bod chi wedi rhoi’r cyfle gorau posib i chi’ch hun gyflawni'r safon.’  
Byddai’n dda rhoi sylw i unrhyw arferion arloesol ymysg y sefydliadau sydd wedi cyflawni’r wobr. Gallwch chi rannu un neu fwy o enghreifftiau o arferion da/arloesol sydd ar waith nawr o ganlyniad i’ch taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Ein henghraifft gorau o arfer da yw cyfathrebu’n dda ag unrhyw ddarpar wirfoddolwyr ar ddechrau eu taith.’
‘Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod eu disgwyliadau yn cael eu rheoli a’u bod nhw’n llwyr ymwybodol o’r hyn y disgwylir iddyn nhw ei wneud os byddan nhw’n penderfynu ymuno â’r tîm.’  
Rydych chi wedi cael yr achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers blynyddoedd – sy’n ymdrech arbennig. Pam benderfynoch chi adnewyddu eich gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  
‘Rydyn ni'n credu’n gryf y byddai peidio ag ystyried dal ati i gyflawni’r safon yn gam yn ôl ar ôl ymdrechu i gyflawni’r safon yn y lle gyntaf.’
‘Hefyd, rydyn ni’n credu bod ail-gyflawni’r wobr yn dangos ein hymrwymiad i’n tîm arbennig o wirfoddolwyr. Mae’r wobr yn ein galluogi ni i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau ac i ddiweddaru popeth yn rheolaidd.’
Hoffem wybod pa fentrau creadigol gyda gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith sylweddol ar fynd i’r afael â phroblem/mater yn eich cymuned leol.  
‘Ein menter fwyaf creadigol gyda gwirfoddolwyr yw’r Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc wirfoddoli gyda’r Elusen.’
‘Cafodd y rhaglen ei datblygu ar ôl sawl cais gan bobl ifanc a oedd eisiau cymryd rhan yn ein gwaith. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael hyfforddiant seiliedig ar sgiliau ac i weithio at wobr sy’n cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol.’
Cliciwch yma os hoffech ragor o wybodaeth am BulliesOut a chymryd rhan! https://bulliesout.com/get-involved/
Dysgu mwy am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a chysylltu â Korina yn [email protected] neu @korinations os oes gennych unrhyw gwestiynau a/neu syniadau.
0 notes
wcva · 4 years
Text
Diogelu yn y Sector Gwirfoddol – Beth Sy’n Bwysig?
Tumblr media
Yn dilyn lansio fersiwn newydd o Drefniadau Diogelu Cymru ym mis Tachwedd, gofynnodd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC i rai o’i chydweithwyr rannu eu syniadau ynglŷn â diogelu yn y sector gwirfoddol.
Lansiwyd fersiwn newydd o Drefniadau Diogelu Cymru ym mis Tachwedd. Mae’r Trefniadau newydd yn adeiladu ar y canllawiau a osodwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ( Cymru) 2014  gyda’r nod o fod o gymorth i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion – p’un a yw’n waith â thâl neu’n waith di-dâl, ym mhob sector. 
Prif swyddogaeth y trefniadau newydd yw egluro’n union yr hyn a ddisgwylir o’r unigolyn mewn perthynas â Diogelu. Er enghraifft, ceir ynddynt nid yn unig awgrymiadau ar gyfer arfer da ond hefyd amserlenni penodol ar gyfer tasgau penodol a phryd y dylid eu cwblhau. 
Dolen perthnasol: Dysgwch mwy am y gweithdrefnau diogelu newydd yn ein gweminar sy’n dod diwedd y mis
Gofynnais i rai o’m cydweithwyr yn y sector gwirfoddol beth, yn eu barn nhw, yw’r peth pwysicaf y dylai sefydliad yn y sector gwirfoddol ei wneud i ddiogelu eu buddiolwyr, y gwirfoddolwyr, a/ neu eu staff ac ymddiriedolwyr, wrth i ni symud ymlaen i 2020.
‘Dylai gwirfoddoli fod yn hwyl, ond hefyd yn ddiogel’ 
Ann Woods yw Prif Swyddog ac Arweinydd Diogelu Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint ac mae wedi gweithio am 15 mlynedd o fewn Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd y Trydydd Sector. 
Dywed: “Fel sefydliadau yn y Trydydd Sector sy’n darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, credaf y dylem sicrhau:
mai llesiant ein defnyddwyr sy’n hollbwysig – dylem amddiffyn hawliau a buddiannau defnyddwyr a gofalwyr;
bod ein gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi er mwyn gallu ymdopi â’r heriau sy’n dod yn sgil darparu gwasanaethau cyhoeddus – dylai gwirfoddoli fod yn hwyl ond hefyd yn ddiogel!
bod gan ein staff yr wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth i ddiogelu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’n sefydliad rhag niwed, gan leihau’r risg drwy ddefnyddio arferion da sy’n seiliedig ar bolisïau da. 
Os oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Ddiogelu, mae’n hanfodol i ni i gyd geisio cael cefnogaeth ( i ni’n hunain a’n cymdeithas). Gallwch gael cymorth gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (a gefnogir gan Wasanaeth Diogelu CGGC). 
Gallwch ddod o hyd i bob Cyngor Gwirfoddol Sirol yma:
Cefnogi Trydydd Sector Cymru 
‘Mae pawb yn gyfrifol am Ddiogelu’ 
Carl Harris yw Uwch Ymgynghorydd Hyfforddiant a Datblygiad (Cymru) yr NSPCC. 
Mae hefyd wedi ystyried y cwestiwn hwn. Dywed Carl y dylai sefydliad o fewn y sector gwirfoddol ddiogelu drwy: 
(Ar gyfer Buddiolwyr) Sicrhau bod gan fuddiolwyr lais sy’n cael ei glywed
(Ar gyfer Gwirfoddolwyr) Mae’n hanfodol i wirfoddolwyr gael cwrs sefydlu amserol ac addas sy’n cynnwys hyfforddiant diogelu angenrheidiol ac ymwybyddiaeth o bolisi a gweithdrefnau’r sefydliad o ran yr hyn i’w wneud os cyfyd unrhyw bryderon ynglŷn â lles unrhyw blentyn neu oedolyn
(Ar gyfer Staff ac ymddiredolwyr) Sicrhau bod pob aelod o staff a phob ymddiriedolwr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu gan fod ‘diogelu yn gyfrifoldeb i bawb’ 
Mae’r NSPCC wedi bod yn lledaenu’r neges hon ers tro bellach. Diolch, Carl, am ein hatgoffa. 
Felly y neges sylfaenol yw bod diogelu yn golygu ymdrech fel tîm a chydgyfrifoldeb.
Gallwn i gyd gyfrannu a gwneud gwahaniaeth er mwyn diogelu pawb a lleihau’r risg o gam-drin, niwed ac esgeulustod. 
Ni ddylai un person, ac ni all un sefydliad, wneud hyn ar ei ben ei hun. Cofiwch fanteisio ar y cyfleoedd amrywiol i gael cymorth a chefnogaeth y cyfeiriwyd atynt uchod. 
Mae Suzanne Mollison yn Swyddog Diogelu gyda CGGC. Am Wybodaeth a Chefnogaeth ynglŷn â Diogelu edrychwch ar y tudalennau gwe ar ddiogelu neu ffoniwch 0300 111 0124 (opsiwn 6).
0 notes
wcva · 4 years
Text
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – barn aseswyr
Tumblr media
Fiona Liddell a Lorraine Waumsley sy’n myfyrio ar y gorfoledd a’r heriau wrth asesu mudiad ar gyfer gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Mae asesu mudiad ar gyfer y safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dreth a weithiau’n feichus, ond gan amlaf yn rhoi budd mawr ac yn broses ysbrydoledig drylwyr. Mae wastad yn fraint.  
Mae’n gofyn i’r asesydd ymgyfarwyddo â manylion arferion y mudiad yn ogystal â chwrdd â detholiad o staff a gwirfoddolwyr i siarad â hwy am eu profiadau o wirfoddoli. 
Rhaid i'r asesydd gynllunio logisteg y diwrnodau asesu, gan gynnwys dewis sampl gytbwys i’w cyfweld a llunio amserlen realistig. Ar ôl hynny, rhaid iddo ef neu hi ysgrifennu adroddiad sy'n gryno ac yn wrthrychol, gan fodloni union ofynion Panel Sicrwydd Ansawdd y DU ac, yn bwysicaf oll, sy’n ddefnyddiol i'r mudiad yn ei broses o sicrhau gwelliant parhaus. 
Mae’r rhan fwyaf o’r mudiadau a asesir yng Nghymru yn fach, ac mae'r asesiad wyneb yn wyneb yn cymryd diwrnod yn unig. Yn ddiweddar, gwnaethom reoli asesiad y  Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol - ar gyfer ail adnewyddu ei Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Yn gweithredu mewn tair gwlad yn y DU, dros gyfnod o flwyddyn mae bron i 20,000 o wirfoddolwyr yn cefnogi'r elusen gyda chymorth ychydig dros 1,000 o staff.
Gan fod prif swyddfa'r elusen yng Nghaerdydd, cymerodd CGGC yr awenau wrth reoli'r asesiad hwn ledled y DU, a oedd yn cynnwys 7.5 diwrnod o asesiadau wyneb yn wyneb, a gynhaliwyd gan dîm o 4 asesydd ledled Prydain. 
Lorraine, un o’n haseswyr profiadol yng Nghymru, oedd yn gyfrifol am gydlynu’r asesiad ac ysgrifennu’r adroddiad. Gofynnais iddi beth oedd mor arbennig am yr asesiad hwn.   
‘Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn datblygu model diddorol o wirfoddoli ar gyfer y dyfodol’ 
‘Roedd hwn yn ‘farathon’ o asesiad, ar gyfer y mudiad ac ar fy nghyfer i,’ meddai Lorraine. 
‘Nid yn unig oherwydd faint o wirfoddolwyr a staff oedd ynghlwm â’r gwaith, ond hefyd oherwydd eu bod yn mynd drwy gyfnod o newid mawr. 
‘Mae llawer o wirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn cymryd rhan mewn prosiectau a arweinir gan wirfoddolwyr, gyda’r elusen yn darparu rôl gefnogol yn hytrach na chyfarwyddol, sy’n ei gwneud yn fwy o her i gysylltu â gwirfoddolwyr a threfnu cyfweliadau. 
‘O ganlyniad, cynhaliwyd llawer o gyfweliadau dros y ffôn, i gael sylwadau eang. Fe wnaeth y rhain, a'r gwaith tîm gwych gan gydweithwyr, ein galluogi i gael ymdeimlad go iawn o'r mudiad a'i holl amrywiaeth. Fel asesydd, mwynheais y dull cydweithredol hwn yn fawr. 
‘Roeddwn yn llawn edmygedd o barodrwydd y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol i ymroi adnoddau arwyddocaol, o amser staff ac arian, ar gyfer y broses asesu, a pha mor barod oeddynt i dderbyn y materion dysgu a datblygu a godwyd. 
‘Roeddwn hefyd yn edmygu’r weledigaeth gref ar gyfer arwain y broses o newid ar gyfer y mudiad – roedd yn ymddangos yn benderfynol ond hefyd yn parchu hanes gwerthfawr y mudiad, sy’n cynnwys gwasanaeth hir gan lawer o wirfoddolwyr.   
‘Roedd amrywiaeth a graddfa cynigion gwirfoddoli’r elusen, a maint eu cydweithrediad â'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn llawer mwy na’r hyn yr oeddwn i wedi’i dybio – ac yn fwy nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono o bosib. 
‘Gwnaeth argraff arbennig arnaf, er enghraifft, wrth i mi ddarganfod bod yr elw a gynhyrchir gan gaffis, siopau a gwasanaethau troli mewn ysbytai yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau gofal sy'n galluogi cleifion i ddychwelyd adref gyda chymorth. 
‘Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn datblygu model diddorol o wirfoddoli ar gyfer y dyfodol. Dyna’n union yw’r prosiectau sy'n cael eu harwain gan Wirfoddolwyr, er enghraifft. Mae rhywun yn gweld angen yn eu cymuned – gall fod yn wasanaeth gyfeillio, neu'n sefydlu clwb cinio neu gaffi cymunedol. 
‘Mae'r holl waith trefnu a recriwtio gwirfoddolwyr yn cael ei wneud yn lleol, gan y gwirfoddolwyr eu hunain, ac mae'r elusen yn cefnogi'r prosiect gyda materion cydymffurfio, yswiriant, hyfforddiant, adnoddau a chyngor yn ôl yr angen i helpu. 
‘Mae gwasanaethau eraill, fel y rhaglen Camau Cadarn, yn rhaglenni sy’n cael eu hariannu neu eu comisiynu ac yn cael eu rheoli'n agosach er mwyn sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt. 
‘Mae gwers arall a ddysgais gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol sy'n werth ei rhannu, sy’n ymwneud â defnyddio gwybodaeth ddemograffig yn ddeallus er mwyn marchnata. 
‘Yn Llundain, er enghraifft, mae'r elusen wedi nodi ardaloedd cod post sydd â chanran uchel o bobl iau ac wedi hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli sy'n ymwneud â'r ardaloedd daearyddol hyn ar y radio a'r cyfryngau cymdeithasol, mewn ymgais i ddenu gwirfoddolwyr iau. 
‘Mae cyfeiriad e-bost a rhif ffôn canolog pwrpasol ar gyfer rhannu canmoliaeth, cwynion a sylwadau gan wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Mae hyn yn helpu i nodi straeon newyddion da ynghyd â nodi problemau posib yn gynnar.’ 
‘Mae’r wobr hon yn fwy gwerthfawr oherwydd ei bod yn cydnabod faint rydym yn gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn ein gwirfoddolwyr’ 
Dilyswyd penderfyniad asesu’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yng nghyfarfod mis Hydref y Panel Sicrwydd Ansawdd, ac rydym yn falch iawn o allu llongyfarch yr elusen ar eu llwyddiant. 
Dywedodd Jennifer Codman, Partner Gwirfoddolwyr yn y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol: ‘Roedd cydlynu’r gwaith o adnewyddu’r cais Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn her ar adegau o ystyried maint ein sefydliad, y safleoedd lluosog, a’r timau amrywiol o staff a gwirfoddolwyr y bu’n rhaid i mi gysylltu â nhw i drefnu ymweliadau asesu a chyfweliadau. Ond roedd hefyd yn brofiad hynod o werth chweil a chawsom adborth gwych gan yr holl bobl a gymerodd ran. 
‘Mae hyn wedi ein galluogi ni i wneud rhai newidiadau cadarnhaol i’r ffordd rydym yn gwneud pethau. O ganlyniad, rydym wedi sefydlu nifer o brosiectau, a gobeithiwn y byddant yn gwella profiad gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ymhellach. 
‘Buaswn yn annog unrhyw fudiad sy’n bwriadu trio am y wobr hon i gymryd y camau cyntaf ac i wneud ymholiadau – mae’r broses wedi ein helpu ni’n wirioneddol i adolygu’r ffordd yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, yn eu rheoli ac yn eu grymuso i roi eu hamser a chefnogi ein gweithgareddau mewn cymunedau lleol.’ 
Dywedodd Laura Morgan, Pennaeth Gwirfoddoli’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol:  ‘Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol yn falch iawn o gynnal ei statws Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am dair blynedd arall. 
‘Ers dros 80 mlynedd, mae’n gwirfoddolwyr wedi bod wrth galon y mudiad ac mae’r wobr hon yn fwy gwerthfawr oherwydd ei bod yn cydnabod faint rydym yn gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn ein gwirfoddolwyr. 
‘Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, nawr yn fwy nac erioed, rydym angen i bobl gynnig eu cymorth, ac mae gennym darged uchelgeisiol i gynyddu niferoedd ein gwirfoddolwyr. 
‘Ond i wireddu hyn, mae’n angenrheidiol ein bod yn cynnig y profiad gorau posib i wirfoddolwyr, gan gynnwys roliau â gwerth iddynt ac hefyd i gyflwyno dulliau newydd o wirfoddoli i’w gwneud yn haws i bobl chwarae eu rhan, a denu pobl o gefndiroedd amrywiol ar yr un pryd. 
‘Yn ogystal â chydnabod ein gwybodaeth ac arbenigedd helaeth, darparodd y broses ail asesu ar gyfer y wobr adborth gan wirfoddolwyr a staff, a mewnwelediad amhrisiadwy a fydd yn ein galluogi i berffeithio ein cynnig i wirfoddolwyr.’ 
Mae Lorraine Waumsley yn Asesydd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. 
Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol) a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial ar gyfer gwirfoddoli mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi hefyd yn Brif Asesydd sy’n gyfrifol am oruchwylio safonau asesiadau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gan gynnwys asesiad y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.
0 notes
wcva · 4 years
Text
All gwirfoddoli helpu i sicrhau gwell iechyd a gofal?
Tumblr media
Trefnwyd seminar gan Helplu ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ddwyn ynghyd 36 o bobl o wahanol gefndiroedd ym maes ymchwil, ymarfer gwirfoddoli, cynllunio a pholisi. Yma, mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu, yn ystyried y digwyddiad, y themâu sy’n dod i’r amlwg a rôl Helplu.
Rhoddodd Rheolwr Tystiolaeth Helpforce UK, Dr Roland Marden, gyflwyniad ar adolygiad cyffredinol o dystiolaeth a gomisiynwyd gan Helpforce UK a rhai canfyddiadau cynnar hefyd o raglen Arloeswyr Gwirfoddol Helpforce UK.  Mae Helpforce UK yn gweithio gyda 12 Ymddiriedolaeth y GIG yn Lloegr sy’n cynnal prosiectau ymyrraeth peilot (wedi’u hariannu gan GIG Lloegr) ac yn archwilio sut i drawsnewid gwirfoddoli mewn ysbytai ac o amgylch ysbytai, er mwyn cynyddu’r effaith ar gleifion, staff a gwasanaethau yn ogystal ag ar y gwirfoddolwyr eu hunain.  
Mae profiad y prosiectau a’r partneriaid hyn, ynghyd â’r data a gesglir ar effaith a rhannu syniadau drwy rwydwaith dysgu ehangach, o gymorth i ni wella dealltwriaeth o sut i ddatblygu a dylunio dulliau gwirfoddoli effeithiol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd a beth sydd angen ei roi ar waith er mwyn i hyn ffynnu. Y nod yw canfod beth yw elfennau hanfodol llwyddiant sy’n galluogi modelau gwirfoddoli da i gael eu trosglwyddo, a’r hyn sydd angen ei addasu neu ei newid yn lleol.
Mae’r cwestiynau hyn yn rhai pwysig i’r GIG cyfan, er nad ydynt yn aml o ddiddordeb mawr i’r rhai sy’n rhedeg prosiectau ar lefel leol.
Safbwynt Cymru
Ymatebodd tri aelod o’r panel i gyflwyniad Roland Marden: sef Carl Cooper, Angela Hughes a Nick Andrews, gan gyflwyno safbwyntiau cyngor gwirfoddol sirol, profiad nyrsys a chleifion ac ymchwil gofal cymdeithasol, yn y drefn honno. Paratowyd y ffordd ar gyfer trafodaethau eang iawn.
Mae ein fframweithiau strategol yng Nghymru (yn Cymru Iachach a’r  Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) yn ein hannog i feddwl am atal salwch, darparu gwasanaethau yn nes at y cartref ac adeiladu modelau gofal integredig sy’n croesi ffiniau traddodiadol y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gyfle i feddwl, cynllunio a chomisiynu mewn ffordd integredig a chynnwys amrywiaeth ehangach o bartneriaid yn y gwaith o lunio gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae potensial mawr i unigolion gyfrannu at well iechyd a gofal, fel dinasyddion yn eu cymunedau ac fel gwirfoddolwyr mewn sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, fel y GIG.
Oni fyddai’n wych pe gallai gwaith cynllunio rhanbarthol, fel mater o drefn, gynnwys gwirfoddoli fel dull o ddiwallu blaenoriaethau iechyd penodol, gydag adnoddau priodol yn cael eu neilltuo er mwyn galluogi hyn?
Beth sy’n peri rhwystr?
Mae dadlau o blaid gwirfoddoli fel dadlau dros ‘de a thost’. Mae pawb yn gwybod ei fod yn ‘beth da’ o ran lles unigolion a chymunedau. Mae’n cyfrannu at lawer o Nodau Llesiant Cymru; fel Cymru Iachach ond, hefyd, Cymru Gydnerth, Cymru sy’n Fwy Cyfartal a Chymru o Gymunedau Cydlynus (Lle mae gwirfoddoli yn llwybr tuag at gyflogaeth, mae hefyd yn cyfrannu at Gymru Lewyrchus a lle y defnyddir y Gymraeg, mae’n cyfrannu at Gymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).
Ond nid yw hyn yn ddigon i argyhoeddi cynllunwyr a chyllidwyr i fuddsoddi mewn gwirfoddoli nac, ychwaith, i ymddiried yn ei botensial i wneud gwahaniaeth i ganlyniadau iechyd a chanlyniadau cymdeithasol.
Mae angen tystiolaeth arnom. Mae lle i waith ymchwil academaidd, i ateb cwestiynau allweddol gyda thystiolaeth gadarn ddilys (yn mesur yr hyn y dylai ei fesur) a dibynadwy (yn cynhyrchu canlyniadau cyson). Ond mae mathau eraill o dystiolaeth hefyd - dulliau mwy ailadroddol o werthuso a allai helpu i wella ymarfer a dangos effaith. Mae’n bosibl “dysgu am yn ôl”, gan fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd, a’r hyn sydd wedi cyfrannu at y canlyniad a ddymunwyd ac a nodwyd.
Mae’r prosiect Datblygu Tystiolaeth –Gwella Ymarfer ym Mhrifysgol Abertawe yn arwain ar greu cysylltiadau rhwng gwaith ymchwil ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol a datblygu methodolegau ar gyfer mesur effaith ystyrlon. Mae Inspiring Impact yn cynnig adnoddau a hyfforddiant ar-lein wedi’u hanelu at sefydliadau gwirfoddol yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu i gymheiriaid. Mae Helpforce UK yn datblygu pecyn cymorth Insight and Impact, yn seiliedig ar ei brofiad o werthuso’r rhaglen Arloeswyr Gwirfoddol. Pan gaiff hwn ei gwblhau, bydd ar gael fel fframwaith i eraill ei ddefnyddio.
Mae angen mwy o ystyriaeth gydgysylltiedig sy’n seiliedig ar asedau - er mwyn defnyddio adnoddau sydd ar gael eisoes, ac adeiladu arnynt. O ran gwirfoddoli, mae gan sefydliadau gwirfoddol y sgiliau, y profiad a’r capasiti ar gyfer arloesi na ellir ei anwybyddu. Ond mae’r amgylchedd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithredu ynddo yn fregus ac mae mympwyon cyllido a chomisiynu yn golygu bod prosiectau da, staff da a chysondeb yn cael eu colli am y rhesymau anghywir. Yr her o hyd yw llunio systemau gofal integredig gyda lle i bawb: gweithwyr proffesiynol, gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau statudol a gwirfoddol, i greu adeiladwaith cydgysylltiedig a chynaliadwy.
Mae angen i ni barhau i ddatblygu dulliau hyblyg a phriodol o gynnwys gwirfoddolwyr. Mewn amgylchiadau ffurfiol, mae safonau ymddygiad a chysondeb wrth ymarfer yn bwysig. Ond ni ddylai hynny olygu bod ‘un dull yn addas i bawb’ o ran recriwtio a chymorth, er enghraifft. Gallai gwirfoddoli gael ei wneud yn fwy deniadol ac yn fwy hygyrch i bobl ifanc, i’r rhai nad oes ganddynt fawr o amser a’r rhai sydd â sgiliau neu anghenion penodol.  
Mae arolwg diweddar o dros 10,000 o oedolion, sef Time Well Spent, yn rhoi cipolwg da ar brofiad gwirfoddoli o ansawdd da i wirfoddolwyr, a gall hyn ein helpu i deilwra ein ‘cynnig’ gwirfoddoli i amrywiaeth ehangach o wirfoddolwyr.  Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wrthi’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, ac yn cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer rheoli gwirfoddoli.
Yn llai ffurfiol, mae ysbryd cymunedol a chymwynasgarwch yn cyfrannu’n sylweddol at ein hiechyd a’n lles, gyda llawer iawn o garedigrwydd dynol yn meithrin iechyd a hapusrwydd ar lawr gwlad!
Beth y gall Helplu ei wneud?
Sefydlwyd Helplu prin dair blynedd yn ôl. Deilliodd o’r GIG yn Lloegr, gyda’r weledigaeth o drawsnewid gwirfoddoli o fewn y GIG. Mae wedi datblygu’n gyflym ac mae bellach yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y GIG a’r sector gwirfoddol. Yn ogystal â gweithio gyda phrosiectau lleol fel y disgrifir uchod, mae hefyd yn creu parodrwydd a chapasiti ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr drwy, er enghraifft, weithio gydag arweinwyr clinigol a thrwy ddatblygu adnoddau addysgol a rhwydwaith dysgu i gymheiriaid. Yn ddiweddar, cafodd gontract gan y GIG yn Lloegr i gefnogi’r broses o ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal integredig, rhanbarthol sy’n ymgorffori gwirfoddoli.
Mae Helplu yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n datblygu’r gwaith mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’w cyd-destun cenedlaethol eu hunain.
Yng Nghymru, mae gan Helplu, a gaiff ei gynnal gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rôl yn y gwaith o barhau i agor y ddadl, dylanwadu ar y rhai sydd mewn grym i feddwl yn wahanol am y posibiliadau ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr ac annog buddsoddi mewn adnoddau ac arweinwyr sy’n cefnogi hyn. Mae’n tynnu sylw at ymarfer rhagorol,  gan rannu storïau i eraill ddysgu ohonynt a chael eu hysbrydoli ganddynt. Mae’n cysylltu unigolion a phrosiectau gyda mentrau cenedlaethol (Cymru a’r DU) ac arbenigedd ehangach. Mae’n cyflwyno safbwynt Cymru i rai o ddatblygiadau Helpforce UK, gan gynnwys porth addysg ar gyfer gwirfoddolwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr a safonau cynefino ar gyfer gwirfoddolwyr mewn iechyd a gofal.  Ac yn olaf, mae wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ychydig o brosiectau peilot yng Nghymru, fel rhan o raglen y DU gyfan gan Helpforce/Marie Curie i gydnabod, gwella ac ehangu rôl gwirfoddoli ym maes gofal diwedd oes.
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.    
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fiona Liddell  [email protected]  029 2043 1730
0 notes
wcva · 4 years
Text
Buddsoddwch yn eich gwirfoddolwyr - dilynwch esiampl Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Tumblr media
‘Korina Tsioni yw Swyddog Datblygu Marc Ansawdd CGGC. Yma, mae’n sôn am ei hymweliad diweddar â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot a sut mae’r Cyngor wedi llwyddo i ennill ei drydydd marc ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. 
Mae’n fore Gwener, mae’r arllwys y glaw ac rwyf ar fy ffordd i Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot i gwrdd â Gemma Richards, Uwch Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr
Yn y gorffennol, mae Gemma wedi bod yn gynghorydd Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, felly mae’n cynorthwyo y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad gyda phob mater sy’n ymwneud â Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Mae’n fy nghyfarch gyda gwên fawr groesawgar ac yn dangos y ffordd i’r ystafell gyfarfod glyd i fyny’r grisiau. Rydym yn dilyn y llwybr ochr i’r ystafell rhag amharu ar y cyrsiau dysgu a’r cyfarfodydd sy’n digwydd yng ngweddill yr adeilad.
Ar ôl gwneud ein hunain yn gyfforddus a chyda phaned o de yn ein llaw, rydym yn dechrau sgwrsio am bopeth yn ymwneud â ‘Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’ yng Nghastell-nedd Port Talbot…
Prosiectau Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Mae’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol wedi cyflawni’r nod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers chwe blynedd bellach, a’r mis diwethaf, llwyddodd i adennill y wobr.
Mae pedwar prosiect sy’n annibynnol ar y Ganolfan Wirfoddoli graidd y mae’r sefydliad yn eu rhedeg nawr, ond mae pethau’n llawer llai cymhleth o edrych yn fanylach arnynt, fel y dangosodd Gemma i mi yn ei llyfr nodiadau
Gwasanaeth Gwirfoddoli Gwasanaethau Cymdeithasol – gwasanaeth gwirfoddoli i oedolion yn y gwasanaethau cymdeithasol yw hwn. Gall y cyfleoedd gwirfoddoli fod yn rhai hirdymor. Cefais fy siomi ar yr ochr orau o glywed bod rhai gwirfoddolwyr yn ymgysylltu am flynyddoedd lawer ac yn meithrin perthynas gref â’r unigolion y maent yn eu cefnogi.
Prosiect gwirfoddoli cymorth i deuluoedd – Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli am gyfnodau penodol, gan fod angen cymorth tymor byr ond dwys ar y teuluoedd gan wirfoddolwyr am gyfnod o 12 wythnos.
Prosiect Cyfeillion Cymunedol     – Mae’r prosiect yn cwmpasu ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Caiff ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n darparu     cymorth i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.
Prosiect Cymorth Ymgysylltu ag Ieuenctid – Caiff hwn ei arian gan yr awdurdod lleol i gefnogi pobl ifanc NEET (pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) er mwyn gwella eu sgiliau cymdeithasol a chyflogadwyedd.  
Mae Gemma’n sgwrsio â mi am y 6 aelod rhyfeddol o staff sy’n gyfrifol am ardal eang lle mae galw mawr am wirfoddolwyr. Yn ffodus, mae brwdfrydedd a gwaith caled y tîm yn diwallu’r anghenion lleol. Ar hyn o bryd, maent yn ymgysylltu â 52 o wirfoddolwyr ar draws yr holl brosiectau.
Rwy’n pendroni am y risgiau a’r materion diogelu sy’n gysylltiedig â’r math hwn o waith (fy nghefndir ym maes gwaith ieuenctid yn dod i’r amlwg, siŵr o fod), felly rwy’n gofyn, ‘sut mae tîm Gemma yn rheoli’r risgiau wrth weithio mor agos â’r holl unigolion bregus hyn?’
Ymateb hyderus Gemma yw: ‘‘Gwneir gwiriadau fetio manwl iawn ar wirfoddolwyr. Mae’r Swyddogion Datblygu yng Nghyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn brofiadol iawn a chaiff hyn ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o bynciau hyfforddi y maent yn eu darparu i’r gwirfoddolwyr. Caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi ar sut i gefnogi unigolion bregus a sut i ddiogelu eu hunain wrth wirfoddoli’’.
Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn gwirio pob polisi a gweithdrefn fewnol ac yn cyfweld â gwirfoddolwyr i sicrhau darpariaeth ragorol. Yn ogystal â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y geirda am gymeriad gwirfoddolwr ac asesiadau risg, dywed Gemma y caiff y gwirfoddolwyr eu gwylio ar sail 1-1 ac mewn gweithgareddau grŵp er mwyn sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer y rôl.
Mae hefyd yn pwysleisio bod y cyfathrebu rhwng gwirfoddolwyr a buddiolwyr yn glir iawn, gan fod cyfrifoldebau a rolau gwirfoddolwyr wedi’u nodi’n glir mewn cytundeb gwirfoddoli y mae pawb yn cadw ato.
Mae pawb yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan y gwirfoddolwyr ac mae goruchwyliaeth bellach bob amser, a chyfathrebu agored gyda phawb pan fydd angen. Mae’n egluro nad rhywun i gymryd lle aelod o staff cyflogedig yw gwirfoddolwyr.
“Mae gwirfoddolwyr yn eu lle i ategu gwasanaethau statudol ac maent yn ychwanegu gwerth sylweddol at y gwasanaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gall gwirfoddolwyr ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol, ac weithiau, y cyfan sydd ei angen yw clust i wrando er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.”
Soniodd Gemma wrthyf hefyd am y Ganolfan Wirfoddoli ei hun, sydd ar wahân i’r prosiectau annibynnol a nodir uchod. Drwy wasanaeth y Ganolfan Wirfoddolwyr, caiff gwirfoddolwyr eu cefnogi i wirfoddoli gyda sefydliadau allanol mewn amrywiaeth eang o rolau. Cefnogir sefydliadau hefyd i gryfhau eu harferion da o ran gwirfoddoli fel bod gwirfoddolwyr a gaiff eu cyfeirio atynt gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, yn cael eu lleoli mewn sefydliadau sy’n ddiogel ac yn gefnogol. 
Tumblr media
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ym mhrosesau ac arferion craidd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Wrth weld angerdd Gemma tuag at ansawdd mewn ymarfer dyddiol, cawn drafodaeth ddwys am Sicrwydd Ansawdd yn y trydydd sector yng Nghymru.
Dywed Gemma fod gan bob sector eu safonau ansawdd eu hunain i brofi eu gwaith rhagorol iddynt hwy eu hunain ac i eraill. “Pam y dylai’r trydydd sector fod yn wahanol? Mae llawer o’r cyllid yn arian cyhoeddus ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio’n effeithiol”.
Mae Gemma yn credu ei bod yn bwysig Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ond mae’n cydnabod nad yw pob sefydliad mewn sefyllfa i gynnal asesiad llawn o safonau ansawdd. Mae’n awgrymu y dylai sefydliadau ddefnyddio’r gwiriad iechyd, fan leiaf, fel hunanasesiad i ganfod unrhyw anghenion datblygu a chysylltu â’u Cyngor Gwirfoddol Sirol os oes angen cymorth arnynt i wella eu harferion da ym maes gwirfoddoli.  
“Mae’r trydydd sector yn cwmpasu nifer fawr o staff proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae’r holl sgiliau, gwybodaeth a phrofiad o fewn y sector yn syfrdanol ac mae safonau ansawdd fel Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac Elusen Ddibynadwy yn dystiolaeth o hyn”.
Mae Gemma a’i thîm yn cefnogi pob mudiad gwirfoddol yn ardal Castell-nedd Port Talbot i gael mynediad at feini prawf Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a deall y meini prawf hynny. Dywed ei bod yn well gan rai gwirfoddolwyr ymgysylltu â sefydliadau sydd â Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gan eu bod yn teimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus o wybod mai yno y byddant yn cael y profiad gorau.
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn angerddol dros ymgysylltu â’i wirfoddolwyr ac yn parhau i feithrin cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan yn y cyfleoedd hynny a chymdeithasu; gan gynnwys Cinio Nadolig, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a dathliadau arbennig i wirfoddolwyr. Maent yn codi ymwybyddiaeth o wirfoddolwyr lleol, yn eu henwebu am wobrau ac yn diolch iddynt am eu gwaith anhygoel.
Mae Gemma wedi ei chyffroi gan ffilm fer newydd a gaiff ei chynhyrchu gan wirfoddolwyr sy’n ychwanegu gwerth at y bwrdd iechyd lleol. Mae ganddi lawer o barch at eu gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth a byddai’n fwy na pharod gweithio gyda rhagor o bobl ifanc gyda sgiliau TG a sgiliau Cyfryngau, felly lledaenwch y gair yn ardal Castell-nedd Port Talbot a chysylltwch os oes gennych ddiddordeb! 
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gan mai un o’r pethau rwy’n teimlo fwyaf angerddol drosto yw Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, holais Gemma ynghylch grwpiau oedran a chefndiroedd y gwirfoddolwyr. Rwy’n falch o glywed bod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar hyn yng Nghyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot hefyd!
Dywed Gemma fod monitro ar gyfer y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi bod o fudd i ganfod y meysydd lle mae ymgysylltiad wedi bod yn isel. Cymerwyd camau unioni a bellach mae’r niferoedd wedi cynyddu, ond heb y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, mae’n bosibl na fyddai hyn wedi dod i’r amlwg.
Hefyd, bu gwaith monitro Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr o gymorth i ganfod amrywiaeth y grŵp y maent yn gweithio gydag ef a sut mae’r patrwm yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae rhagor o ymgysylltiad ieuenctid wedi cael ei fonitro’n ddiweddar, sy’n newid dulliau gweithredu’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol yn gyson (ac yn gadarnhaol!) gan sicrhau eu bod yn gyfoes.
Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi ysbrydoli’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol i wneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn cael y gefnogaeth briodol, a bydd hyd yn oed rhagor o grwpiau amrywiol yn cymryd rhan yn y dyfodol. Dywed Gemma hefyd fod y Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol, drwy rannu profiad a gwybodaeth, yn fwy na pharod i weithio gyda phob sefydliad yn yr ardal sydd angen unrhyw gymorth ychwanegol i sicrhau bod arferion ac adnoddau yn eu lle ganddynt i ddiwallu anghenion pob unigolyn.
Tumblr media
Ar fy ffordd yn ôl
Wrth gerdded yn ôl i’r orsaf dyma’r nefoedd yn agor ac rwy’n cael trochfa, ond rwyf wedi fy ysbrydoli ac yn hapus ar ôl yr hwb cadarnhaol hwn. Dywedodd Gemma fod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ymwneud â thîm, a dyma’r agwedd y mae angen i sefydliadau ei fabwysiadu tuag ato.
Teimlais yr ysbryd tîm ym mhopeth a ddywedodd Gemma yn ein cyfarfod, a thrwy fy ngwaith cyffredinol gyda thîm Gwirfoddoli CGGC dros y 2 fis diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r swyddfa a’i rannu gyda fy holl gydweithwyr.
Os hoffech gael gwybod mwy am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, cadwch lygad ar eich tudalen CVC leol, gan y byddwn yn cyflwyno rhai sesiynau gwybodaeth am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel a ganlyn:
•       23 Hydref yn swyddfeydd CGGC yng Nghaerdydd
•       7 Tachwedd yn CV
•       8 Tachwedd yn DVSC
•       11 Tachwedd yn ffair gyllido PAS
•       29 Tachwedd yn CAVO 
Byddaf hefyd yn cynnal gweminar ar-lein ar 26 Tachwedd  - bydd y ddolen i gofrestru ar gael cyn bo hir.
Mae rhagor o wybodaeth am Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yma: https://iiv.investinginvolunteers.org.uk/
Dilynwch ni ar Twitter @WCVACymru
A chofiwch gysylltu â Korina os oes gennych unrhyw gwestiynau neu syniadau @korinations ar Twitter, e-bost [email protected], rhif ffôn 02920431773
0 notes