Dwi'n byw gyda fy mam am yr haf tan bod fy prifysgol yn sortio mas tŷ i fi ac mae'n neis. Ooond mae'n strange, dwin siarad Cymraeg yn mwy aml nawr ond mae'r safon yr iaith wedi gwaethygu. Like dwin super cyffyrddus gyda siarad yr iaith fel hyn (obvs oherwydd dwi wedi tyfu lan yn siarad yr math yma o Cymraeg) ond rydw i'n gwybod mae'r fordd yma o siarad yn ' anghywir'. Idk bois dwin gwybod mae siarad unrhyw fath o'r iaith yn gwell na dim siarad yr iaith o gwbl ond mae rhan o fi yn gwybod byddaf yn cwmpo nôl mewn i habits o defnyddio gramadeg a geiriau yn anghywir
1 note
·
View note