Tumgik
#pen-y-bont ar ogwr
thechemistryset · 1 year
Photo
Tumblr media
Bridgend bus station, 1965
74 notes · View notes
mountainside · 2 months
Text
Tumblr media
Pen-y-bont ar Ogwr.
Bridgend.
1 note · View note
mi6-rogue · 2 years
Text
Dedfrydu llofruddwyr Logan Mwangi
Mae tri unigolyn wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am lofruddio bachgen 5 mlwydd oed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. https://www.cps.gov.uk/cymruwales/news/dedfrydu-llofruddwyr-logan-mwangi?utm_source=dlvr.it&utm_medium=tumblr
0 notes
drudwen · 4 years
Text
Elizabeth Williams – Disgyblion Ysgol y Ferch o’r Sgêr
Tumblr media
Elizabeth Williams (Y Ferch o’r Sgêr) – (1747-1776)  Amser maith yn ôl roedd Mr a Mrs Isaac Williams a’u dwy ferch brydferth Elizabeth a Mari yn byw yn ffermdy Sgêr. Bob blwyddyn roedd pobl yr ardal yn cofio am eu Santes, Mair Magdalen,  gyda Gŵyl y Mabsant. Parti mawr oedd yr ŵyl yn Neuadd y Dref. Roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ddawnsio drwy’r nos. Ar noson y parti roedd y merched yn gyffrous wrth wisgo eu dillad gorau. Syrthiodd Elizabeth a Tomos Ifans y telynor o’r Drenewydd mewn cariad yn syth. Roedd Tomos am briodi Elizabeth felly aeth i ofyn caniatád oddi wrth Isaac Williams. Doedd Isaac Williams ddim yn fodlon. Aeth yn wyllt gacwn! Ffermwyr cyfoethog oedd ei deulu e a dim ond saer coed oedd Tomos Ifans. Roedd yn rhaid i Elizabeth aros yn ei hystafell wely tan iddi gytuno i briodi Mr Kirkhouse, dyn cyfoethog o Gastell Nedd. Roedd Elizabeth yn beuddwydio am Tomos drwy’r amser. Tair mlynedd ar ôl ei phriodas clywodd Mrs Kirkhouse bod Tomos Ifans wedi cyfansoddi cân o’r enw “Y Ferch o’r Sgêr” iddi hi a’i fod yn mynd i ganu’r delyn yn Abertawe. Y Ferch o’r Sgêr Mab wyr i sy’n byw dan benyd Am f’anwylyd fawr ei bri; Gwaith fwy’n ei charu’n fwy na digon, Curio wnaeth fy nghalon i. Gwell yw dangos beth yw’r achos Nag ymaros dan fy nghur; Dyma seren atai’n llawen, Ti gei barch a chariad pur. Aeth Elizabeth i Abertawe i weld Tomos unwaith eto. Dilynodd Mr Kirkhouse ei wraig a’i dal yn sgwrsio’n hapus gyda Tomos Ifans. Cafodd Elizabeth gerydd mawr oddi wrth ei gŵr am ymddwyn mor wael. Anfonodd Mr Kirkhouse Elizabeth adref. Aeth hi i’w gwely yn syth. Bu farw yno o dor-calon ar ôl crio drwy’r dydd a nos am wythnosau hir. Prynodd tad John Thomas (Mawrth 1af 1826 - Mawrth 19eg 1913) delyn Tomos Ifans i’w fab fel offeryn ymarfer pan oedd John Thomas yn 5 oed. Daeth John Thomas yn delynor enwog iawn, ac yn delynor i’r frenhines Victoria. ...
Darllen/Gwylio pellach:
https://www.bbc.co.uk/programmes/p01x1scd
...
Erthygl gan ddisgyblion Ysgol y Ferch o’r Sger. Enwyd Ysgol Y Ferch o'r Sger yng Nghorneli, bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl Elizabeth Williams.
1 note · View note
welshbiz · 5 years
Photo
Tumblr media
Y foment a newidiodd fywydau tri unigolyn pan sylweddolasant eu bod yn dymuno bod yn ofalwyr maeth Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â gofalwyr maeth
0 notes
museumwales · 7 years
Photo
Tumblr media
George Thomas, neu “George y Beddau”, torrwr beddau yn Llangynwyd, ger Pen-y-bont ar Ogwr, 1906-14.
-
George Thomas, or “George y Beddau” (“George the Graves”), grave digger at Llangynwyd, near Bridgend, 1906-14. 
From the archives at St Fagans National Museum of History.
29 notes · View notes
mantellgwynedd · 4 years
Text
Sefydliad Cymunedol Cymru
Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r gronfa hon wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n addasu gwasanaethau a chymorth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, wedi’u heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Yn bennaf, byddwn yn darparu cymorth ar gyfer y canlynol (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
• gweithgareddau sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed sy’n hunanynysu (yr henoed, pobl â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes ac ati)
• Anghenion parhaus pobl sy’n agored i niwed i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn cael eu cynnal
• cymorth i fanciau bwyd a sefydliadau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn caledi a achosir gan y pandemig, gan gynnwys newyn plant
• cydgysylltu ymateb cymunedol
• costau gwirfoddolwyr i’r rhai sy’n ymateb i effeithiau’r pandemig
• costau ychwanegol gweithio o bell ac addasu gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned ehangach
• Cymorth ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a chymorth profedigaeth
Sylwch mai dim ond am 6 mis y byddwn yn ystyried cost cyflwyno’r gwasanaeth / cefnogaeth i ddechrau. Byddwch yn gallu ail-ymgeisio am gyllid pellach os yw’r angen yn dal i fodoli ar ôl Medi 2020.
Os bydd arian yn caniatáu, byddwn yn darparu cymorth i:
• atal colli incwm contractau a chodi arian ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed
Sylwch fod ceisiadau sy’n gwneud cais am grant i lenwi’r gap o incwm rydych wedi’i golli yn cael eu roi ar restr wrth gefn ar hyn o bryd a byddwn yn eu hail-ystyried ym mis Gorffennaf pan fydd gennym well syniad o faint o arian sydd gennym i ddosbarthu. Byddwn yn annhebygol o gynnig cyllid i sefydliadau sydd gyda’g cronfeydd wrth gefn sydd dros 6 mis o gostau rhedeg y sefydliad
Y grantiau sydd ar gael
• Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o hyd at £200,000
• Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol rhwng £201,000 a £500,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a cynghorau cymunedol a tref sydd yn cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned drwy effaith pandemig Coronafirus yng Nghymru.
Fyddem ond yn cefnogi grwpiau a sefydliadau a all ddangos tystiolaeth eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cadw a ganllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r firws.
Cysylltwch â ni ar 02920 379 580 neu e-bostiwch [email protected] fam ragor o wybodaeth
0 notes
scaffoldersnearme · 6 years
Photo
Tumblr media
Scaffolding Hire in Bridgend/Pen-y-Bont ar-ogwr #Scaffold #Rental #Company #Bridgend/Pen-y-Bont #ar-ogwr https://t.co/jTnOmSdpjB
Scaffolding Hire in Bridgend/Pen-y-Bont ar-ogwr #Scaffold #Rental #Company #Bridgend/Pen-y-Bont #ar-ogwr https://t.co/jTnOmSdpjB
— Scaffolders Near Me (@scaffoldersuk) May 24, 2018
0 notes
welshbiz · 5 years
Photo
Tumblr media
Fedrwch chi fod yn ofalwr maeth dros dro? Dyma bopeth rydych chi angen ei wybod Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am bobl i roi gofal i bobl ifan
0 notes