Tumgik
#Meddus
coppermalleus · 1 year
Audio
10 notes · View notes
sonics-left-shoe · 2 years
Text
Na nade oherwydd ni fyddaf byth yn stopio dweud sut y dylai cymeriadau Satbk fod wedi bod yn gymry neu o leiaf yn meddu ar rai nodweddion sy'n aros yn driw i'r chwedlau arthuraidd go iawn
Llawnslot (Lancelot) cymraeg a'i fachgen americanaidd yn frenin? Y posibiliadau /j
Soniaf fod cyfeiriad y "ddraig goch" yn braf ond mae'n cael ei anwybyddu mewn gwirionedd oherwydd nid yw'r gêm mewn gwirionedd yn darparu llawer o gyd-destun ar ei gyfer, hyd yn oed pan fo straeon a chwedlau am ein dreigiau!!
Yn enwedig pan oedd y ddraig goch yn un o gleddyfau Llawnslot na ellid eu datgloi!
Tumblr media
Ddraig goch <3
15 notes · View notes
musicalhabits · 1 year
Photo
Tumblr media
Anadysis EP - Meddus
0 notes
Photo
Tumblr media
Sabai, Hoang & Claire Ridgely - Million Days (Meddus Remix)
https://youtu.be/Big03yX23xs
Artwork by imGuss .
1 note · View note
shigatsumusic-blog · 2 years
Audio
(Meddus)
0 notes
gottagolisten · 3 years
Text
Trivecta - Ghost In The Machine (Meddus Remix)
0 notes
Photo
Tumblr media
Meddus & NEREUS - Lift Us Up [Argofox Release] by Argofox https://ift.tt/2yKRKPm
0 notes
therobotwife · 7 years
Photo
Tumblr media
King Vaas of the Ent Hymes from my world Meddus. The Lord of the FLUFF is a silver fox. XD
6 notes · View notes
canolaaoil · 6 years
Text
.
2 notes · View notes
undefinedaudio · 3 years
Photo
Tumblr media
Put on your headphones
Meddus x Rezin - Escape is out Now!
🎨Artwork By Shawn Lin 
2 notes · View notes
aobashi · 2 years
Text
AOBASHI HOUR 20220326 24:00- #AOBASHI
Talk & Select: hide shino
YOSHIHIRO SAWASAKI - Fine Life
DJ Shu-ma, Conures - It's Time To Get Down (Original Mix)
Orbital - One Perfect Sunrise_(Original Mix)
Yosshie 4onthefloor - I Know I Love You - 02 I Know I Love You (Ken Plus Ichiro Remix)
Z-CaT - Sirens
Meddus - Currents
https://www.youtube.com/watch?v=KGXgCuTCrj8
0 notes
diwinyddiaeth · 4 years
Text
Y ffordd ddeuoliaethol
Yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddyheulaw Salm 121:5
Wrth edrych ar y byd a’i bethau o’r Canol, o’r Ymwybyddiaeth Oesol, tu hwnt i’r hyn ydw i - yn glwstwr o gelloedd, yn foleciwlau, yn atomau, yn ronynnau, ac yna’n ddim byd; pan ydw i’n edrych ar y byd a’i bethau o’r diddymdra yna, rwy’n bopeth - o ddechreuad y byd, y bydysawd, a phopeth sydd ynddo, i’r presennol - rwy’n cwmpasu popeth sydd, gan gynnwys pob un ohonoch chi (a minnau), pob anifael a phlanhigyn, pob dyffryn a bryn, pob seren a phlaned, ac rwy’n gyfrifol am bopeth ynddo hefyd, pob da a drwg, pob Belsen a Biafra, pob drwg-weithredu a phob gweithredu da - o’r crëad hyd y foment hon : rwy’n ddim ac eto’n bopeth. Ac o’r Canol, heb ego na hunan, nag amser na bodolaeth marwolaeth, rwy’n profi yr hyn mae’r Beibl yn ei ddisgrifio fel y “bywyd tragwyddol”. Hwn yw “Teyrnas Nefoedd” a dyma beth mae’n olygu i anadlu a phrofi “ewyllys Duw” yn y byd a darganfod y “Trysor oddi fewn”. Y Canol cyfreiniol, yr Ymwybyddiaeth Oesol, sydd mor agos atom ag anadliad ac eto, oherwydd “mamyddiaeth” a “dadyddiaeth” a disgwyliadau materol, ego-ganolig y gymdeithas gamweithiol hon, sydd mor bell i ffwrdd ac allan o gyrraedd â phob yfory. Onid cyrraedd y diddymdra yma yw ofn pennaf dyn - darganfod ei fod o’n ddim (a thrwy hynny’n bopeth)? Ac onid wrth drio’i osgoi y profa’r “unigrwydd annioddefol, llethol” hwnnw sydd wrth wraidd ei holl broblemau: pob salwch corfforol a meddyliol, pob dibyniaeth, pob ing a thrallod, pob rhyfel a phob tlodi ac angen sy’n y byd? Ac mae mor, mor hawdd ei ganfod - y Canol tragwyddol, ddigyfnewid hwn. Dioddefaint yn aml yw’r allwedd traddodiadol i’r gwynfyd hwn, ond does dim rhaid cymryd y ffordd “anorfod” honno, ble mae marwolaeth corfforol bob amser yn bosibilrwydd a gwyleidd-dra’n hanfodol; mae ffordd arall, symlach, rwyddach o lawer - ac unig hanfod y ffordd hon yw meddu ar feddwl agored a’r parodrwydd i dderbyn rhai gwirioneddau annifyr ac anghyfforddus amdanom ein hunain. Derbyn ein hamherffeithrwydd mewn geiriau eraill. Ac mae gen i gyfrinach i’w rannu gyda chi: rydych eisoes yn bodoli yn y Canol - rydych chi a minnau eisoes yn yr Ymwybyddiaeth Oesol - yn wir rydym bob un ohonom yn ymgnawdoliad ohono. Trasiedi pethau yw nad ydym yn ymwybodol o hynny, o’r diddymdra mawr. A dyna - y diffyg ymwybyddiaeth yna - yw achos pob Uffern yr ydym yn ei brofi yn y byd. Yn lle hynny, rydym yn byw ein bywydau yn y drych (diolch i’n rhieni) - yn ôl fel mae pobl eraill yn ein gweld; ac o’r fan llygredig yna, y barnwn ni’n hunain i fod yn rhywbeth nad ydym ni ddim. ‘The way out is in.’ Rydym hyd braich i ffwrdd o gyrraedd “Teyrnas Nefoedd” ond heb yn gyntaf ddod i adnabod ni ein hunain - cofleidio ochr ddu’r enaid (amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr) - rydym gyfandiroedd i ffwrdd o’i gyrraedd. “Pan ddown i adnabod ni’n hunain, down i adnabod Duw y Tad” meddai Crist yn Efengyl Tomos. “Pan nad ydym yn adnabod ni’n hunain, rydym yn byw mewn tlodi; ni yw tlodi.” Ac onid yw’r “tlodi” hwn yn disgrifio’n berffaith gyflwr cymdeithas heddiw? ac onid y tlodi ysbrydol hwn sy’n ei nodweddu?Rhaid inni oll ar ryw amser yn ein bywydau ateb y cwestiwn oesol: pwy neu beth ydy Duw? Mae’r ateb o fewn ein cyrraedd ac yn agosach atom nag a feddyliom erioed! Ond yn gyntaf, mae’n rhaid ateb y cwestiwn oesol arall: pwy neu be ydw i? Dewch felly ar daith o Hunan-adnabyddiaeth gyda ni - ar daith i’r bywyd gwynfydedig. Rydym yn gwybod y camau sydd angen eu cymryd a beth sydd angen ei wneud - mae’r gweddill yn eich dwylo chi a’r Tragwyddol - y “dim byd” a’r “Popeth”.
0 notes
oedoli · 6 years
Text
Ofn Caru Pethau Bach
Wyt ti erioed Wedi bod ofn gymaint ti'n caru rhywbeth? Wirioneddol, bob hyn a hyn dwi'n gorfod eistedd mewn gwewyr ar ôl sylwi mod i'n caru mhlant gymaint. Ei fod y peth mwyaf brawychus yn fy mywyd.
Mae'r eiliad na lle mae dy ddychymyg yn rhedeg yn gyflymach na dy feddwl deallus yn meddu ar y fath fraw. Yr eiliad lle ti'n gweld eu pennau'n torri. Yr eiliad lle ti'n gweld y corff bach yna'n gelain - a ti'n credu be ti'n gweld yn dy feddwl.
Mae dy gorff yn ymateb yn reddfol, yn hyrddio sŵn anifeilaidd o fan tyfnaf cyntefig dy berfedd. Sdim anadl ar ôl yn dy gorff. Ti'n gweld dy ddyfodol yn rhwygo'n ddarnau mân. Ti'n teimlo’r erchylltra fel pydredd trwy dy gnawd.
Yna, o fewn eiliad arall mae dy reswm yn taenu cwrlid tew i fygu'r braw, a gadael i ti gario mlaen i blygu crysau-t bach ar y gwely.
Ond mae drain bach wedi gweithio eu ffordd o dan dy groen, yn pigo dy gydwybod y gall y lluniau ddod yn wir.
1 note · View note
wcva · 5 years
Text
Sut i… wneud camgymeriadau
Tumblr media
Mae delio â chamgymeriadau yn sefyllfa anodd i bawb - ond maen nhw hefyd yn tynnu sylw at feysydd ar gyfer newid a thwf. Dyma Susie Ventris-Field ac Amber Demetrius o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn gofyn pam ein bod yn cael cymaint o drafferth i weld camgymeriadau fel cyfle i ddysgu.
Yn ôl arolwg diweddar ar linked in, rhestrodd 94% o gyflogeion ‘dysgu a datblygu’ fel eu prif reswm dros aros gyda chwmni.
Serch hynny, mae un sefyllfa lle mae pob mudiad yn ei chael yn anodd cynnal ysbryd y gweithlu a manteisio ar y cyfle i ddysgu, sef pan wneir camgymeriad.
Mae delio gyda chamgymeriadau a chwynion yn aml yn sefyllfa anodd iawn i reolwyr, cyflogeion a chleientiaid – rhywbeth y mae’n gas gennym feddwl amdano.
Ond pam na allwn gael pleser o’r cyfle gwerthfawr i ddysgu y mae sefyllfaoedd o’r fath yn ei gynnig? Dyma gyfle i wella – pam felly y mae’n llawn o’r fath boeni a gofidio?
Newid diwylliant
Ceir yr ateb i’r paradocs hwn yn yr agwedd yr ydym yn ei gymryd yn ddiwylliannol tuag at ‘wneud camgymeriadau’.
Yn blant, rydym yn cael arwyddion clir bod yna ‘ateb cywir’ a bod ein gwerth yn gysylltiedig â’n gallu i ddod o hyd iddo – yn yr ysgol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol a hyd yn oed yn ein bywydau teuluol.
I lawer ohonom, mae atebion cywir wedi bod yn gyfystyr â chanmoliaeth, dyrchafiad a llwyddiant cyffredinol.
Ar y llaw arall, mae ein camgymeriadau yn aml yn arwain at sgyrsiau anodd, gwaith ychwanegol ac ymdeimlad o fod yn annigonol.
Nid yw’r sector gwirfoddol yn rhydd rhag y duedd hon. Er gwaethaf ein dyhead i weithio’n dosturiol ac yn broffesiynol, rydym yn fynych yn gweithio mewn sefyllfaoedd lle mae pwysau amser a phwysau cyfathrebu yn arwain at wallau nad oes neb yn gyfforddus yn delio gyda nhw.
Mae ofn niweidio enw da mudiad yn sail i ofn gwneud camgymeriadau, a hynny’n ddealladwy. Rydym yn hoffi meddwl bod y strwythurau proffesiynol yr ydym yn gweithio ynddynt yn ein gwarchod rhag y mathau hyn o labeli ond yn aml mae’r gwrthwyneb yn wir.
Mae’n anodd rhoi gwerth ar chwilfrydedd pan fo camgymeriadau yn gwneud i ni deimlo’n fethiant. A dyna’r drafferth â’n hagwedd bresennol.
Mae nodweddion gwerthfawr fel meddwl yn greadigol, arloesi a’r gallu i addasu i gyd yn deilio o’n gallu i wneud camgymeriadau a gweithio gyda’r hyn sydd gennym o ganlyniad.
Drwy’r broses hon y darganfyddwyd penisilin, pelydr-x, microdon a phob cynnydd gwyddonol arall.
Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gofyn i’n hunain sut i wella ein meddylfryd a dathlu’r daith o wneud camgymeriadau.
Cywilydd, bai, ac euogrwydd
I ddatblygu meddylfryd mwy positif wrth ddelio gyda chamgymeriadau rhaid deall y teimladau sy’n eu hamgylchynu.
Pan aiff pethau o chwith, rydym yn dueddol o deimlo un o dri emosiwn: cywilydd (fy mai i yw popeth), bai (eu bai nhw yw popeth) neu euogrwydd (mae angen i mi wneud iawn).
Cywilydd yw’r anoddaf o’r tri o bell ffordd gan ei fod yn cael ei gysylltu mor agos â’n hunan-werth. Wrth deimlo cywilydd, rydym yn teimlo mai ni oedd y camgymeriad, rydym ni yn dda i ddim, mae’n ddatganiad o’n gwerth ni.
Mewn cyferbyniad â hynny, mae euogrwydd yn ein galluogi i ddeall mai un gwall oedd y camgymeriad y gallwn wneud iawn amdano. Mae unigolion sy’n teimlo euogrwydd yn aml yn ymdrechu’n ychwanegol i ddysgu gan eu bod yn deall y gallant wneud hynny, tra mae unigolion sy’n teimlo cywilydd yn chwilio am ffyrdd o guddio eu camgymeriad, neu osgoi delio gydag ef, neu gymryd arnynt na fu camgymeriad o gwbl.
Mae bai a dicter yn gysylltiedig â’r chwilio hwnnw: mae cywilydd yn ein gwneud yn fach ac yn ddi-werth ond mae bai yn ein gwneud yn gryf ac yn bwerus. Yn aml, mae unigolion sy’n beio eraill yn gwneud hynny am fod arnynt ofn y cywilydd sy’n gysylltiedig â chyfaddef eu bod hwythau’n gyfrifol.
Meddylfryd Twf
Mae hyn oll yn codi’r cwestiwn: beth allwn ni ei wneud i newid ein hagwedd at gamgymeriadau a dysgu?
Mae rhan fawr o’r ateb ar gael wrth fabwysiadu’r cysyniad o Feddylfryd Twf. Dyma ddiffiniad o Feddylfryd Twf: ‘cred bod eich rhinweddau sylfaenol yn bethau y gallwch eu meithrin drwy’ch ymdrechion’ (Carol Dweck).
Mae’r syniad hwn yn arbennig o bwerus yn ei allu i newid y canolbwynt i ffwrdd oddi wrth yr unigolyn a thuag at y gwaith sydd angen ei wneud.
Dangoswyd bod myfyrwyr sy’n mabwysiadu meddylfryd twf yn gwneud yn well yn academaidd (a gyda llaw yn meddu ar sgiliau cymdeithasol a sgiliau rheoli personol gwell) gan eu bod yn deall y gallai popeth amdanynt wella gydag ymdrech.
Ar y sail hon, pe bai modd i ni addysgu mudiadau am yr emosiynau a geir yn sgil camgymeriadau a’r empathi a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol wrth roi meddylfryd twf ar waith, gallem weld dechrau ailaddasu diwylliannol.
Sut ydyn ni'n ei wneud?
Er mwyn i fudiadau roi meddylfryd twf ar waith, byddai angen i dwf a dysgu fod yn un o werthoedd craidd pawb yn y tîm.
Yn fynych, staff newydd neu staff iau sy’n dysgu/gwneud camgymeriadau yn fwyaf aml tra mae aelodau hŷn o’r tîm yn llawer llai bregus.
Dyma rywbeth y gellid mynd i’r afael ag ef drwy raglen datblygu proffesiynol amrywiol a thraws-sgilio ag aelodau o’r tîm.
Yn yr un modd, mae’n werth edrych ar faes polisi wrth fynd i’r afael â gwneud camgymeriadau.
Os oes gan eich mudiad werthoedd craidd, efallai y gall un o’r gwerthoedd hynny ystyried ffyrdd positif o ddelio gyda chamgymeriadau megis system fentora, offer cyfathrebu anffurfiol neu, yn syml, cytuno ar feddylfryd empathetig. Yn olaf, mae cydnabyddiaeth o’r dewrder sydd ei angen i arloesi neu fod yn fodlon derbyn adborth yn hanfodol. Fel y dywed Dweck, meddylfryd twf yw deall ‘roedd hynny’n anodd iawn. Fe wnes i ei fwynhau.’
Gyda chynifer o ddatblygiadau wedi bod yn yr hanner can mlynedd diwethaf, mae camgymeriadau yn gynyddol yn dod yn rhan o daith o ddarganfod ac rydym yn meddu ar yr allweddi – drwy gyd-ddewrder a chydgefnogaeth – i ddatgloi potensial ein gilydd.
Pwy a ŵyr ble y gallem fod mewn hanner can mlynedd arall, pan nad yw ein hofn o wneud camgymeriad yn sefyll yn ein ffordd…?
0 notes
we-are-trickster · 7 years
Note
Look out for Warpriest invisible trickster, they say Meddus kings can see more than regular men.
Noted! This Trickster will be cautious and sneaky! And will hide a whoopie cushion on the throne if my fun is ruined. OwO
4 notes · View notes
pontiobangor · 5 years
Text
Dathlu dawn Dilys Elwyn Edwards yn Pontio
Tumblr media
Bydd dathliad go arbennig o gyfansoddwr o fri gan rhai o ffigyrau diwylliannol mwyaf Cymru Nos Sadwrn 27 Ebrill 7.30pm yng Nghanolfan Pontio, Bangor.
Yn cymryd rhan yn y noson o farddoniaeth a chân yn Theatr Bryn Terfel bydd y soprano Elin Manahan Thomas a Bardd Cenedlaethol Cymru, Y Prifardd Ifor ap Glyn, yn ogystal â Chôr Siambr Prifysgol Bangor. Bydd gosodiad o soned gomisiwn yn cael ei pherfformio gan Elin am y tro cyntaf yn ystod y noson er cof am Dilys Elwyn-Edwards, wedi ei chyfansoddi gan Ifor ap Glyn a’i gosod i gerddoriaeth gan Geraint Lewis.
Wedi ei geni yn Nolgellau, fe astudiodd Dilys Elwyn-Edwards y grefft o gyfansoddi gyda’r cyfansoddwr Seisnig Herbert Howells, cyn treulio y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghaernarfon, lle cynhyrchodd gasgliad bychan o gyfansoddiadau lleisiol cain. Ymysg y rhain oedd Caneuon Gwynedd a Chaneuon y Tri Aderyn, oll yn osodiadau o gerddi gan feirdd mwya’n cenedl, yn eu plith R.Williams Parry, T. Gwyn Jones, Dic Jones, Gwyn Thomas a Saunders Lewis.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig canolfan Pontio, “Mae’r gyngerdd yma, ar gynffon blwyddyn o ddathlu canmlwyddiant ei geni, yn deyrnged arbennig i ddawn Dilys Elwyn-Edwards, ac mae’n briodol iawn iddo ddigwydd yma ym Mangor, gan iddi fod yn diwtor piano yn Ysgol Gerdd y Brifysgol am nifer o flynyddoedd. Priodol hefyd yw cynnwys un o gerddi’r Athro Gwyn Thomas yn rhan o’r rhaglen, a lleisiau Côr Siambr Prifysgol Bangor.
“Mae Dilys Elwyn-Edwards a’i chaneuon wedi bod yno erioed i mi: 6 Chân i Blant a Chaneuon y Tri Aderyn a’m denodd ati, ac yna rhywsut roedd hi wastad yno. Yn gyw gantores yn setlo yn Y Felinheli ar ddechrau’r nawdegau, roedd y pleser o ddod i’w hadnabod, ac yna’r fraint ohoni’n cyfansoddi ‘Dwy Gân i Fair’ yn arbennig ar fy nghyfer, yn rhywbeth y trysoraf am byth. Pleser yw gwahodd un sydd yn meddu ar ysgafnder, hyblygrwydd a phrydferthwch lleisiol, y soprano Elin Manahan Thomas, i berfformio detholiad o’i chaneuon yma  yn Theatr Bryn Terfel.
Bydd y cyngerdd yn rhoi ffocws nid yn unig ar y canu, ond hefyd ar y cerddi a osodwyd gan Dilys Elwyn-Edwards, ei dewis o feirdd a’i dawn o greu darluniau ac awyrgylch mor gelfydd. I’r perwyl hyn, mi fydd darlleniadau gan Ifor ap Glyn o un o gerddi’r Tymhorau, Dywed Fair, Caneuon Natur, Caneuon y Tri Aderyn  ac eraill, ac ambell i stori i ni am y beirdd a osodwyd ganddi, a’i pherthynas â nhw.  Yn cloi’r noson bydd perfformiad o soned er cof am Dilys Elwyn-Edwards wedi ei osod gan gyfaill agos iddi, y cyfansoddwr Geraint Lewis.
Meddai Elen ap Robert, “Mae’n debyg mai’r soned a berodd yr anhawster mwyaf iddi oedd Hiraeth yn y Môr, a ddaeth wrth gwrs yn un o’i chaneuon mwyaf enwog. Priodol yw hi felly i ni gomisiynu Ifor ap Glyn i ‘sgrifennu ar y ffurf  hwn i gofio am Dilys. Priodol hefyd yw hi fod cyfaill mynwesol iddi, Geraint Lewis, yn rhoi alaw i’r geiriau hyn – gyda’r gân yn cael ei pherfformio gan soprano sydd ond llynedd wedi rhyddhau detholiad o’i chaneuon ar gryno ddisg.
“Edrychwn ymlaen at y digwyddiad arbennig iawn yma fel teyrnged i ddawn a pherson unigryw. Mae ein dyled iddi fel cenhedlaeth o gantorion yng Nghymru yn enfawr, ac mae’n bryd nawr i’r genhedlaeth nesaf brofi’r un wefr a chael eu swyno gan ddawn Dilys Elwyn Edwards.”
Dathlu Dawn Dilys Elwyn-Edwards Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor Nos Sadwrn 27 Ebrill 7.30pm Tocynnau £14/£12 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Ar gael o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28
0 notes