Tumgik
#Dwi yma o hyd!
deepbluequill · 1 year
Text
Yma o hyd either has me raoring like a fucking primal dragon or bawling like a baby.
Or both.
My veins are aflame.
1 note · View note
Text
Dyddiadur - wythnos o’r Cyfnod Clo - Gaenor Mai Jones, Pontypridd (ffugenw: Blank 6)
Dydd Iau                                           Rhagfyr 31                                                     2020
Roedd rhaid mynd allan i brynu diod o rywfath ar gyfer hanner nos ac anghofio'r mwgwd ond ma' gen i un sbar yn y car. Marciau a Gwreichion yn hytrach na siop y carotsyn. Safon y nwyddau a'r glanweithdra ar raddfeydd gwahanol. Falle mod i'n talu mwy a dyw hynna ddim yn eistedd yn esmwyth gyda Cardi ond dwi am wneud popeth allaf i osgoi Corona. Dal i gofio y poteli pop o'm mhlentyndod. Dwi 'di edrych y "covid vaccination calculator" a gweld bo' fi yn yr wythfed safle i gael y brechiad a fydd hynna ddim yn digwydd tan adeg fy mhenblwydd ym mis Mai.
   Ydw i fod i 'sgrifennu'r addunedau heno neu fory? Wel heno amdani gan bo fi ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cloc yn araf dician tuag at hanner nos. Dwn i ddim pam dwi'n aros lan beth bynnag, dim gwahaniaeth rhwng 23.59 a 24.00 yn fy marn i. Ta beth edrychais y geiriadur i weld ystyr y gair adduned, dim ond rhestr arall ac 'rwy'n dda iawn am wneud rhestrau ond mae adduned yn golygu addewid o ddifrif neu benderfyniad cryf. Dim iws rhoi colli pwysau lawr te achos mi fyddai wedi methu o fewn dyddiau. Mi wnes i addunedau amser y clo mawr, dim byd arbennig, tacluso'r ardd, eistedd allan yn yr ardd tra'n disgwyl i ddanteithion gwcio. Hwnna oedd y drwg ond nid dim ond fi wna'th e.
    Un adduned sy' 'di bod 'da fi ers blynydde yw tacluso'r bocsys sy' yn y garej ers i fi symud 'ma a dyma'r amser i ddidoli'r lluniau a gosod nhw yn daclus, efallai hyd yn oed symud 'da'r oes a'u gosod yn ddigidol. Mi wnai wneud un bob dydd.
    Mae'n hanner nos ac yn amser am lymaid neu photelaid.
Dydd Gwener                                         Ionawr 1                                                     2021
Ma' gen i ben tost a'r gwendid corfforol a meddyliol bron fy llethu ond allai ddim torri adduned ar y diwrnod cyntaf!
    Lluniau fy nhaith i Rufain sy gen i. 'Roedd pedwar ohonom yn tueddu i fynd dramor dros benwythnos Calan ac wedi bod yn yr Eidal sawl gwaith ond does dim all wella ar y profiad o fod yng ngwasanaeth Calan y Pab yn y Vatican City. Cyrraedd yno ar hap heb drefnu dim ymlaen llaw. Gweld ciw i fynd fewn a meddwl dim mwy tan i ni gael ein harwain drwy'r cefn a'n rhoi i eistedd ar yr ochr a dyna lle 'roedd Pab Ioan Paul yn pregethu. Mi wnes i astudio Lladin yn yr ysgol ond wnes i ddim deall dim un gair. Doedd dim gwahaniaeth ac er fy mod yn Fethodist mi ges i ryw wefr a thangnefedd wrth wrando ar y person carismatig hwn. Fynte yn gad'el a ninne yn crwydro o gwmpas gan edmygu pensaerniaeth ac awyrgylch euraidd y lle. Allan wedyn i'r sgwar a sylweddoli nad oedd lle i forgrugyn arall gan fod y lle yn orlawn o bobl yn disgwyl i'r Pab ymddangos ar y balconi i godi llaw ac wir, mi ddoth allan a ninnau wedi ca'l y profiad unigryw heb drefnu dim.
Dydd Sadwrn                                        Ionawr 2                                                   2021
Diwrnod arall o ddilyn y rheolau. Am dro o gwmpas fy ardal ac yn gweld amryw sy' fel pe baent ddim yn deall y rheol o beidio symud y car i ddechrau'r daith gerdded.
    Nawr dwi wedi cyrraedd albwm Prague. Wedi bod yna fwy nag unwaith a chael profiadau gwahanol bob tro. Dyw penwythnos ddim yn ddigon i gyffwrdd ar hanes yr ardal a phwy allai anghofio y Brenin Wenceslas yr amser hyn o'r flwyddyn. Do, mi fum i yn y sgwar ac yng Nghadeirlan St Vitus lle gorwedd ei olion. Ond i mi profiad dwysaf y teithiau oedd ymweliad plygeiniol yn Terezin tua 30 milltir i'r gogledd o Prague. Carchar rhyfel i'r Iddewon yn cael ei redeg gan y Gestapo. Llawer yn aros yno ar eu ffordd i Auschwitz. 'Roedd y tarth yn dal ar lawr a niwl o gwmpas y fynedfa gan hanner orchuddio Seren Dafydd. Doedd dim troi nôl ond dim blas mynd ymlaen. Teimlwn yn anhyfforddus iawn fy mod yno ar daith dwristiaeth gan gofio yr holl ddioddefaint a fu yn yr adeiladau. Buom  mewn un ystafell lle roedd cannoedd o blant yn cysgu ac heb air o gelwydd teimlais fod llygaid yn fy nilyn o gwmpas. Allan i'r gwyrddni i fan oedd yn ymddangos fel llecyn o brydferthwch ond wrth edrych yn fanwl 'roedd modd gweld uwchdir i ddefnydd y saethwyr oedd yna i ladd yr Iddewon.
Dydd Sul                                         Ionawr 3                                                     2021                                                                                     
Dim oedfa ar wahan i rai ar Zoom. Mae'n bosib edrych ar sawl un mae'n rhaid cyfadde ond y drwg wedyn yw dechre beirniadu a dyw hynna ddim yn yr ysbryd Cristionogol ond a yw rhywbeth yn well na dim, dwn i ddim. Dwi ddim yn siwr chwaith a y'n nhw'n anelu at y gynulleidfa arferol. Faint o aelodau oedrannus ein capeli sydd yn medru defnyddio Zoom yn y lle cynta'?
    Ta waeth, dwi 'di cyrraedd Venice. Popeth yn brydferth ond drud a drud iawn. Wrth gwrs 'roedd rhaid cael taith ar y gondola, rhywbeth twristiaidd i'w wneud a drud ond pwy fydde'n dod nôl o Venice heb fod ar un. Mi wnes i hefyd gael taith ar y traghetto, yr un syniad ond y rhan fwyaf o'r teithwyr yn sefyll i groesi'r gamlas a'r gost ond yn ddwy euro. Gan bo' fi ddim yn gallu nofio wnes i ddim meiddio sefyll, rhag ofn, ond dyma'r ffordd mae'r bobl leol yn croesi'n ddyddiol.
    Rhyfeddod arall oedd cael coffi drud yn un o siopau coffi  Sgwar San Marco a gwylio pobl un prynhawn ond gweld y cyfan dan ddŵr y bore wedyn. 'Roedd dŵr y gamlas wedi codi ond yn amlwg bod hyn yn ddigwyddiad rheolaidd gan fod bordiau pren wedi cael eu gosod i groesi'r sgwar ond yn rhyfedd ddigon 'roedd rhaid mynd drwy borth yr eglwys. Un prynhawn mynd i ynysoedd Murano, Burano a Torcello. Y cyntaf yn enwog am y gwydr, yr ail am y lês a'r trydydd wnai ddim ond disgrifio fel twll o le. Er yno mae Gorsedd o garreg Attila a'r chwedl leol yw bydd rhywun yn priodi o fewn blwyddyn o eistedd ynddi. Wnes i ddim a tybed ai dyna pam wnes i ddim priodi? Golygfa annisgwyl ond wrth gwrs sy'n gwneud synnwyr oedd gweld traddodiad angladdol yr ynysoedd. Yr arch yn amlwg ar gwch a'r cychod eraill yn dilyn i gyrchu'r teulu i'r tir mawr. Rhyfedd nad yw rhywun yn  meddwl am draddodiadau gwahanol ond angenrheidiol.
Dydd Llun                                             Ionawr 4                                                       2021
Gŵyl y Banc arall heb gyfle i wneud unrhywbeth gwahanol. Sawl un arall fyddwn ni'n colli cyn daw trefn at bethau?
    Erbyn hyn 'rwy'n yr albwm B. Budapest, Barga, Barcelona a Berlin. A'r mwya o'r rhai hyn   Berlin. Yno fel rhan o gôr i ganu The Armed Man o dan arweinyddiaeth Syr Karl Jenkins. Ysgytwol y profiad o fod yn canu fel rhan o fil o leisiau yn Stadiwm Mercedez Benz dafliad carreg o ran o wal Berlin. Wedi'r ymarfer pawb ohonom yn mynd i'r lanfa i ganu ein hanthem genedlaethol ein hunain, Profiad na ellir byth ei ail greu. Tê prynhawn un diwrnod yn y Reichstag ond 'roedd rhaid archebu ymlaen llaw gyda holl fanylion pasport ac er yr ysblander a'r cyfle i weld goleuadau'r ddinas yn cynnau yn drawiadol pwy allai anghofio'r erchyllterau y bu y Gestapo yn trefnu yn yr union adeilad.
Dydd Mawrth                                      Ionawr 5                                                     2021
Apwyntiad rhoi gwaed heddiw ac mae hawl gan rywun i deithio i wneud hyn. 'Rwy'n hynod falch o'r ffaith fy mod wedi rhoi dros i 50 ond wedi colli allan ar noson ddathlu oherwydd y Cofid ond mi gefais garden Nadolig ganddynt yn ymddiheurio. Euogrwydd wnaeth i fi ddechrau rhoi gwaed oherwydd pan yn fyfyrwraig nyrsio 'roeddwn yn teimlo chwithdod bob tro 'roeddwn yn rhoi uned i glaf a dim un rheswm gen i i beidio cyfrannu. Yn raddol dros y blynydde mae'r broses wedi cyflymu a beth yw hanner awr o amser rhywun os oes daioni yn dod ohono. Er gan fy mod yn un o'r grwpiau arbennig nid y'n nhw eisie fy ngwaed bob tro.
    Gan fy mod wedi crybwyll fy ngyrfa mae'n addas fy mod yn mynd i albwm California. Wedi bod yna ddwy waith gan fod un o'm ffrindiau nyrsio wedi symud allan yna ers blynydde maith. Mi fum yn ddewr a mynd fy hun un tro ond diflas y daith heb siarad a neb. Oleiaf fy mharatoi ar gyfer y cyfnodau clo yma.
    Ar un o'm teithiau penderfynu mynd i barc Yosemite a gweld yr arwydd am wylio allan rhag ofn i arth groesi'r ffordd a chwerthin yn braf gan gofio am arwyddion ceirw yng Nghymru ac erioed wedi gweld un. Ond yr un fath â llwynog R.Williams Parry, "digwyddodd, darfu megis seren wib" pan groesodd un o flaen y car ond y camera wrth gwrs ddim ar gael.
Anghofiai fyth y daith lan Cwm Napa ac ymweld â’r gwinllannau a chael diod ymhob un. Fy ffrind oedd yn gyrru a'r diweddglo oedd mynd lan mewn cable car i winllan ar ochr y mynydd. Yn anffodus mae'n amhosib cael y gwin yn y wlad hon. Mi fydd yn rhaid mynd nôl eto.
Dydd Mercher                              Ionawr 6                                                        2021
Diwrnod datgelu gwobrau y Premuim Bonds. Wedi medru gosod yr app ar y ffôn felly does dim rhaid aros mewn gobaith am ddyddiau cyn i'r siec gyrraedd. Yn gweld bo' nhw eisiau diddymu sieciau ond cymaint o gwsmeriaid eisiau parhau gyda'r sistem gan nad ydynt yn gwneud gwaith bancio ar lein. Dim miliwn neu ddau i mi eto'r mis hwn ond mae £25 yn well na dim.    
        Diwrnod tynnu'r addurniadau i lawr. Dwi ddim yn ofergoelus iawn ond yn cadw at y traddodiad o'u tynnu cyn nos Ystwyll. Bu i mi gael profiad un flwyddyn o fethu tynnu nhw lawr gan fod galwadau salwch teuluol wedi gorfodi i fi fod oddi cartref tan yn hwyrach ac 'roedd rhaid i mi wneud y gwaith wedi'r diwrnod tyngedfennol. Ond y goel yw bod gadael un addurn ar ôl yn lleddfu'r lwc wael. Dyna wnes i ac ni weles i unrhyw drafferthdod y flwyddyn honno. Rwtsh llwyr yn te?
    Mae'n ddydd Mercher ac mae'n noson ymarfer côr, ar zoom wrth gwrs ond dyw e ddim yr un peth. Does dim i anelu ato, dim eisteddfodau mawr na bach ers misoedd ac er i rai ardaloedd gynnal eisteddfodau rhithiol roedd rhaid dibynnu ar yr ochr lenyddol fwy na heb. Er mae hyn yn f'atgoffa o gystadlu ar goginio yn Sioe Aberteifi ac ennill Prif Bencampwr Coginio heb i neb flasu un gacen. Tybed yw fy ngallu cogyddol cystal â’m gallu fel ffotograffydd!
2 notes · View notes
lowriphillips12 · 3 years
Text
Wythnos gyntaf yn y brifysgol
Pedwerydd ar hugain o Fedi. Fy wythnos gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Gan ddechrau yn y Brifysgol fel myfyriwr hŷn, cefais gyngor gan bawb - fy rhieni, aelodau o fy nheulu, hyd yn oed pobl sy'n gweini mewn caffis amrywiol. Yn bennaf, dywedon wrthyf am geisio am fy ngorau bob tro; yr wyf yn dyfalu na allwch fynd yn anghywir ag ef mewn gwirionedd. Mae'r teimladau cyntaf o fynd i'r brifysgol yr un peth i bawb – wedi'r cyfan, mae'n un o'r pethau pwysicaf rydyn ni'n ei wneud yn ein bywyd. Profiad newydd, profiad pwysig. Fodd bynnag, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno na fyddai ein hwythnos gyntaf yn y brifysgol yn ‘normal’ yn enwedig ar ôl y flwyddyn annisgwyl hon. Cawsom deimlad y byddai'n mynd i fod yn wahanol, ond ni allai neb ddychmygu hyn. Dydd Llun. Naw o’r gloch. Dw i’n teimlo nerfau nad ydw i erioed wedi teimlo o’r blaen. Ond rydw i hefyd yn teimlo'n gyffrous? A bod yn hollol onest, dwi ddim yn siŵr sut rydw i'n teimlo. Cyffro a phryder. Byddwn i wrth fy modd yn dweud fy mod wedi codi'n gynnar yn barod i adael ar gyfer fy narlith gyntaf, ond nid oedd hynny'n wir. Bum munud cyn cerdded tua thri cham at fy nesg, mi wnes i rolio allan o'r gwely. Mewn gwirionedd, ni allwn gwyno am hynny; neb yn gwthio heibio ei gilydd, y straen o ddod o hyd i sedd, cannoedd o bobl i gyd yn rhuthro i wahanol leoedd. Roedd yn brofiad hollol wahanol. Diolch byth roeddwn i'n gyfarwydd â zoom erbyn hyn, ar ôl misoedd o gwisiau gyda fy nheulu a ffrindiau. O’r diwedd, roedd pawb wedi ymuno. Dw i dal methu credu fy mod i yma. Roedd pawb mor gyfeillgar a chefnogol. Daethom i adnabod ein gilydd, chwaraeom gemau gwahanol. Aeth y nerfau i ffwrdd yn araf. Gwnaeth amser hedfan heibio. Roedd y dyddiau ar ôl yn debyg iawn. Treuliom amser yn paratoi ar gyfer y cwrs a'r gwahanol fodiwlau. Heb oes, wnaeth un frawddeg benodol sefyll allan ‘rwyt ti ar fiwt’. Bythgofiadwy. Diwedd yr wythnos. Rydw i wedi goroesi fy wythnos gyntaf yn y brifysgol yn llwyddiannus. Wedi blino’n lan. Aeth popeth yn ôl y cynllun ac rydw i mor falch fy mod i wedi penderfynu astudio Cymraeg yma. Wrth gwrs, roedd yn ffordd wahanol iawn o ddysgu ond rwyf yn teimlo y gallwn ddod i arfer ag ef. Does dim pwynt cwyno, rwy'n ffodus iawn fy mod i'n hastudio mewn prifysgol mor wych. Ta beth, efallai blwyddyn nesaf bydd ein bywyd cymdeithasol yn anhygoel a gobeithiaf bydd ein darlithoedd yn digwydd wyneb yn wyneb. Tân hynny, nôl at gyfarfod zoom.
1 note · View note
meddwlyngymraeg · 2 years
Text
Wnes i ddweud bod dwi ddim yn mynd i bostio dolennau (links) ar y blog hwn, ond mae'n flin 'da fi. Des i o hyd i'r podlediad yma gynnau heddiw, a hyd yn oed dwi ddim yn deall llawer am bêl-droed (nagyw, dyw hwn ddim yn wir... dw i jyst ddim yn ddiddori mawr!), dwi'n moyn ceisio clywyd pennod llawn. Fydda i ddim yn gallu dal popeth, ond bydd hi'n ddiddorol i weld. Ydwi wedi gwella, alla i adnabod mwy o eiriau nawr?
It's amongst a series of a few shows they did in Welsh, the podcast is usually in English.
This should be a good listening exercise, I know Elis speaks in the south Walian dialect, which is not something in which I've had a lot of clips to listen to.
0 notes
pontiobangor · 3 years
Text
Blog Manon
Mi ddechreuais i fy swydd fel 'Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus' Pontio yn Ionawr llynedd, dri mis cyn dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae'n anodd creu prosiectau creadigol mewn gofodau cyhoeddus heb ofodau sy'n agored i'r cyhoedd! Beth bynnag, dwi wedi cael cyfle i ymgartrefu yn fy swydd a dod i 'nabod tîm creadigol hyfryd Pontio dros gyfarfodydd wythnosol ar-lein, a hefyd wedi medru creu prosiectau newydd cyffrous ar ffurf digidol a chorfforol.
Y prosiect wnes i fwynhau fwyaf dros y cyfnod clo llynedd oedd 'Codi Pontydd', gyda chriw o ferched ifanc y cylchgrawn Codi Pais a'r artistiaid Hannah a Jasmine Cash. Cynhaliwyd cyfres o weithdai creadigol ar-lein i ferched ifanc - gweithdai celf, barddoniaeth, dawns ac ysgrifennu creadigol - a arweiniodd at rifyn print arbennig 'Codi Pais, Codi Pontydd' ac arddangosfa ar lawr gwaelod adeilad Pontio. Dyma ffilm grëais i sy'n crynhoi'r prosiect -
Gwyliwch yma: https://youtu.be/kfKUEjGlR6I
Mae'r swydd yn fy ngalluogi i blethu fy sgiliau fel artist, dylunydd a churadur mewn ffyrdd newydd, a dwi'n edrych 'mlaen yn fawr i'r adeilad ail-agor er mwyn i mi allu arbrofi efo'r gofodau cyhoeddus, a'u defnyddio fel cynfas ar gyfer gosodiadau a pherfformiadau amrywiol. Yn y cyfamser, dwi'n mwynhau dod i 'nabod artistiaid hyd a lled Cymru, a hefyd sgwrsio â'r Cymry creadigol sy'n byw dramor mewn prosiect newydd 'Cymru yn Ewrop' fydd yn cael ei lansio fis nesaf.
Gan mai swydd ran-amser yw hon, dwi dal yn brysur yn datblygu fy ngwaith fel artist llawrydd ac, ar hyn o bryd, yn creu cyfres o gerfluniau newydd ar gyfer arddangosfa awyr-agored fydd yn agor yn yr haf. Dwi wedi bod yn arbrofi efo modelu 3D a chastio darnau mewn plastigau wedi eu hailgylchu yn ogystal â defnyddio cerrig lleol. Bydd darn newydd hefyd yn cael ei arddangos yn safle Cei Llechi, Caernarfon - safle pensaernïol hardd a phwysig iawn i'r dre fydd yn agor yn fuan.
Dyma gipolwg i fewn i fy stiwdio yng Nghaernarfon, lle dwi'n byw a bod (ac yn gweithio i Pontio)
Tumblr media
1 note · View note
licollyfrelot · 5 years
Text
The Cows
Tumblr media
The Cows
Dawn O'Porter
(HarperCollins, 2017)
Er mod i wedi clywed dipyn am y nofel hon, doedd gen i ddim syniad mewn gwirionedd beth i'w ddisgwyl. Mae'r clawr yn eitha' haniaethol: gwefusau melyn ar gefndir du, a bys o'u blaenau mewn ystum o dawelwch, a doedd e ddim i'w weld yn cysylltu rhyw lawer gyda'r teitl. Ond a dweud y gwir, nofel sydd yn ymwneud â lleisiau menywod yw The Cows, am fenywod yn cael platfform, yn defnyddio'u lleisiau ac yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu clywed.
Mae'r nofel yn dilyn tair menyw wahanol iawn, ac wrth i'r llyfr fynd yn ei flaen mae eu bywydau yn dechrau gorgyffwrdd. Mae prif ddigwyddiad y nofel yn rhywbeth annisgwyl a syfrdanol sy'n newid bywyd un o'r cymeriadau yn gyfan gwbl. Dwi ddim yn mynd i fanylu rhag sbwylio'r stori, ond mae'n ddigwyddiad sydd wedi'i wreiddio yn ein cymdeithas fodern ni sydd yn cael ei lywodraethu gan y wê a chan ffonau symudol. Mae'r hyn y mae Tara'n ei wneud yn rhywbeth bach, mewn gwirionedd, ond sy'n effeitho pob agwedd o'i bywyd wedi iddi fynd yn 'viral'. Mae'n drafodaeth ar rywoliaeth, ar sut y mae cymdeithas yn barnu menywod, ac ar y 'double standard' sydd yn cael ei osod ar fenywod o hyd. Wrth edrych ar yr hyn a ddaw wedi'r digwyddiad, does na ddim beirniadaeth gan yr awdur o Tara, ond yn hytrach mae'r ffocws a'r feirniadaeth i gyd ar ymateb cymdeithas. Wrth i ni ddarllen ry'n ni'n gofyn i'n hunain pa ochr o'r ddadl y bydden ni arni pe bawn ni'n gweld y fideo feiral yn y nofel - ry'n ni i gyd wedi chwerthin ar neu feirniadu rhywun ar-lein heb feddwl dim am fywyd y person yna. Mae'n anghyfforddus ond mae'n ffaith ei bod hi'n haws dilyn y dorf (neu'r herd, neu gyr yn Gymraeg, medde Bruce) mewn sefyllfa gyffelyb.
Mae un o'r cymeriadau yn gymhleth iawn, ac mae ei theimladau o alar a cholled yn cymysgu gyda'r ffaith ei bod hi, yn fwy na dim, eisiau bod yn fam. Mae'r canlyniadau obsesiynol yn hawdd i'w barnu, ond roedd na ran ohona i fel darllennydd oedd wir yn teimlo drosti ac i ryw raddau yn deall ei gweithredoedd, a dyna glyfrwch Dawn O'Porter yma. Does na neb yn hollol ddi-fai na chwaith yn hollol ofnadwy, a disgwyliadau cymdeithas yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod i fywydau'r menywod hyn.
Mae'n swnio braidd ddyrus - ac mae'n wir fod na bethau anodd yn digwydd ac yn cael eu trafod yn y nofel hon, ond mae hi hefyd yn nofel ddoniol a darllenadwy iawn. Mi wnes i hedfan drwyddi, yn ddiamynedd i gael gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r dair prif gymeriad. Mae pethau'n cymryd tro braidd yn eithafol wrth i'r llyfr ddod i'w derfyn, ac efallai nad oeddwn i'n credu ymhob cyd-ddigwyddiad ar hyd y daith, ond mae The Cows yn nofel sy'n ddiamau o onest, gan leisio teimladau a meddyliau y gall bron i bob menyw uniaethu â nhw mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Plot sy'n cydio ac ysgrifennu da, fyswn i ddim yn oedi i argymell hon i unrhywun.
0 notes
wcva · 5 years
Text
Pwysigrwydd gwasanaeth Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein
Fis diwethaf cafodd Swyddog Cefnogi 3-SET, Lilla Farkas, y cyfle i fynd i ddigwyddiad i ail-lansio Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO), gwasanaeth gwybodaeth a ddatblygwyd ac a reolir gan Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd, a ddaeth ag atgofion da yn ôl iddi o’i hamser yn cwblhau interniaeth yno. Yn y darn blog hwn, mae hi’n sôn mwy am y digwyddiad a’r adnodd defnyddiol hwn.
Tumblr media
Mae pobl yn aml yn gofyn i mi beth wnaeth i mi benderfynu symud i Gymru o Hwngari. Yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yw y cefais gynnig interniaeth chwe mis o hyd yng Nghanolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ôl yn 2013, diolch i ysgoloriaeth a ariannwyd gan gyllid Ewropeaidd a ddyfarnwyd i mi yn Hwngari. Mae gen i atgofion braf iawn o’r amser a dreuliais yn y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd yng Nghaerdydd fel intern; roedd yn gyfle ardderchog i mi ddysgu am faterion Ewropeaidd a gwella fy sgiliau, mewn amgylchedd cefnogol iawn. Roeddwn wrth fy modd felly pan gefais wahoddiad i ddigwyddiad i ail-lansio Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO), gwasanaeth gwybodaeth a ddatblygwyd ac a reolir gan Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd...
Mae Canolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd yn rhan o rwydwaith o ganolfannau o’r fath a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i hyrwyddo addysg ac ymchwil ynglŷn ag integreiddio’r UE. Mae’r Ganolfan yn cynnig ystod eang o wybodaeth am Ewrop a gweithgareddau, sefydliadau a pholisïau’r Undeb Ewropeaidd. Un o’r gwasanaethau a gynigir gan Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd yw Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO).
Beth yw Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein?
Mae’r ESO yn gwasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim sy’n cynnig detholiad arbennig o wybodaeth i roi’r diweddaraf i bobl am ddatblygiadau yn Ewrop a’r UE ac i ddeall pynciau, polisïau a sefydliadau Ewropeaidd yn well.
Mae’r gronfa ddata yn cynnwys dolenni at ystod eang o wybodaeth gan gynnwys ffynonellau, sylwadau a dadansoddiadau swyddogol, crynodebau ac adroddiadau, erthyglau newyddion, blogiau, monograffau a gwerslyfrau academaidd. Mae ESO hefyd yn cynnig canllawiau gwybodaeth ar bynciau amrywiol ac mae modd tanysgrifio i neges wythnosol i gael gwybod am unrhyw beth sydd wedi’i ddiweddaru neu ei ychwanegu yn ddiweddar.
Tumblr media
Mae ESO wedi bod yn adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr, ymchwilwyr a mudiadau ers sawl blwyddyn ac mae newydd gael ei ddiweddaru a’i foderneiddio i ateb anghenion y rheini sy’n ei ddefnyddio. Cafodd y gwasanaeth ei ail-lansio yn swyddogol ar 24ain Ionawr ac roedd pobl o sawl sector gwahanol yn bresennol (Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiwn Ewropeaidd, conswliaid anrhydeddus, y trydydd sector ac academyddion). Siaradodd Rheolwr Canolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd, Frederico Rocha, am hanes ESO ac eglurodd nodweddion newydd y gronfa ddata.
Pam rydyn ni angen yr ESO
Fel intern cefais gyfle i fod yn rhan o dîm golygyddol ESO ac ers i’r interniaeth ddod i ben, dwi wedi defnyddio’r gronfa ddata sawl gwaith yn fy ngwaith a’m hastudiaethau hefyd. Mae angen y gwasanaeth gwybodaeth hwn yn fawr, yn enwedig y dyddiau hyn pan nad yw hi bob amser yn hawdd cael gwybodaeth ddiduedd ar-lein. Beth bynnag fydd canlyniad trafodaethau Brexit, mae’n amlwg y bydd y DU yn parhau i fod yn rhan o Ewrop. Mae’n bwysig felly ein bod yn dilyn y diweddaraf am faterion Ewropeaidd ac mae ESO yn adnodd rhagorol i wneud hynny.
Mae Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO) ar gael yma ac mae gwybodaeth bellach am Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd Caerdydd ar gael yma.
0 notes
Text
Heddiw dwi am adolygu gig a gafodd ei gynnal ar sgwar Llangefni ar Sadwrn 26 Mai 2018, Y cyntaf ar y llwyfan oedd Mart Robs caneuon gwreiddiol perfformiad gweddol, yna Penna bach clasuron cymraeg a saesneg poblogaidd perfformiad gwych, Elis Derby, caneuon Sandra, Myfyrio, Disgwyl am y Wawr, Newid y byd, Rhydd, Prysur yn neud dim byd perfformiad gwych, Nesa ar y llwyfan oedd Hawling Black caneuon roc saesneg a chymraeg. Nesa ar y llwyfan yr ferch leol Sophie Jayne caneuon Roed yna, Un noson arall, gweld yn glir, pryder, y gwir. perfformiad gwych. nesa y Moniars, caneuon - Nol I Donegal, Lleucu Llwyd, Clwb Yr Mg'S, Blaenau Ffestiniog Shwmae Shwmae, Gwantamera, Stryd Y Becar, La Bamba, Harbwr Diogel,Defaid William Morgan, Perfformiad gwych.yr nesa ar lwyfan Gwyl Mon oedd Gai Toms set yn cynnwys Straeon Y Cymdogion, Rhosyn Rhwng Fy Nannadd 3Arwain I'r Môr Cwmorthin O Le Ga'i Eda? Da-da Sur Sunshine Dan Robin Pantgoch Tafarn Yn Nolrhedyn Tlws Yw'r Wên Ellis Humphrey Evans Gerallt Gymro Cymru Contimental Clwb y Tylluanod Chwyldro Bach Dy Hun Yr Hwyliau Seren peerfformiad gwych
Nesa Dafydd Iwan a'r band caneuon Can Yr Ysgol Carlo Weithiau Bydd Y Fflam Ai Am Fod Haul Yn Machlud Hawi I Fyw Mi Glywaf Y Ilais Pam Fod Eira'n Wyn Esgair Llyn Yr Hen Hen Hiraeth Mae'n Wlad I Mi Magi Thatcher Yma o Hyd/ I'r Gad peerfformiad gwych
Cloi Bryn a'r Band Caneuon Yn y dechreuad, Afallon, Llongau Caernarfon, Rebal Wicend, Yn yr ardd, Tan ar fynydd cennin, Duwies Aberdesach, Ynys, Gwlad yr rastra gwyn, ceidwad, Noson ora rioed Perfformiad a noson ardderchog.
Diolch i fy ffrind Aaron Pleming am dynnu llunia ac ffilmio y fideo i’r gig yma
0 notes
bethanruth · 6 years
Text
Misoedd cyntaf Madrid
Mae gormod i’w hysgrifennu ond mi wna i grynhoi fy misoedd cyntaf yn fras yma!
Roedd hi’n hunllef dod o hyd i rywle i fyw yn y ddinas - llawer wedi dweud wrtha i o flaen llaw ei bod hi’n haws dod o hyd i swydd yn y ddinas na ‘stafell! Er gwaetha’r stres, roedd yr holl broses yn ffordd wych o wneud llawer iawn o ffrindiau a chwrdd â llawer o bobl ddiddorol.
Yn y diwedd cefais ‘stafell mewn fflat gyda dau fachgen, un o Frasil a’r llall o ogledd Sbaen yn Alto del Arenal, Vallecas. Penwythnos cyntaf i mi gyrraedd roedd gŵyl flynyddol y blaid gomiwnyddol ac roedd refferendwm annibyniaeth Catalwnia ar y gorwel. Roedd 8000 yn nhorf yr ŵyl. Es i yno gyda fy ffrind newydd Chris a oedd yn bleidleisiwr ‘ie’ o Glasgow sydd gyda hiwmor sych iawn, lot o hwyl! Roedd Banda Bassoti yn chwarae a hefyd bandiau lleol La Vallekana SoundSystem a San Blas Posse.
Fflat Alto del Arenal.
Tumblr media
Dechreuais weithio wedyn yn rhan amser mewn ysgol Uwchradd yn Rivas Vaciamadrid sydd tua 30 munud i’r de o ganol Madrid ar y bws. 
Mi symudais i fyw i Puente de Vallecas wedyn sy’n cael ei adnabod fel ‘Harlem Madrid’ am ei fod wedi bod yn enwog am ddelio cyffuriau yn yr 80au a’r cymysg mawr o ddiwylliannau yn yr ardal. Dwi’n hoff iawn o’r lle - llawer o deuluoedd yma o Dde America gyda chaffis a bwytai a llawer o barciau hefyd. Dwi’n byw gyda Lilian o Folifia a’i mab 4 oed Chris - llai o awyrgylch partio yno, a oedd yn fy siwtio i bach gwell! Byddaf yn symud i fyw gyda fy ffrind yn nes i’r canol wedi’r Nadolig, i Anton Martin.
Ers bod yma dwi’di gweld sawl perfformiad byw gan gynnwys Bonobo mewn arena enfawr y Wiznik, Fink yn theatr hyfryd art deco Teatro Barceló, band ffeministaidd Las Odio yn Teatro El Sol - lleoliad cŵl iawn danddear; a hefyd perfformiad fflamenco yng nghlwb Candela! Dwi hefyd wedi ymweld â sawl amgueddfa a galeri yma hefyd. Caixa Forum oedd fy ffefryn gyda thua 30 artist gwahanol yn cyfrannu darnau a phrosiectau gwahanol bob 3 mis. Mae’r adeilad ei hun yn ddarn o gelf! Roedd gweld darnau gan Dali, a hefyd Guernica gan Picasso yn y Reina Sofia yn wych hefyd.
Mi darais mewn i fy ffrind o Aberystwyth dechrau Hydref ar fy ffordd i ŵyl Tapapies yn Lavapies! Byd bach. Roedd hi newydd orffen ei thaith ar y Camino de Santiago.
Tumblr media
Daeth fy rhieni i ymweld ganol Hydref. Aethom am dro i dref Aranjuez i’r de o’r ddinas sydd gyda gerddi hyfryd a cherdded o amgylch y ddinas.
Dyma ni yn Plaza Mayor.
Tumblr media Tumblr media
Aranjuez
Tumblr media
Alcala de Henares gyda Emma
Tumblr media
Grisiau Caixa Forum
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Gardd wal Caixa Forum
Tumblr media Tumblr media
Marchnad Mercado de los Motores gyda Juan, Danielle, Usama a Gina.
Tumblr media Tumblr media
Stesion O’Donnell ar ôl gig Bonobo.
Tumblr media
Jana yn galw heibio. Dyma ni wedi coffi yn fy hoff gaffi Cafe Luz.
Tumblr media
Tapas hyfryd yn Mercado San Ildefonso yn Malasaña.
Tumblr media
Mercado de San Fernando
Tumblr media
Cerdded o gwmpas Salamanca ar ôl bod yn Fundación Juan March.
Tumblr media
Cefais ymwelydd arbennig o Iwerddon hefyd :)
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Rwy’n dysgu gwersi unigol un i un gyda’r nosweithiau - mae Jorge, fy ffefryn, yn 12 oed ac yn dangos bob wythnos pethau newydd mae wedi creu! Dyma ei gasgliad o feiros y mae wedi creu a dyfeisio allan o ddeunyddiau ysgrifennu!
Tumblr media
Feliz Navidad gan Lilian a Chris, Puente de Vallecas. Parti syrpreis penblwydd cynnar gan Lili!
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Danielle, Juan a finne’n mynd i wylio ffilm Estoniaidd ‘Free Range’ yn Cine Doré.
Tumblr media Tumblr media
Croesi’r bont adre o Conde de Casal i Puente.
Tumblr media
0 notes
collymore · 7 years
Text
Nid yw gwreiddiau cyfarwyddo bob amser yn cyd-fynd â realiti rhyfeddol!
Gan Stanley Collymore
 Yn amlwg, daethoch i mewn i fy mywyd pan oeddwn i'n llwyddo ar fy lwc ac ar adeg pan na allaf fod wedi rhoi - dim dwi ddim yn mynd i ddefnyddio'r jôc sy'n ymfalchïo sy'n rhigymau â lwc ac yn lle hynny byddwn yn cyflogi'r mwyaf derbyniol yn gymdeithasol ymadrodd o ddweud, fel yr wyf wedi'i wneud o'r blaen, fy mod yn llythrennol i lawr ar fy lwc. Ond beth bynnag, roedd pethau'n mynd yn arbennig o wael i mi, ac yn ddealladwy, roeddwn yn cymryd rhan â pherson arall heb sôn am syrthio mewn cariad eto mor fuan gydag unrhyw un, waeth beth oedd pwy oedd y fenyw unigol honno, yn amlwg y peth olaf ar fy meddwl; neu, ar gyfer y mater hwnnw, mae'r math o gamau ymatebol sy'n realistig, yn lefel-bennaeth, yn bragmatig ac yn llawer llai mor ddoeth, byddwn wedi ystyried yn ddifrifol neu'n ymwybodol iawn o gymryd rhan.
 Ni cheir unrhyw fwrw, nac unrhyw gylchdroi hunan-wasanaethol, sy'n cael ei amgyffred yn gynharach, na'i allgáu yn unol â'm rhesymu diffiniol, er mwyn osgoi'r canlyniadau personol a dryslyd y gwyddys eu bod yn gysylltiedig yn agos â'r anallu llwyr i ddatrys yn barhaol a pharhaol yn peri gorffennol embaras ar fy ôl i mi, a thrwy'r broses ymwybodol honno niweidio'r posibilrwydd tebygol, cyfrifoldeb dyledus a hyd yn oed yr angen clir o ddiddanu perthynas hollol newydd gennyf, ac yn effeithiol allan o'r llanast blaenorol a wnes i o'm bywyd, Dechreuwch yn rhyfeddol bob tro eto.
 Wel, mae hynny'n syniad eithaf glib i wneud yn ogystal â peth hawdd i unrhyw un ddweud, ac yn arbennig felly ar gyfer y rheini nad ydynt yn ymgynnull vaguest pwy neu beth ydw i, ac felly yn effeithiol nid oeddent yn gwybod nac yn gallu deall y gallu cymhleth , yn nhermau disgwyliadau ac emosiynau angerddol, pan fydd eu dawnsio cydweithredol a perswadiol yn dod yn gyfeiliant anhygoel ar fy rhan o'm hapusrwydd naturiol a rhybudd dyladwy pan fyddant yn cael eu coreograffi a'u dadansoddi yn awdurdodol.
 Yn unol â hynny, peidiwch â maddau i mi am amlinellu fy marnau mor anghymesur, ac yn fwy at y pwynt, yn enwedig felly os ydw i'n camddeall i chi fel rhywun ymhlith y rheini sydd nid yn unig gyda'i gilydd ond hefyd yn neidio i'r casgliad, y maent yn ei ddisgwyl yn annhebygol dyma'r unig ganlyniad o sut, heb unrhyw fantais arall yn eu trafodaethau niweidiol, dwi'n ddiamod y dylai'r dyn benderfynu yn unochrog y mae'n rhaid imi ddod. I'm hymateb diamwys yw: Meddyliwch beth rydych chi eisiau ond ei gymryd oddi wrthyf, peidiwch byth â dal eich anadl ar yr un!
 Nid oes angen i mi gydnabod unrhyw un sydd â mentis cyfansawdd hyd yn oed, ond fe'ch atgoffaf i chi yma yr un peth am resymau amlwg, bod bywyd a'i ffactorau cysylltiedig yn gêm barhaus, ac anaml y bydd pawb yn amrywio ac yn aml yn achos rhai ohonoch am gyfnodau sylweddol, wrth i chi naill ai'n ddidwyll, yn idiotig, yn driniaeth, neu hyd yn oed yn synhwyrol, yn cychwyn ar eu chwarae.
 Weithiau mae'r cymhelliad dros wneud hynny yn fwriadol ac yn glir, ar achlysuron eraill, ni all hyd yn oed y cyfranogwyr eu hunain ddweud gydag unrhyw sicrwydd neu hyd yn oed onestrwydd yn union beth yw eu bod yn ei wneud neu pam; oherwydd mewn gwirionedd nid oes ganddynt y syniad foggiest.
 Nid yw gêm y cariad yn wahanol, ac wrth i amser hamdden fynd rhagddo o ddechrau'r amser, ac yn benodol yr adeg hanfodol honno pan gafodd Eve gyntaf Adam enamw'n ddwfn i fwynhau ei afal, yr oedd yn ymddangos yn ei hoffi ac yn olynol ar ôl hynny wedi parhau i gael nifer o fwydydd ohono. Yr oedd yn afal adfywio a welwch. Bydd y rhai clyfar y tu allan yn cael y jôc; y rhai eraill, y gwir i'w ddweud, nid yw'n werth i chi boeni.
 Cyn hir, nid ydym ni i gyd bellach, cenedlaethau dynol yn y dyfodol - pe bai'r ddaear a Homo Sapiens yn llwyddo i oroesi'r holocost niwclear sydd ar y gweill, sef y moronau yn Rogue State UDA, yn treiddio Prydain a gweddill Idiots Defnyddiol y gorllewin yn gwasanaethu buddiannau bregiedig y salwch sy'n rhedeg y byd hwn yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd - yn cadw'r arfer o chwarae eu gemau cariad eu hunain.
encd A��
0 notes
Text
Cystadleuaeth Cadair Pat Neill – Aros – Huw Dylan Owen, Treforys (ffugenw: Derfel)
Aros
Pen Set
Er y brys, rhwydd a di-oed fu f'oedi, 
Cefais ffics o Netflix a dyna ni
Yno'n ddiddos. Heb os roedd 'na bwysau 
Lasŵ o'm hamgylch, teimlo'r cylch yn cau. 
O'r sgrin mewn cowboi-siwt ai fy nhiwtor 
Welwn â drylliau ’stadegau di-dor?
Ond llawenydd oedd hirddydd cyfforddus
O heddwch iach a sleboga'n ddi-chwys.
Tu hwnt i'r hoe a phaned roedd dedlain
Nad oedd yn cymell, fel llinell mewn llain
A her iasol hen gowboi i'w chroesi
Ar ei geffyl gwyn yn fy nychryn i.
O'r fan hyn mae'n llinell bell sydd yn bod
I herio a minnau ar ddisberod.
 Llain Galed M4
Yn wyrthiol rhwng sbwriel gwrthun - a mwg 
Mewn man diamddiffyn
Yn iach a hardd ymysg chwyn 
Mae haul y blodau melyn.
 Ni Fethodd Gweddi Daer Erioed
Gwylia hon a’i goleuni yn cerdded
I’r cwrdd yn ei chloffni
I heddwch ei thŷ gweddi,
Y gynta’ i’w hoedfa yw hi.
  I oedfa o henoed lledfyw – wele'r 
Wylaidd drwy dre ddidduw
Yn baglu i Dŷ ei Duw, 
Annedwydd unig ydyw.
 Yn unig cerdd ei hunan â’i hysgryd,
Yn fusgrell fel cryman
 chamau yn ei chwman
I gael awr o’r ysbryd glân.
 Un awr lân aiff ar liniau – un orig
O fore’i gweddïau,
Awr hir o edifarhau
Un awr a’i thaith yn oriau.
  Hir artaith fu’r daith y dwthwn – hwnnw, 
Di-hoen, di-emosiwn
A bas a di-demtasiwn
Ydyw crwydr ei hollfyd crwn.
  Yno mae gwynfyd ei byd bach – unig, 
Ac yno’i chyfeddach
Â’i Chalfin, dyma’i chilfach
A man oer emynau iach.
  Â’i hemynau mae yno – a’i chanu
Yn chwennych ddoe eto
A'n ddiwyd ei gweddïo
I nawdd Ei Oleuni O.
  Crebachu
Mae yno’n erwau Mynwy, 
Yno mae, er nad yw mwy.
 Yno bu tranc yr heniaith
A'i gwres, ond erys yn graith 
Ddaliwyd ar hap mewn mapiau...
Ein hiaith na ellir rhyddhau.
Y Gymraeg hen mewn enwau 
A’u rhith sy’n mynnu parhau
I raddau ar arwyddion
Ar yr hewl i’r Gymru hon.
  Iaith welaf, ond di-lafar
A hesb yw, aeth geiriau'n sbâr, 
Iaith na chlywaf ar dafod
Yno'n byw, ond mae hi'n bod. 
Di-glywed ond gweledig
Yno'n drwch hen enwau drig
A geiriau yn y gweryd
O'r llwch yn harddwch o hyd.
   Cyfforddus
Er mor ansad ydyw'r gwadnau - a hyll 
A thyllog y sodlau;
Er eu hoed a'u hen lledr brau 
Y rhain saif yn ffefrynnau.
 Disgwyl
Yn hogyn roedd fy neges – yn eglur, 
Yn raglen wrth-ormes,
A’m tafod rydd di-rodres
Yn ffraeth a’m dyddiau yn ffres.
 Dyddiau fu’n llawn gwleidyddiaeth – a nefoedd 
Cyfiawn wrth-wladwriaeth,
A chanu am Gymru gaeth 
Yn seiliau fy sosialaeth.
  Hyn o sylwedd roddodd seiliau, – fory 
Guevara trown innau!
Rhown faeth i’r cenedlaethau 
A mwy, gan ochel dogmâu.
  Anochel bod dyfodol – o arwain, 
Herio’r drefn geidwadol
Yn arwr egwyddorol, 
Ysblennydd lywydd di-lol.
  Rhyw lolian rhwydd oedd blwyddyn – o wyliau
At ‘Dolig tra’n blentyn;
Yma nawr a minnau’n hyn
Rhy gynnar yw tro’r gwanwyn.
  Yn gynnar daeth deugeiniau – a’i gwynion, 
Rhy gynnar i minnau
Gael mantais uchelgeisiau,
A’r haf pob blwydd yn byrhau.
  'Rol hapusrwydd tro'r flwyddyn – yn wylaidd 
Sylweddoli'n sydyn:
Rhith 'dwi, i ble'r aeth y dyn
Yr anogais tra'n hogyn.
   "Nice day, makes it go  quicker"
Er yr haul hir-ymarhous -yw heddiw,
Rhaid dioddef y cyfoes 
A hin boenydia einioes-
I rai rhy hir yw eu hoes.
  Cyllell Boced Tad-cu
Pery'n finiog er na fu hogi – llafn 
Ei gyllell hen 'leni,
Ei hiraeth ddeil i dorri
Drwy niwl y cof ynof fi.
  Erfyn
Un wennol yw'n hysgolion, 
Un rhy hwyr i'r Gymru hon. 
Amatur yw’n blaguro
Yn ein gwlad hyd erwau’r glo.
I’n hiaith hen, nid gwên ond gwg, 
Mae’r gwanwyn ym morgannwg?
 Canmlwyddiant y Capel 
I’w hyfory rhoesant fawredd – a  rhoi 
O’u gras a’u hynawsedd,
Gosod eu gwir ar dirwedd 
A hau had i gywain hedd.
 Craf a naddu heddwch – yn eu cwm, 
Creu lle cain o lân hagrwch,
Yn werddon o  harddwch
A rhoi’u credo drosto’n drwch.
 Yn gymyn rhoi’i dirlun gadeirlan – wâr  
gariad dan hugan
O fwg, rhoi gwawl eu mawlgan
Yn deml uwch tyrrau o dân.
  Rhoi tŵr i’w hiachawdwriaeth – a gosod 
Gwŷs mewn pensaerniaeth,
A neges eu Cristnogaeth
Yn llenwi’r meini â’u maeth.
  Mae yno fwy na meini – a doethwyr; 
Mae cymdeithas heini
A graen yn ei sylfeini
Yn nawdd i’n haddoli ni.
  Yn nodded i’n cymunedau – yn sad 
Fe saif drwy’r blynyddau,
Yn iasol drwy hir oesau
Meini hen yn lain mwynhau.
  Ein gwaddol yw’r hen addoldy – odiaeth, 
Treftadaeth i’w ddathlu,
Onid hardd y saif ein t ŷ
I herio ein hyfory.
 Saith 
(Cynhelir coffadwriaeth blynyddol Brwydr Llwchwr/Gwyr 1136 ar ddydd calan am hanner dydd yn Garn Goch. Bu farw 500 dros Gymru ym Mrwydr Llwchwr. Llynedd - saith ddaeth i gofio...)
 Eu hamdo oedd clô'u gorymdaith, - cofiwn 
eu cyfiawn caledwaith;
I wrando gwlatgar araith
Yn swil heddiw daeth ond saith.
  Gwibient a'u cri'n llawn gobaith - i'w hangau'n 
Llwyr ingol dros heniaith;
'N ufudd i gofio'r afiaith 
Yn syn eleni 'mond saith.
  Uffern fu'r frwydr diffaith - y miri
A'r marw bum-canwaith,
Colli'r cyfan drwy anrhaith; 
Yn siom eleni daeth saith.
  Er yr hoen ym mheirianwaith - y milwyr
pery malais artaith
Y gad a'i holl anfadwaith 
Erchyll; yn sefyll 'roedd saith.
  Mil gwron frwydrodd estroniaith - cleddau 
Yn claddu eu gobaith;
O'u gwirfodd nawr at gerfwaith
Yn ddi-syfl coffa 'roedd saith.
  Er eu rhwysg y gro oedd eu rhaith - o drwst
Y drin a'u gorchestwaith
O fynnu cartref uniaith;
Dros Gymru'n sythu 'roedd saith.
  Yn gryf nawr erys y graith - yn waddol
I naddu gwlad berffaith,
Gwaed cad yn adeiladwaith;
Yn sicr, 'mond dechrau yw'r saith.
  Nodyn gan y Bardd
Fe’m ganwyd yn Crewe, fe’m magwyd yn Nolgellau, ac wedi cyfnodau mewn prifysgolion (Pontypridd, Caerdydd, Caerwysg, ac Abertawe), rwy’n byw ers troad y ganrif yn Nhreforys, Abertawe.  Yn briod â dwy o ferched (Mirain yn ysgol Bryntawe, Abertawe, a Heledd ym Mhrifysgol Aberystwyth), rwy’n gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys. 
Rwyf yn gerddor gwerin (banjo a’r mandolin ac ati) ac wedi cyhoeddi cerddoriaeth gyda grwpiau gwerin (e.e. Gwerinos, Alltud).  Yn ogystal â threfnu a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn Abertawe, rwyf yn rhoi gwersi Cymraeg yng nghlwb y gweithwyr yn Nhreforys.  Cyhoeddais gyfrol ar archeoleg ym Meirionnydd (Meini Meirionnydd) a chyfrol ar ddiwylliant cerddoriaeth werin (Sesiwn yng Nghymru).  Rwyf yn cyhoeddi englynion yn rheolaidd drwy drydar: @Gurfal
0 notes
licollyfrelot · 5 years
Text
Eleanor Oliphant is Completely Fine
Tumblr media
Eleanor Oliphant is Completely Fine Gail Honeyman (Harper Collins, 2017)
Unwaith eto, dyma fi yn araf yn mynd ati i ddarllen llyfr sydd wedi cael lot o sylw ac sydd wedi bod yn boblogaidd iawn. Gan fy mod i wedi cael deugain punt i wario ar y Kindle gan griw Radio Cymru cyn i mi adael am fy nhrafels (diolch gang), roedd yn RHAID i mi wario arian ar lyfrau, a dyma un oedd wedi bod ar y rhestr ers tro. Er fy mod i wedi clywed lot yn canmol, doeddwn i ddim yn gwybod am beth oedd y llyfr, ond fel mae'r teitl yn awgrymu, daw i'r amlwg nad yw Eleanor Oliphant yn 'completely fine'. Mae'n nofel am fenyw sy'n ymddangosiadol hapus yn byw ei bywyd mewn ffordd benodol, ond wedi cyfres o ddigwyddiadau mae hi'n ei chael ei hun yn wynebu nifer o newidiadau ac yn gorfod mynd i'r afael â phethau yn newid o'i chwmpas.
Llais Eleanor a gawn ni drwy gydol y nofel, ac mae'n agor gyda disgrifiad o pa mor 'fine' yw hi, dan y pennawd 'Good Days'. Yr hyn sy'n glyfar iawn am y nofel yw'r modd y mae Gail Honeyman yn ein cyflwyno i gymeriad llawn Eleanor dros amser: i ddechrau mae hi'n ymddangos fel rhywun digon hapus ei byd, ond wrth i'r nofel fynd rhagddi fe ddysgwn fod na bethau tywyll yn ei gorffennol, a'i bod hi wedi treulio blynyddoedd yn celu'r gwir rhagddi hi ei hun. Mae na dueddiadau awtistaidd yn ei chymeriad hefyd: dyw hi ddim yn gyfforddus yn gymdeithasol, ac mae na nifer o bethau am sut y mae hi'n gweld y byd yn wahanol i'r arfer. Fel dwi wedi nodi, mae Honeyman yn gwneud hyn yn gelfydd iawn drwy'r nofel, gan gael Eleanor i leisio agwedd wahanol ar ei chymeriad ar adeg sy'n bwysig i ni ei hadnabod hi'n well. Mae'r ffaith ei bod hi'n cael ei chyflwyno fel hyn hefyd yn gwneud i ni fel darllenwyr uniaethu â hi mewn ffordd na fyddwn ni fel araller enghraifft, mae na bellter rhwng y darllenydd a Christopher, prif gymeriad ac adroddwr The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, sydd yntau yn awtistig.
Mae Eleanor wedi byw am flynyddoedd heb ffrindiau, heb gyfathrebu â'i chydweithwyr, yn bwyta'r un pryd i swper bob nos. Drwy gyfrwng digwyddiadau y tu allan i'w rheolaeth hi, mae hi'n dechrau ymwneud â'r byd yn fwy ac yn dechrau ennyn perthynas gyda rhywun sy'n gweithio gyda hi, Raymond. Am gymeriad lyfli! Ma'r gair clên yn ei ddisgrifio i'r dim: dyn bach yn drwsgwl, bach dros ei bwyse, o Glasgow, sy jyst yn berson neis. Mae Eleanor yn feirniadol iawn ohono yn ei phen am ei bwysau, ei smygu, ei fwyta'n gegagored, ond drwy ddyfalbarhad ac, o bosib, dallineb i'w hagwedd tuag ato, maent yn dod yn ffrindiau. Mae'r cyfeillgarwch hwn yn newid bywyd Eleanor mewn ffyrdd mawr a dwfn, na fydda i'n manylu arnyn nhw neu nai sbwylio'r llyfr i chi.
Tra'i bod hi'n dechrau gwneud ffrindiau a mynd allan ychydig yn fwy, mae hi hefyd yn datblygu obsesiwn gyda chanwr band lleol. Yn ei phen, mae hi'n creu ffantasi lle y bydd hi'n cwrdd ag e, bydd y ddau yn cwympo mewn cariad, ac yn byw happily ever after. Mae'r obsesiwn, neu 'brosiect' fel mae'n cael ei alw yn y nofel gan fam Eleanor, cymeriad cymhleth a pherthynas gymhleth ofnadwy. Er mwyn ei gwneud ei hun yn fwy deniadol, mae hi'n newid nifer o bethau am ei phryd a gwedd, gan gynnwys cael wax am y tro cynta, mynd i siopa am ddillad i wisgo i gig, a chael colur wedi'i neud yn Bobbi Brown. Mae rhai o'r golygfeydd hyn wir yn ddoniol, er enghraifft cymhlethdod Eleanor wrth iddi feddwl pa un o'r menywod oedd yn gweithio yn y stondin golur oedd Bobbi, neu ddewis Hollywood wax am ei wax cynta erioed. Mae'n lyfr doniol: dy'n ni ddim yn chwerthin ar ben Eleanor, ond yn hytrach mae ei sylwadau hithau - weithiau o syndod, weithiau methu credu pethau hollol mundane am fywyd modern - yn codi gwên.
Mae'n bwysig dweud nad llyfr doniol yn unig yw hwn: mae pethau gwirioneddol dywyll ac anodd yn cael eu trafod yma, wrth i Eleanor wynebu rhai o'r pethau a ddigwyddodd pan oedd hi'n blentyn. Mae Gail Honeyman yn trin y pynciau hyn yn sensitif ac yn feddylgar. Mewn cyfweliad ar ddiwedd yr e-lyfr a ddarllenais i, mae Honeyman yn dweud mai yr hyn a'i sbardunodd i ysgrifennu'r nofel hon oedd adroddiad newyddion ar unigedd. Er bod Eleanor yn meddwl am ei hun fel rhywun 'completely fine', mae'r nofel gyfan yn archwiliad i'r cwestiwn os all unrhywun fod yn hollol iawn a byw bywyd hollol hapus os y'n nhw wedi'u dieithrio o gymdeithas ac yn mynd drwy benwythnos (neu hyd yn oed wythnosau) cyfan heb dorri gair ag unrhywun. Beth yw effaith yr unigrwydd yma ar iechyd meddwl unigolyn?
Mi hedfanais i drwy'r nofel hon, a'i mwynhau yn fawr, o'r dwys i'r doniol a'r modd y mae Honeyman yn pendilio rhwng y ddau yn grefftus ac yn hawdd. Mae na ffilm wrthi'n cael ei datblygu, gan gwmni cynhyrchu Reese Witherspoon sydd wedi'i sefydlu i adrodd straeon menywod o bob math mewn byd sydd gan amla'n cynrychioli cyfran gul iawn i fenywod. (Mae ei chyfweliad gyda JVN ar y podlediad Getting Curious yn sbort, os y'ch chi ise clywed mwy am ei gweledigaeth). Mae'n nofel alla i ddychmygu fydd yn trosglwyddo'n dda i'r sgrîn, a dwi'n edrych mlaen i weld be maen nhw'n neud gydag e. Ond yn y cyfamser, darllenwch hon os nad ydych chi wedi eto, fyddwch chi ddim yn difaru.
0 notes
licollyfrelot · 5 years
Text
Conversations with Friends
Tumblr media
Conversations with Friends Sally Rooney (Faber & Faber, 2017)
Llyfr cyntaf 2019! Dyma lyfr ges i fel anrheg Nadolig, ac o fewn diwrnod i’w ddechrau, ro’n i wedi ei gorffen. Dwi yn aml yn colli moment rhyw lyfr neu awdur - ac mae’n deg dweud mai ar ail nofel Sally Rooney, Normal People, y mae’r holl sylw ar hyn o bryd. Conversations with Friends yw’r nofel gyntaf gan yr awdur, a’r unig nofel i mi ddarllen ganddi, ond o fod wedi darllen honno, dwi’n deall yr hype am yr ail.
Do’n i ddim yn siwr beth i ddisgwyl gan y nofel hon, heblaw fod yr Irish Times, wedi’u dyfynnu ar y clawr, yn dweud mai “fearless, sensual writing” sydd yma. Mewn reviewspeak, mae hynny’n golygu gwahanol a rhywiol. Mae’r arddull yn sicr yn wahanol: does na dim dyfynodau o gwmpas unrhyw ddarn o ddeialog, er enghraifft, ac mae’r dweud yn uniongyrchol ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae’n cymryd ychydig o dudalennau i gyfarwyddo ag e, ond digon cyflym yr oeddwn i wedi ymgolli i’r byd. Stori am gydberthynas gymhleth rhwng pedwar cymeriad sydd yma, a’r holl wleidyddiaeth sydd ynghlwm â gwneud ffrindiau newydd fel grwp o oedolion. Y pedwar yw Frances, y prif gymeriad; Bobbi, ei chyn-gariad sy’n dal yn ffrind agos; Melissa, ffotograffydd llwyddiannus, a Nick, ei gŵr, sy’n actor. Mae Frances a Bobbi yn fyfyrwyr Prifysgol, tra bo’r pâr priod dipyn o flynyddoedd yn hŷn ac yn troi mewn cylchoedd gwahanol i’r ddwy arall. Mae’r cymeriadu’n graff, wrth i Rooney ein harwain, drwy lygaid Frances, i ganol bywydau’r bobl gyfoethog hyn sydd, drwy hap, wedi dod yn ffrindiau iddi hi a Bobbi. Drwy ddisgrifiadau cynnil o wahanol nodweddion, mae’r pedwar yn dod yn fyw o’r dudalen. Melissa yw’r cymeriad nad y’n ni’n cael dod i’w hadnabod gymaint â’r gweddill, ond mae hynny oherwydd y pellter rhyngddi hi a Frances.
Fel cymeriadau prifysgol, mae Frances a Bobbi yn teimlo lot yn hŷn: maen nhw ill dwy yn aeddfed eu ffyrdd fel menywod 21 mlwydd oed. Mae’r trafodaethau mae’r ddwy yn eu cael ymysg eu ffrindiau coleg yn dipyn mwy uchel-ael na’r sgyrsiau ches i fyth yng nghoridorau JMJ! Wedi dweud hyn, mae na bethau byrbwyll, anaeddfed am y ddwy: rhyw orhyder yn Bobbi yn arbennig sy’n cuddio ansicrwydd, a Frances yn poeni o hyd nad yw hi’n gwybod yn iawn pwy yw hi neu beth yw ei phersonoliaeth. Yn y nodweddion hyn y daw’r anaeddfedrwydd i’r golwg, ond fel rheol bu’n rhaid i mi atgoffa’n hun drwy’r nofel fod y cymeriadau hyn yn iau na fi.
Ro'n i'n ei chael hi'n anodd i wahanu'r prif gymeriad, Frances, gyda'r awdur. Mae'r ddwy yn sgwennwyr, ac o gymharu'r disgrifiadau a gawn o Frances â'r llun y tu fewn i'r clawr cefn o Sally Rooney, maen nhw'n ddigon tebyg o gorff a phryd a gwedd. Gan ystyried mai dyma oedd nofel gyntaf Rooney, mae'n bosib ei bod hi wedi defnyddio dipyn go lew o'i phrofiad ei hun wrth lunio ei hadroddwr. Dyw hyn ddim yn feirniadaeth o bell ffordd: am wn i mae gan bob cymeriad y mae awdur yn ei greu rywbeth amdanynt sy'n hanu o brofiad yr awdur, ond mae Frances yn taro rhywun fel cymeriad sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn ym mhrofiad yr awdur ei hun. Ond falle fod hynny yn rhan o grefft a dawn Rooney - bydd rhaid darllen Normal People a chymharu.
Er mai ymchwiliad i natur perthynas sydd yn y nofel hon, mae'n fwy na stori garu. Mae na lot o haenau yma, gyda themâu fel pŵer, iechyd meddwl, rôl rhieni a iechyd menywod yn cael eu trafod. Wrth gyflwyno'r thema olaf hon mae na gyffwrdd hefyd ar sut y mae'r gymdeithas yn Iwerddon yn meddwl am ryw, sy'n amserol ac yn bwerus. Drwy gyfrwng perthynas y pedwar cymeriad gwahanol, mae Sally Rooney yn cynnig trafodaeth ar nifer o agweddau pwysig. Drwy gydol y nofel mi o'n i'n wirioneddol teimlo dros ac eisiau gwybod beth oedd yn digwydd i'r cymeriadau hyn Mae holl gymhlethdod eu bywydau carwriaethol, y golled pan fo na rywrai yn colli cyswllt, y teimlad na o stumog yn cwympo pan fod na rywbeth yn cael ei ddatgelu: ry'n ni'n dod yn rhan o'r gang bach od yma ac yn becso amdanynt, ac yn byw drwy bopeth gyda nhw. Dyma nofel sy'n astudiaeth graff o berthynas, ond yn fwy na hynny hefyd, ac mae'n hawdd gweld wrth ei darllen pam fod yr awdur wedi ennill gymaint o boblogrwydd mewn amser cymharol fyr. Edrych mlaen i ddarllen y nesa!
0 notes
licollyfrelot · 5 years
Text
Animal
Tumblr media
Animal: The Autobigraphy of a Female Body Sara Pascoe (Faber & Faber, 2016)
Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi dod yn fwy o ffan o stand-yp. Dwi ddim yn ffan go iawn, dwi byth di bod i glwb comedi na chwaith i Ŵyl y Fringe yng Nghaeredin, ond wrth wrando ar wahanol bodlediadau dwi’n dechrau gwybod mwy am y sîn gomedi ym Mhrydain nag oeddwn i ychydig flynyddoedd yn ôl. Un o’r lleisiau sydd i’w chlywed yn aml ar bodlediad The Guilty Feminist yw Sara Pascoe. Mae’n deg dweud ei bod hi hefyd yn un o’r comedïwyr ‘mainstream’, yn ymddangos ar raglenni fel Live at the Apollo, Mock the Week a Have I Got News For You. Mae ei deunydd stand-yp yn amrywio, o fod yn fyfyrdod ar symud mewn gyda chariad, i drafodaeth bwysig ar broblemau y diwylliant macho i ddynion yn ein cymdeithas. Felly dydy pwnc y llyfr hwn ddim yn dod yn syndod - er mai braidd yn ddwys, efallai, y mae’n swnio i gychwyn. 
Mae’r llyfr yma’n astudio ar beth yw hi i fod yn fenyw - nid yn unig yn y byd sydd ohoni ond yr hyn sydd wedi dod o’n blaenau yn hanesyddol ac yn esblygol. Mae Sara Pascoe yn ein harwain ni drwy yr “history of womanhood”, o fanteision theoretig creu bond cryf gyda phartner mewn cyfnod cynhanesyddol, yr holl ffordd at ffantasi Take That yr awdur pan oedd hi yn ei harddegau. Mae’r gyfrol yn sicr yn mynd i’r afael â nifer o themâu a phynciau anodd, ond mae Pascoe yn mynd drwy’r cyfan gydag arddull ysgafn a llawn hiwmor, sy’n llwyddo i godi’r ysbryd pan fo’r deunydd yn mynd yn ddyrys. Ceir nifer o asides a throednodiadau bach doniol - er enghraifft, ar un o dudalennau cyntaf y llyfr, fe’n hysbysir mewn troednodyn sut i ynganu ei henw: “*My name doesn’t have an ‘h’ on it, but it’s pronounced Sarah not Sah-rah. Make sure you are pronouncing it correctly in your head.” Mae hyn yn nodweddiadol o’r llais sy drwy’r llyfr cyfan: ychydig yn sarcastig, ddim yn cymryd unrhyw nonsens, ond yn ddigon cynnes ac agos atat ti yn yr un modd. Mi gymerodd hi ychydig o amser i mi gyfarwyddo gydag awdur yn fy nghyfarch yn bersonol mor aml, ac i ddod i arfer gyda thôn o’r math yma mewn llyfr ffeithiol. Dyw e’n sicr ddim i bawb, alla i ddychmygu dipyn o bobl yn cael digon ar ei harddull, ond mi wnes i ffeindio fy hun yn darllen y cyfan yn ei llais hi, a mi o’n i’n hoff iawn o’r trwmpedi.
Mae na dair prif rhan i’r llyfr, sef Love, Body a Consent. Mae’r adran gyntaf yn archwilio cariad. Beth yw’r pwynt? Beth yw’r teimlad? Pam fod cymdeithas yn bwydo hyn i ni fel y peth sy’n mynd i gwblhau ein bywyd? Dyma lle y cawn ni’r rhan fwya o gyfeiriadau at ein datblygiad ni fel rhywogaeth, wrth i Pascoe archwilio’r gwahanol theorïau sy’n bodoli ynglŷn â bodolaeth cariad. Roedd yr adran hon yn arbennig o ddiddorol, gan gyflwyno syniadau fel y modd y’n ni fel rhywogaeth, wrth ddewis partneriaid, mewn gwirionedd yn ddiarymwybod yn ymateb i wahanol ffactorau sydd wedi ein perswadio, heb i ni sylweddoli, fod y person yma yn berson da i atgenhedlu â nhw. Mae hi’n cydnabod hetero-normyddiaeth y datganiad hwn, ond yn dweud fod y dystiolaeth yn dangos fod y canlyniad hwn yr un mor wir ar gyfer pobl hoyw a phobl sydd ddim yn uniaethu ag un rhyw (oes na derm Cymraeg ar gyfer gender nonconforming? Dwi wedi methu â ffeindio un) ag yw e ar gyfer pobl heterorywiol. Hyd yn oed wedi i ni gael rhyw â rhywun dy’n ni ddim wir yn eu ffansïo neu lico lot, dywed Pascoe wrthon ni, ry’n ni’n fwy tebygol o ddatblygu teimladau o gysylltiad cryf â nhw. Achos yn y bôn mae e i gyd yn perthyn i’r ffaith yr oedd magu babi yn yr oes cynhanesyddol ar ben dy hun mwy neu lai yn amhosib. Enter bondio cryf rhwng rhieni - sy’n golygu y byddai na un i nyrsio’r babi tra fo’r llall yn gallu mynd i gasglu a hela bwyd i gadw’r fam i fynd. Mae Pascoe yn trafod nifer o ddamcaniaethau a syniadau tebyg yn y bennod hon.
Mae’r ail bennod, Body, yn rhoi yr un faint o ffeithiau a damcaniaethau diddorol i ni. Ry’n ni’n dysgu am gorff menyw - am y rheswm dros y ffaith fod gennym ni fwy o ffat corff na dynion, er enghraifft (fat = brêns babi), am y gallu i greu babis ac am yr holl system genhedlu sydd, mae’n rhaid gweud, yn gallu bod yn boen. Yn ogystal â’r pynciau fel delwedd corff a phroblemau bwyta y byddai rhywun yn disgwyl eu cael mewn pennod o’r enw ‘body’, mae Pascoe hefyd yn mynd i’r afael â hanes y mislif a sut y mae wedi ac yn dal i gael ei ystyried mewn gwahanol ddiwylliannau dros y byd. Gweler stori fer Siân Harries yn Codi Llais sy’n cael ei drafod gen i mewn post diweddar. Mae Sara Pascoe hefyd, er fod y llyfr hwn yn un ddigon ysgafn o ran tôn, yn ysgrifennu’n onest iawn am ei phrofiad ei hun o gael erthyliad, ac mi oedd yr adran honno yn un a oedd wirioneddol yn cyffwrdd rhywun gan ei fod yn rhywbeth y byddai mor hawdd yn medru bod yn brofiad i fi neu unrhywun o’r merched dwi’n eu nabod. 
Mae’r ail bennod yn dod i ben gyda thrafodaeth ar rhywioldeb, neu sexuality, a sut mae rhywioldeb menywod yn hanesyddol wedi cael ei dawelu a’i ddileu. Mae hi’n sôn am ba mor gymhleth yw ein perthynas ni oll, ond yn enwedig menywod, gyda rhywioldeb (fel rheol - mae Pascoe yn cydnabod yn aml drwy gydol y llyfr ei bod hi’n cyffredinoli ac yn meddwl am bethau o’i safbwynt menyw cis-hetero-gwyn hi). Mae hyn yn arwain yn daclus at yr adran olaf, sy’n mynd i’r afael â chaniatâd rhywiol: Consent. Ceir yma drafodaeth sensitif a deallus, sydd, yng ngeiriau’r awdur ei hun, yn “exploration of a grey area”. Mae hi’n cydnabod nad yw e bob tro mor hawdd na mor syml ag ie neu na, yn crybwyll y rôl y mae pŵer yn ei chwarae mewn rhyw, ac yn trafod dipyn ar ddatblygiad yr oed caniatâd. Mae hi’n gorffen yr adran hon, a’r llyfr, drwy ddweud nad oes na un ateb am beth sy’n gywir o ran oedran, neu beth yw’r ffordd y dylswn ni fod yn siarad am ryw, ond yn hytrach yn cynnig mai drwy drafod a datblygu beth yw’r norm i drafod y daw newid. Wedi adrannau reit sili a doniol gyda chartŵns bach o offerynnau pres, adroddiadau gonest o brofiadau personol iawn, a thrafodaethau ystyriol ar bynciau dwys, mae Sara Pascoe yn llwyddo i orffen ar nodyn gobeithiol a chadarnhaol. Dyw’r tôn ddim i bawb, yn sicr, ond mae’r cynnwys yn addysgiadol ac yn ennyn trafodaeth bwysig. Sef y ffordd ymlaen am newid. Trwmped!
0 notes
wcva · 5 years
Text
Taith Ymddiriedolwr Ifanc, drwy ei lygaid ei hun
Tumblr media
Daw ein hail flog ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr gan Harri Evans-Mason, Cydlynydd Prosiect Get on Board Cymru.
Helo, Harri dwi. Dwi’n 19 mlwydd oed ac yn Fyfyriwr Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe; ochr yn ochr ag astudio mae gen i’r fraint o Reoli Prosiect ‘Get on Board Cymru’ yn yr Uned Hawliau Plant.
Fe wnaeth fy nhaith at fod yn Ymddiriedolwr ddechrau yn 2014 yn yr Ysgol Uwchradd; dyma pryd y dechreuais wirfoddoli. Tra yn yr ysgol, ro’n i’n ddisgybl gweithgar gan dderbyn rôl Cadeirydd Cyngor yr Ysgol Gyfan. Dyma ddechrau fy mhrofiad o fod yn aelod o bwyllgorau. Fel rhan o Gyngor yr Ysgol, fe wnes i gwrdd â’r Comisiynydd Plant ar y pryd Keith Towler, yn ogystal â staff yr Uned Hawliau Plant. Sylwais ar bwysigrwydd Hawliau Plant fel person ifanc a sylweddoli, fel y mae astudiaethau wedi dangos, mai Erthygl Deuddeg o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r hawl sy’n agor y drws: Yr hawl i bobl wrando arnoch, ac i gael eich cymryd o ddifrif. Fe wnes i wirfoddoli fel Hyrwyddwr Hawliau Plant ac anelu at ymgymryd â rolau a allai gael dylanwad a gwneud hawliau yn realiti i Blant a Phobl Ifanc eraill.
Tumblr media
Erbyn 2015, roedd fy hyder wedi cynyddu’n ddramatig. Wythnosau ar ôl fy Mhen-blwydd yn un ar bymtheg gofynnwyd i mi a hoffwn fod yn Ymddiriedolwr Ifanc i’r Uned Hawliau Plant. Yn ogystal, ro’n i wedi cael fy mhenodi i Gyngor Tref Pontardawe fel Cynrychiolydd Ieuenctid, y cyntaf yng Nghymru, o dan Fesur Cymru 2011. Ar ôl derbyn rôl ymddiriedolwr, a rolau ar bwyllgorau eraill, fe wnes i ofyn i Gyfarwyddwr yr Uned Hawliau Plant a oedd raid i mi wneud unrhyw hyfforddiant, yn enwedig achos fy niffyg profiad a gwybodaeth fel person ifanc.
Dyma pryd y sefydlwyd Prosiect Ymddiriedolwyr Ifanc Cymru.
Dechreuodd yr Uned Hawliau Plant ymgynghori â phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ynglŷn â’u dealltwriaeth o lywodraethu ac a oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw sgyrsiau neu benderfyniadau ar y lefel yma. Ro’n i’n rhan ganolog o ffurfio’r rhaglen a chynorthwyo Cyfarwyddwr yr Uned Hawliau Plant i wneud Cais i Gronfa Gwirfoddoli Cymru WCVA i gynnal y Prosiect yn y Sir. Fe wnaethom lwyddo i sicrhau’r arian, a barhawyd ymhell y tu hwnt i’r cyfnod deuddeg mis gwreiddiol.
Tumblr media
Darparodd y Rhaglen hyfforddiant wedi’i achredu, ‘Paratoi at fod yn Aelod o Fwrdd’, i bobl ifanc rhwng 15 a 25 mlwydd oed a, phan yn bosib, eu cynorthwyo nhw i ddechrau mewn rôl ymddiriedolwr [2015-2017]. Wrth gymryd rhan yn y prosiect yma, parhau i gyflawni fy rôl Ymddiriedolwr a’r rôl fel Cynrychiolydd Ieuenctid, fe wnes i gadw mewn cysylltiad â phob math o fudiadau eraill, gan gynnwys Un Llais Cymru a Rotari Prydain Fawr ac Iwerddon (RIBI). Roedd hyn yn cynnwys gwneud cyflwyniad yng Nghynhadledd Genedlaethol RIBI yn Belfast ynglŷn â phwysigrwydd cynnwys pobl ifanc a’u hannog i gymryd rhan ar bob lefel, o lawr gwlad i lywodraethu: yn y gynhadledd yma’n unig, fe wnes i annerch 2,000 o bobl gan bwysleisio pwysigrwydd cynnwys ieuenctid.
Yn 2016, daeth Rôl Cydlynydd y Prosiect Ymddiriedolwyr Ifanc yn wag; cefais fy mhenodi a dwi’n dal i fod yn y rôl heddiw. Drwy gydol y cyfnod yma, yn sgil cynnydd mewn mesurau cyni bu mwy a mwy o rwystrau i bobl ifanc gyfrannu ar lefel lywodraethu at fudiadau. Erbyn 2017, roedden ni wedi sylweddoli bod Pobl Ifanc yn aml yn teimlo ofn wrth glywed y gair ‘Ymddiriedolwr’, ac fe wnaethom ailenwi’r prosiect yn ‘Get on Board Cymru’. Arweiniodd yr ail-frandio yma at welliannau yn y rhaglenni yr ydym yn eu darparu a oedd yn rhoi cyflwyniad mwy ysgafn i rolau llywodraethu, a chanfod pa strwythurau sy’n gweithio ym mha fudiadau: er enghraifft, ai ymddiriedolwr ifanc yw’r peth mwyaf priodol, efallai fod panel cynghori ieuenctid yn fwy addas? Mae’r prosiect wedi tyfu o fod ar waith yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig i fod yn Brosiect ledled Cymru gyfan.
Tumblr media
Ochr yn ochr â’m cynnydd mewn gwaith, dechreuais astudio fy lefelau-A yng Ngrŵp Colegau NPTC. Yma ro’n i’n aelod o’r Gweithgor Cynnwys Myfyrwyr ac fe wnes i sefydlu Undeb Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC, a dwi bellach yn Llywydd arno. Ar ôl cwblhau fy rhaglen lefel-A yn llwyddiannus, es i ymlaen i Brifysgol Abertawe, lle dwi wedi cael fy ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar yr Undeb, Rôl Lywodraethu arall. Serch hynny, dyw fy nghysylltiad â’r coleg ddim wedi’i dorri’n llwyr, gan fy mod wedi cael fy mhenodi’n Llywodraethwr ar gyfer y grŵp colegau.
Fy llwyddiant mwyaf hyd yma yw’r newid diweddar yn fy nghyfrifoldebau yn yr Uned Hawliau Plant, gan fod yn gyfrifol am dyfu ‘Get on Board Cymru’ i fod yn rhaglen gynaliadwy ledled Cymru, gwneud cais am gyllid a fydd, os yw’n llwyddo, yn arwain at ehangu’r prosiect drwy bedair ‘Canolfan Hyfforddi a Chefnogi’ ranbarthol, a tharged i rymuso tua 200 o bobl ifanc y flwyddyn. Fe fydd hyn yn rhoi’r cyfle iddynt fod yn ymddiriedolwyr ifanc, unrhyw le yng Nghymru, ni waeth beth fo’u gwybodaeth na’u profiad. Dwi hefyd nawr yn gweithio’n agos gyda Dr. Miles Weaver ym Mhrifysgol Napier Caeredin ar adnoddau academaidd a rhannu arferion rhwng Cymru a’r Alban, gan obeithio ysbrydoli rhagor o bobl ifanc i fod yn Ymddiriedolwyr.
Ar hyd fy nhaith dwi wedi cael fy nghefnogi bob cam o’r ffordd gan fy nheulu, fy ffrindiau a’m cydweithwyr: yn enwedig Ymddiriedolwyr yr Uned Hawliau Plant.
Mae hi wedi bod yn daith a hanner, dwi wedi dysgu llawer a chasglu llwyth o wybodaeth, a chael hwyl ar yr un pryd. Mae bod yn Ymddiriedolwr wedi arwain at lawer o gyfleoedd sydd wedi fy natblygu fel unigolyn.
Dwi’n edrych ymlaen at lawer iawn mwy o flynyddoedd o wirfoddoli a dylanwadu yn y Trydydd Sector a byd Llywodraethu.  
0 notes
wcva · 6 years
Text
Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu
Dyma’r bedwaredd ran a’r un olaf yn ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017 Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n crynhoi’r hyn y mae wedi’i ddysgu diolch i’r bwrsari, a’r hyn a fu o gymorth iddo ar ei daith
Tumblr media
‘Chi’n edrych yn brysur, dwi’n gweld eich bod yn recriwtio eto’. 
Sylw dros ysgwydd oedd e’, a ddywedwyd wrtha’i fis diwetha’ gan gyfarwyddwr yn y diwydiant rheilffyrdd, ond fe arhosodd gyda mi. Roedd yn arwydd bod Sustrans yn mynd i’r cyfeiriad cywir. 
Fel y mwyafrif o elusennau, mae Sustrans wedi gorfod ailffocysu ac ailstrwythuro, i raddau helaeth oherwydd mesurau cyni. Roedd arian Ewropeaidd ac arian y loteri wedi galluogi Sustrans Cymru i ehangu cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru dros sawl blwyddyn. Dwi’n falch o’n gwaith ar gynlluniau fel Pont y Ddraig yn y Rhyl, Pont y Werin rhwng Caerdydd a Phenarth, a Rhwydwaith Beicio’r Cymoedd. Roedd llawer o waith i’w wneud o hyd, ond fe wnaeth economi a oedd yn gwaethygu ac amgylchedd cyllido mwy heriol orfodi Sustrans Cymru i newid ei ffordd o weithio.
Ymunais â Sustrans Cymru fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol fis Hydref 2016. Roedd y mudiad wedi gorfod lleihau o ran maint, a thra’r oedd ein gweithrediadau yn dal i fod yn ariannol hyfyw ac o fudd cymdeithasol, roedd yna deimlad ymysg rhai fod ein dyddiau gorau y tu ôl i ni, nid o’n blaenau. Canolbwyntiais ar dair blaenoriaeth yn fy nghynllun ar gyfer fy 12 mis cyntaf: 
Meddylfryd y mudiad – newid meddylfryd yr elusen o hiraeth i gyfleoedd
Codi ein proffil a’n dylanwad allanol
Twf 
Mae pob un o’r tri yn gyd-ddibynnol, ond yn ganolog i fy syniad i o ‘arweinyddiaeth entrepreneuraidd’ – yr hyn y mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ceisio ei feithrin. 
I mi, mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio yn gymaint ag y mae’n fath o unigolyn. Ei hanfod yw gweld angen am newid a meddwl am ffordd ymarferol o gyflawni’r newid hwnnw sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) yn rhoi buddion y tu hwnt i elw. 
Tumblr media
Fe wnes i ddau beth gyda’r bwrsari. Defnyddiais yr arian i gofrestru â rhaglen Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a threulio amser yn Nosbarth Meistr Copenhagenize Design Company. Rhoddodd hyn gyfle i mi edrych yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol ar sut y gallwn alluogi pobl i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio o A i B, a dwi wedi trafod y ddwy agwedd hyn yn fy mlogiau blaenorol. 
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Cydweithio Ymarferol, Pan Foch yn Nenmarc)
Ond roedd y bwrsari hefyd yn gatalydd i wneud ychydig o waith allgyrsiol ar arweinyddiaeth. Dwi’n credu bod yr hen ystrydeb ‘mae’n bwysig treulio amser ar eich busnes yn ogystal ag yn eich busnes’ yn taro deuddeg, ac fe roddodd y bwrsari y cyfle i wneud hynny. 
Cafodd tri llyfr ddylanwad ar fy ffordd o feddwl (dau ohonynt yn llyfrau yr oeddwn wedi’u darllen o’r blaen). Mae ‘You’re in Charge, now what’ gan Neff & Citrin yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol rhagorol ar arweinyddiaeth strategol; ac mae Alistair Campbell yn ‘Winners: And how they succeed’ yn dadansoddi strategaeth, arweinyddiaeth, tîmyddiaeth (teamship) a’r meddylfryd eich bod am ennill. Cyflwynodd cadeirydd WCVA Peter Davies fi i ‘How to Change the World, the essential guide for social sector leaders’ gan Craig Dearden-Phillips sy’n cynnwys cyfweliadau ag arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol. 
Roedd araith Laura McAllister yn CCB WCVA yn 2017 hefyd wedi taro tant clir â mi, yn enwedig pan alwodd ar i arweinwyr yng Nghymru fod yn llai swil. Ac fe rannodd Sue Essex, cyn-weinidog yn llywodraeth Rhodri Morgan, ei phrofiad treiddgar â mi mewn digwyddiad a gyflwynais yn gynharach eleni gyda Capital Law o’r enw ‘Heads Up’. 
Mae sawl ffordd o dorri’r gacen hon, ond i mi hanfod hyn oll yw’r 11 wers ganlynol: 
Llunio gweledigaeth ac adrodd stori. Darluniwch weledigaeth o’r dyfodol. Diffiniwch y weledigaeth honno, sicrhewch mai chi sy’n berchen arni ac ailadroddwch hi, yn ddiddiwedd. Os nad ydych chi’n adrodd eich stori, bydd rhywun arall yn ei hadrodd, a fwy na thebyg nid dyna’r stori yr hoffech iddi gael ei hadrodd. 
Llunio uwchgynllun personol. Nid strategaeth eich mudiad yw hwn. Nid eich amcanion personol yw e’ hyd yn oed. Mae’n fynegiad o’ch agenda hirdymor chi. Yr hyn yr ydych chi am ei gyflawni yn eich rôl. Does neb yn dechrau swydd yn siarad am yr amser pan fyddant yn gadael, ond amser cyfyngedig sydd gan arweinwyr. Dylech werthfawrogi faint o amser sydd gennych, gwybod yr hyn yr ydych am ei wneud, a phryd y mae’r gwaith ar ben ac yn amser trosglwyddo i rywun arall. 
Byw’ch steil o arwain. Ni fyddai elusen dibyniaeth ar alcohol yn cynnal derbyniad diodydd mewn cynhadledd wleidyddol i drafod gosod isafswm pris ar alcohol, gan ei fod yn amlwg yn tanseilio ei chenhadaeth. Dylai’ch ymddygiad fel arweinydd fod yn gyson â’ch uwchgynllun personol. Eisiau arwain elusen sy’n rhoi’r egwyddor o gynnwys buddiolwyr wrth wraidd ei gwaith? Peidiwch â bod yn unben â drws eich swyddfa ynghau. Nid hanfod arweinyddiaeth go iawn yw bod yn chi’ch hun, heb ystyried neb arall. Ei hanfon yw bod y chi y mae pobl eraill o’ch cwmpas angen i chi fod. Byddwch yn barod i newid a gweithio y tu allan i’ch cynefin, gan arwain drwy esiampl. 
Creu lle i feddwl. Nid peth moethus yw hyn – mae’n hanfodol. Dyw’r arweinydd elusen sy’n ymffrostio wrth gwyno ‘Dwi’n rhy brysur’ ddim yn gwneud ei waith yn iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw gweld safbwyntiau eraill, siarad â’ch buddiolwyr, gofyn cwestiynau, herio rhagdybiaethau, cwestiynu tystiolaeth, deall eich cyllidwyr, meddwl am y dyfodol. Gall byrddau cynghori ac ymddiriedolwyr eich cefnogi a’ch herio – ond dyw hynny ddim yn disodli creu’ch lle eich hun i feddwl. 
Gwahodd her – gwers gan Rhodri Morgan. Dylech fynd ati i annog y rheini o’ch cwmpas i’ch herio. Roedd y cyn-brif weinidog yn chwilio’n benodol am bobl a fyddai’n ei herio, yn ei wrthwynebu, yn dadlau ag ef. Mae’n ehangu’ch meddwl ac yn miniogi’ch dadl. Cofiwch ei bod yn bosib na chafodd staff eu hannog i wneud hyn o’r blaen, felly cefnogwch bobl i’ch herio. 
Cydweithio. Ond cydweithiwch yn dda. Dyw paned a chlonc ag elusen arall y mae ei chenhadaeth yn gorgyffwrdd yn fras ag un chi ddim yn cyfrif fel cydweithio. Cymerwch yr awenau a dod o hyd i bobl yr hoffech gydweithio â nhw. Ar ôl diffinio’ch gweledigaeth, gofynnwch i chi’ch hun pwy rydych ei angen i’ch helpu i’w gwireddu? Pwy sy’n rhannu’ch gweledigaeth? Dewch o hyd iddyn nhw, gweithiwch gyda nhw, ond parchwch nhw – peidiwch â’u defnyddio. Dylech dal brynu paned iddyn nhw. 
Adeiladu’ch tîm a thrin pobl â pharch. Peidiwch ag ymhel mewn mân-ryfela, na gwleidyddiaeth swyddfa. Peidiwch â gwneud pethau’n bersonol. Dylech feithrin eich tîm a’r bobl yr hoffech weithio gyda nhw. Datblygwch nhw. Cefnogwch nhw. Treuliwch amser gyda nhw. Rhaid cydnabod eich bod angen pobl ddawnus a chefnogaeth gan y rheini yr ydych yn eu harwain. Ond cofiwch mai’ch cyfrifoldeb chi yw delio gyda phobl na all wneud y gwaith neu sy’n gwrthod gwneud y gwaith. Derbyniwch hynny – dyna pam rydym ar gyflog uwch. 
Darllen. A darllen mwy. Ac yna darllen mwy fyth. Mae llyfr nodiadau yn llawn syniadau yn well na mewnflwch sydd wedi’i wagio o bob ebost. Yn Oxfam, roedd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael wythnos astudio gyda’i gilydd bob blwyddyn. Mae angen deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae angen i chi ei wybod, a’r hyn nad oes angen i chi ei wybod. Ni ellir ennill gwybodaeth a dod yn wybodus drwy dorri corneli. 
Deall eich cyd-destun. Meddyliwch am eich amgylchedd gweithredu allanol. Meddyliwch am fygythiadau a chyfleoedd. Dadansoddwch. Ni allwch ddarogan dyfodol eich mudiad, ond gallwch gynllunio ato. 
Peidio byth â chymryd dim byd yn ganiataol. Os oes gan eich elusen genhadaeth yn seiliedig ar eiriolaeth neu ymgyrch, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eich bod wedi ennill. Atgyfnerthwch eich safle yn gyson ac, ar yr un pryd, gwthiwch yr agenda ymhellach ymlaen. Cadarnhau’r hyn yr ydych eisoes wedi’i gyflawni yn ogystal â gwneud cynnydd pellach. 
Peidio byth ag anwybyddu’r manylion. Treuliwch amser ar y lefel gywir (gweledigaeth, strategaeth, tîm, proffil, arloesedd) a pheidiwch â chael eich sugno i mewn i’r mân bethau. Ond peidiwch byth bythoedd ag esgeuluso cydymffurfiaeth a’r gwaith beunyddiol allweddol. Y pethau bach a aiff o chwith y mae pobl yn sylwi arnynt ac a all eich brathu. Os arweinydd ydych chi ac nid rheolwr, sicrhewch fod gennych reolwyr da o’ch cwmpas. 
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
0 notes