Tumgik
#lleuad du
jeweled-blue-eyes · 7 days
Note
To answer your questions from the last ask,
Yes of course he loves his brother, in fact he loves ALL his brothers(and by that I mean Mordred's brothers but Mordred is the favorite). Also I read somewhere that Arthur and Guinevere may at least have had daughters so I'm throwing them into the unending mix of children as well. As for Galahad, he's on ice with him even if he's not Guinevere's kid.
Y'know I've thought of giving him a unique name but uh, I ended up naming him Lleullyn....(Lleuad + Llyn *looks away in shame*)
Guinevere conscripted a Fay to help magically make a magic baby boy appear in her womb and he pops out giving off like, 97 different bad vibes but the Fay quickly hides it away lol.
As for repercussions, I mean it's a black magic boy who's true form is a bunch of meddled together human parts. So like Jennette, his appearance is a lie but unlike Jennette I don't want it to be that people just gravitate towards him. Lleullyn is just naturally charming, I don't want Mordred to end up loving him because of magic. He's gonna have to love his brother at his most eldritch if he wants to love him at his most angelic.
Also yeah Mordred is gonna be blonde.
I meant Lleu actually. What is Lleullyn appearance? Does he look just like your twp version of Lleu with freckled dark skin and black hair/dark eyes?
Lleullyn...I like that. It still allows us to shorten his name lovingly to "Lleu". I've gotten attached to the name Llacheu too. Is there a story behind the combination of the names Lleuad and Llyn? Lleuad means "moon" and Llyn means "from the lake" in Welsh. From the second name alone I would conclude that Lleu was fathered by Lancelot du Lac even though he was made from magic. Did Lancelot assist Guinevere with her plan which would make him the father in a way? Did he sacrifice something and as a result of that sacrifice Lleu inherited some traits from him? Like I said I can't believe that kind of magic doesn't require a price. They are creating life from nothing which must be an offense against god. Which brings me to the question how does a religious zealot Lancelot feels about that? It's possible that the trauma of having been raped by Elaine changed him and his attitude towards black magic changed since he's been ruined anyway both by Elaine and his affair with Guinevere. He's about to be replaced by Galahad soon anyway, there's no point in holding on to his old code of honor. Could the baby making of Lleu be partially motivated by his desire to see Elaine's plan foiled and have Lleu beat Galahad as the best knight in the world?
The name Galahad is derived from the Welsh “Gwalchafed” (“falcon of summer”) which would make Galahad the summer to Lleu's spring and Mordred's winter. Now the only missing oc is someone associated with autumn and we have the four months completed.
2 notes · View notes
likeathunderbolt · 5 years
Text
Y Gofod yn Gymraeg - Space in Welsh.
Mercury - Mercher
Venus - Gwener (Fenws)
Earth - Daear
Mars - Mawrth
Jupiter - Iau
Saturn - Sadwrn
Neptune - Neifion
Pluto - Plwton
Moon - Lleuad
Sun - Yr Haul
Star - Seren
Comet - Comed
Space - Y Gofod (outer space)
Aurora - Awrora
Galaxy - Galaeth
Universe - Bydysawd
Celestial - Nefol/Wybrennol
Cosmic - Cosmig
Nebula - Nifwl
Constellation - Cytser
Black hole - Twll du
56 notes · View notes
queerwelsh · 5 years
Text
“Atgof” gan E. Prosser Rhys
Enillodd E. Prosser Rhys y Goron yn Eisteddfod Cenedlaethol 1924, efo “Atgof,” i feirniadaeth oherwydd y themâu rhywiol (o natur heterorywiol ac hoyw).
ATGOF.
YSTORI LLANC SYNHWYRUS.
“The imagination of a boy is healthy, and the mature imagination of a man is healthy; but there is a space of life between, in which the soul is in a ferment, the character undecided, the way of life uncertain, the ambition thick-sighted. . .” John Keats. Yn ei ail rhagymadrodd i’w “Endymion.”
 Mi rusiais rhagddo drwy flynyddoedd blin Ieuenctid nwydus, er ei daerni ef; Gomeddwn wrando ar ei eiriau rhin Er gweled uffern ym mhen draw pob nef. Ymyrrwr, meddwn, oedd, a fynnai im’ Geisio yn llwfr ryw ddiogelwch gwael, A minnau eisiau ildio i chwim a chwim, A bwyta gwaharddedig ffrwyth yn hael. Ond fe’m dilynai er fy rhusio i gyd, Heb ddim a darfai ei ddewinol ddawn; Adwaenai dro fy meddwl claf o hyd,– Dilynai a dilynai’n agos iawn, Fel petai gennad gor-ofalus Dduw I’m gwarchod rhag y gwybod sydd o Fyw.         *                *                * Mwg mawn! Aroglau hwnna, dyn a wŷr, Drwy’r ffroen a gerdda i’m synhwyrau’n glau, Oni’m meddiennir i gan Atgo’n llwyr, A’m dwyn i’r cartref gwyn rhwng perthi cau. Cofiaf yr ystafelloedd bach, a gwawr Y celfi hen, a’r cynefin-dra rhydd; A mam a thad er llawer tywyll awr Yn sugno o Gariad gysur at y dydd. A chofiaf stormydd hwyr yn chwipio’r drws A minnau’n ‘swatio’n felys wrth y tân, Hyd oni’m denai cwsg â’i gellwair tlws I fynwes mam, a’m suo gan ei chân. A bwrw fy mlino o egnio cyd Heb ofn y nos rhwng dau ddedwydda’r byd. Rhwng dau ddedwydda’r byd! . . Mi gefais fyw Yn hwy na diogelwch Maboed iach, A gweld Dedwyddwch, yn nyryswch Rhyw Yn nychu a darfod, yn y cartref bach. Cans yma, a mi’n prifio, gwyliais un Yn wylo a chynddeiriogi yn ei thro Tan fin y gwir fod tad ei phlant ei hun Yn peri son amdano hyd y fro. A chalon mam,–er ei chystuddio’n ddwys Wrth dorri troeog gwys o’r llan i’r bedd– Ni wybydd gystudd o gyn drymed pwys A cholli nerth ei Rhyw, a’i harddwch gwedd, A’r gwr a’i treuliodd eto a’i waed yn dwym,’ A dim ond Arfer oer i’w cadw yn rhwym. Arfer i’w cadw yn rhwym! Pond enbyd fai Meddwn, oedd ei mwsogli hi, erioed, A Rhyw mor wamal yn ei lanw a’i drai, A’r gwendid rhagddo i bob un a roed? Pond ofer tyngu’r llw yng ngwyddfod Duw A ni heb wybod hyd a lled ein chwant, A chicio’r tresi’n ffôl tra fyddwn fyw, A’u cicio, wedi’n myned, gan ein plant? A chredais, gartre, ym mwg y mawn, a’r boen, Nag ydoedd Cariad namyn Rhyw i gyd,– Mai pranciau anghyfrifol cnawdol hoen Oedd Cariad–i’w fwynhau tra dalio’i hud, Na fynnai brisio dull Gwareiddiad salw– A chrwydro draw ac yma yn ôl ei alw. Yn ôl ei alw! Pa bryd y meliaist ti Gariad, mewn unpeth ond dy hwyl dy hun? A pham yr ofer-geisir, holwn i, Dy blethu’n ddof i Economeg Dyn? Mynnaist ti d’oglais â chwrteisi hen, Rhwysg twrnamaint a gwiw sifalri gweilch. Tynnaist o feirdd a doethion arial Llên. Drysaist gynlluniau ymerodron beilch. Ac er yn gryfach na’r mynyddoedd mawr Oriocach ydwyt na’r awelig wan; A deimlo sicrwydd dy gofleidiau ‘nawr, Ni ŵyr lle bo dy ffansi yn y man . . . Ond ni’th lurguniaf i rhag Arfer wyw Cans tramwy wrth dy fympwy di yw Byw. Byw! Gwawdiwn innau gri’r parchusion mwy Fod Cariad dau yn rhywbeth trech na’u Rhyw? Beth am fy ngartre’ nad oedd gartre’n hwy? . . . A fei-id y Diawl am reddf a greodd Duw? Derbyniaf Gariad, meddwn, fel y mae; Mae f’ ifanc gorff yn blysio am ei rin; Mynnaf y merched gwympaf imi’n brae A feddwo fy synhwyrau oll fel gwin. A throed fermiliwn ymachludoedd hir Gilfach y graig yn rhyw bantheon nwyd; Datganed adar bob gorfoledd clir; Dawnsied awelon dros y rhostir llwyd, A chwardded lleuad wen a mintai’r sêr Ar ddeuddyn Cariad yn eu poenau pêr.          *                *                * Dyna f’ adduned. A phan wnaethpwyd hi Dibaid y doi ymadrodd ar fy ol: Cyn byw i ddim ond Rhyw, ymbwylla, di, A phechu i’th erbyn di dy hun mor ffol. Onid priodi a chartrefu dau Achlesodd wreiddiau Meddwl y ddi lyth? A pheri dywed trwy ogleisiau brau Natur yn llefain am gael byw am byth? Nid anffawd Pleser roddi i fam y boen O eni’i phlentyn, a’i hymwadu drud– Cans dyma offrwm Bywyd yn ei hoen Ar allor Cariad er mwyn cadw’r byd. Gochel! Mae’r allor yn rhy gysegredig I’w d’wyno gan dy reddf annisgybledig. Aroglau’r pridd! Mae clywed hwnnw o hyd Ar glaear ddyddiau’r Gwanwyn, rhag y troi, Yn cadw’n ddifarw fyth yr Atgof drud Am f’ awydd am fercheta, a’m hynfyd ffoi. O afael pob myfyrdod a pherswâd I brofi Cariad yn ei angerdd noeth; Digon i mi oedd cyfeiliorni ‘nhad I’m clust-fyddaru i’r llefaru doeth . . Aroglau’r pridd! Aroglau’r ddaear hen Fu gynt yn esmwythâu f’ ymennydd i,– Pigyn a beri mwyach, ac nid gwên. Gwae imi lygru d’ addfwyn burdeb di. Cyn gwybod bod a brofir, o bob rhyw. Yn rhan ddi syflyd o Gelfyddyd Byw. Celfyddyd Byw! Nid oedd fy mryd ar ddim Ond meddwl ar y gwin sy’n enaid merch . . . Gwelaf yn awr y nos a bennais im’ Gwrddyd a Mair ar berwyl anllad serch. Uchel oedd llef yr arddwyr yn y maes, A’r cwysi coch yn gollwng tawel sawr. ‘Roedd Byw yn ganu yn y masarn llaes; A Byw yn brancio ar y mynydd mawr. Llawen i’m golwg oedd a welwn oll; Llawen i’m clust a’m ffroen a glywn, bob cam; A llawen oeddwn i–a bron ar goll– A Byw i minnau–’nawr–o fewn fy llam, A’i holl aeddfedrwydd gogoneddus hi Yn rhyw amharod-ddisgwyl wrthyf I. Yn disgwyl wrthyf! Ar lan y llyn Yr eisteddasom fel y cochai’r hwyr. Nesheais ati hi, a’i gwasgu’n dynn, A’i hanner-annog i ddibristod llwyr. Llenwais ei llygaid du â mwynder maith; Cusenais â gwefusau gwancus, llawn; Teimlais ei ffurf hudolus lawer gwaith; Gyrrais ei gwaed ar gerdded cyflym iawn. O funud dwymn i funud, fe ddaeth tro Penllanw gorchfygol Rhyw, ac ildio’n dau . . . A wybu dyn felystra fel efô Yn treio–a throi’n atgof hyll–mor glau? . . . Cerddasom adref, heb ddim son am garu A minnau ar y Pleser wedi alaru. Wedi alaru! . . Pe na baem ninnau weithion Ond nawmlwydd, Mair, yn lle’n deunawmlwydd blin Ni byddai gwyllt bwerau Rhyw yn gweithio’n Anesmwyth ynnom hyd nes cael ei rin. Lluniem “dy bach” rhwng bonau’r grug, heb frys; Neu lamu’n droednoeth drwy ddwr bas y llyn; Neu gynneu eithin; neu loddesta ar lus; Neu gasglu blodau coch a glas a gwyn. Gwae, gwae na feddem heno ar ein hynt Ffraeth ddiniweidrwydd dyddiau’r nawmlwydd iach, A glendid o anwybod megis cynt, A dim yn gwasgu ar y galon fach,– A holl ddadrithio poenus deunaw oed Heb ddyfod i’n hwymwybod ni erioed. Heb ddyfod inni ‘rioed! Mi dybiais, do, Mai ‘mroi i reddf y Cnawd oedd diben Byw Ond fe’m syrffedodd hynny, ar un tro, A merch ni fynnwn mwy, na son am Ryw. Gwall ydoedd Rhyw yng nghreu y bud,–tabŵ, A halog ydoedd merch a’i meddal fodd. Melltithiais innau fy anniwair lw, A chanu’n iach a’r cwbl i gyd, o’m bodd. Siomedig ydoedd Rhyw, er gweu o ddyn Ramant amdano’n gain. Mynswn yn awr Mai Cyfeillgarwch oedd a roddai i un Y Bywyd helaeth glan. Gwasgwn i lawr Flys Rhyw, a’i ymlid. Ni chai ‘nhwyllo’n hwy Cysegrwn f’ oes i Gyfeillgawrch mwy.         *                *                * Dyna f’adduned. A phan wnaethpwyd hi Dibaid y doi ymadrodd ar fy ol; Ymswyna rhag doctora Rhyw, dydi, A phechu i’th erbyn di dy hyn mor ffol. Mae Cyfeillgarwch gwyr yn nhroeon Ffawd Fel llinyn aur drwy holl groniclau’r byd; Ni warafunaf iti ar dy rawd Gael profi o ddigrifwch hun i gyd; Ond gwylia bwyso gormod arno fo Oherwydd dy syrffedu, dro, ar ferch, A thybio yrru felly Rhyw ar ffo:– Geill deu-gnawd un-rhyw ei ail-alw yn erch, A gwneuthur Cyfeillgarwch wedi hyn Yn waeth na Chariad anllad glan y llyn.         *                *                * Aroglau gwair ar lawr! Dim ond ei glywed Ar awel lariaidd diwedd dydd o haf A ddwg yn ol yr Atgof hwnnw a ddywed Am adeg Cyfeillgarwch. Cofio wnaf Y fel y treiglais ar fy nyfal gais Am gyfaill a rôi imi’r sylwedd gwir, Heb gymryd arnaf glywed gair y Llais, Na digalonni er fy siomi’n hir; A’r fel y deuthum hyd at degwch glan Menai hudolus un ariannaid hwyr, Ai gwrdd efô luniais yn y man Yn bartner enaid a bodlonrwydd llwyr, A sawl y ‘stodiau wrth Lan Faglan syn Yn fendith dawel ar ein cwlwm tynn. Ein cwlwm tynn! Di, lanc gwalltfelyn, rhadlon, Gwyddost y cyfan a fu rhyngom ni,– Yr holl ymddiried gonest, a’r afradlon Arfaethau glân a wnaethpwyd ger y lli. Haerasom fod y byd yn ddrwg i’w fôn; Mynasem gael y byd o’i fôn yn dda; A’i roi mewn moddau byw fel na bai sôn Am wanc neu syrffed fyth ar ddyn yn bla. Tyngasom ddiystyrru’n greddfau gwael: Nid oedd y Corff ond teml y Meddwl drud; Er blysio o Ieuenctid garu’n hael Nid ildiem ni i ddim rhyw gnawdol hud, Cans oni chlywem annog pêr o bell Ar inni gyrchu at y Bywyd Gwell? Y Bywyd Gwell! . . Cofiaf y noson dawel Y cerddem adref hyd ffordd Fethel draw, A’r wlad heb ddwndwr dyn na llafar awel A’r gwair yn arogleuo ar bob llaw.– Ni fynnai’n Meddwl fenthig hanner gair A ninnau o ryw Wybod mawr mor llawn, Pan dorrodd esmwyth ganu i’r Forwyn Fair O gwfaint rhwng y coed yn beraidd iawn. Safasom. A charthasom yno bwys Ein beiau parod, dybiem ni, yn llwyr, Rhag miwsig hen y geiriau Lladin glwys A gant dirweirllu’r oesodd gyda’r hwyr I ymlid cof am hudoliaethau’r byd O gêl gilfachau eu Meddyliau i gyd. Cilfachau eu Meddyliau! Fe gredasom Ninnau, ill dau, fod ein Meddyliau’n lân Y noson ryfedd honno, a hunasom A’n clustiau yn ail-ganu’r santaidd gân Hunasom . . Rywdro hanner-deffro’n dau; A’n cael ein hunain yn cofleidio’n dynn; A Rhyw yn ein gorthrymu; a’i fwynhau; A phallu’n sydyn fel ar lan y llyn … Llwyr ddeffro . . ac ystyried beth a wnaed … Fe aeth f’ ymennydd fel pwll tro gan boen; Roedd Cyfeillgarwch eto’n sarn tan draed, A ninnau gynnau’n siwr santeiddio’n hoen! Mi lefais: Gad fi’n llonydd bellach, Ryw Yn wyf yn glaf, yn glaf, o eisiau Byw! Byw! Mi chwenychais brofi’i hyfryd flas, Ond rhyngof i a Byw mae gallu Cnawd Yn fy ngormesu iddo’n ufudd was, A rhwystro a ddeisyfo ‘Meddwl tlawd. Beth wyt ti Gnawd? Tydi, a dawdd y Gwres A lasa’r Oerfel; ac a waeda’r Dur; A gwsg; a sieryd; ac a ddibynna ar bres; Sy’n gweld; sy’n clywed; ac yn cynnwys Cur? Beth wyt ti, Gnawd? Tydi ar siawns a wnaed Rhag trachwant Rhyw dau na’th fynasent ddim, A’r trachwant hwnnw’n ysfa yn dy waed Dithau bob dydd a nos? O dywed im’! A pham y rhoed mewn llestr mor salw ei lun Rywbeth o ddeunydd gwell na’r llestr ei hun? Ffordd arall wedyn a ddyfelais i, Ac wedyn daeth ymadrodd ar fy ol: Cyn llwyr-ymwadu a Rhyw, ymbwylla, di, A phechu i’th erbyn di dy hun mor ffol, Gomeddwm iti ei ddefnyddio’n gam, A llygru sianel santaidd Natur fawr; Ac erchais iti ymswyn rhag rhoi nam Ar Gyfeillgarwch yn dy nwydus awr. Ond ni wrandeuaist. Prechaist, a syrffedu Ar Gariad merch a Chyfeillgarwch dyn. A mwy, yr wyd yn feddal iawn yn credu Mai haint yw cyffwrdd Cnawd, a charu llun Mwynder o’th gyrraedd . . Gwagedd, gwagedd yw! . . Priodi Cnawd a Meddwl–dyna yw Byw.         *                *                * Aroglau’r gwymon! . . Gwelaf haul yr haf Yn rhoi esmwythyd mwyn i donnau’r lli, A’r bobloedd fodlon ar y draethell braf Yn ymddigrifo yn y chwaon ffri. Aroglau’r gwymon! . . Clywaf firi’r byd Yng ngherdded brwd yr offerynnau cerdd, A rhyw rianedd yn eu gwyn i gyd Yn chwerthin gyda’r hwyr ar lannerch werdd. Aroglau’r gwymon! . . Cerddwn ynddo’n syn A’m gwybod wedi annibennu f’ oes, A sylwi ar un o ri’r rhianedd gwyn Yn sylwi arnaf i . . Ciliodd y loes A wasgai arnaf rhag ei gwen fach, araf … Tyngais yn fyr fy mhwyll: Myfi a’i caraf! Myfi a’i caraf, meddwn; er bod Rhyw A Chariad wedi’u drysu’n ddi wahân, Rhaid bod gorawen Cariad pur o Dduw, A hoywai ddau, pe lleddid Rhyw yn lân. A medrwn hynny’n awr. My rwystrwn Gnawd I orfod eto at fy Meddwl I . . . Ni thorrem air; ni cherddem ar un rhawd; Ac ni chusanem, ni chofleidiem ni. Gwelwn y fun yn gyson ger y donn A digon oedd ei gweled i’m boddhau. Cyfleai’n llygaid Gariad dwfn y fron; Deallai’r naill ystori’r llall yn glau. A mynegasom yn ein caru mud Deimladau drechai holl dafodau’r byd. Tafodau’r byd! Sur y mynegent hwy Y gwynfyd rhyfedd barai’r fun i mi; Tystiwn fod diwedd ar f’ anffodion mwy A Buw hyfryted yn ei golwg hi. Ffenestri’i chalon oedd ei llygaid glas, A phurdeb plentyn ynddynt, er ei hoed, Gwyl oedd ei hagwedd, heb awgrymu cas Yn llercian yn ei gwisg na cham ei throed. ‘Roedd Bywyd, er fy siomi dro a thro Yn fwy na gwerth y cwbl a gostiodd im’, Ni fedrai’r byd, er ei gyfrwysed o Amgyffred ei gyfaredd ddwyfol ddim, Ac yntau o hyd yn rhygnu’r un hen dant Nad ydyw deuoedd ond peiriannau plant. Peiriannau plant! Gwae beri o’r gwymon gofio Yr hwyr y staeniwyd Cariad glan y môr. Dichon mai gweld y rheiny ddoi o nofio Gyffroes a ddirgel-gronnai ynnwy’n stôr … Ond gwn i mi freuddwydio ganol nos Gael pleser wrth halogi ‘nghariad fud … Yr oedd yr ieuanc Wawr yn cleisio’n dlos Pan giliodd Cwsg . . Cofiais y cwbl i gyd … Gwyr Duw im’ wylo dagrau chwerwon iawn Uwchben gresynus wedd fy mwriad glân … Mentrais i’r traeth a’r heulwen y prynhawn, Ond mi ddihengais mewn rhyw uffern dân O gyrraedd pawb o’r byd pan welais i Euogrwydd hefyd yn ei llygaid hi!         *                *                * Yng nghanol coed yr oeddwn, a thorr-calon Yn wŷniau drosof. Llefais: Ofer waith Yw ymarfogi rhag fy nygn dreialon; Fe gafodd Rhyw wall arnaf. Ffaith yw ffaith. Bellach, Tydi y rhusiais rhagot cyd, Siarad â mi; nyd wy’n dy ofni’n hwy. Gyfarwydd rhyfedd, Broffwyd siwr o hyd Beth a olygi? Mi’th wrandawaf mwy . . . Pwyso fy mhen ar gnwd o borfa wedd . . . . Y coed yn gysgod mwyn rhag haul y nef . . . Calon y byd yn curo, curo . . . Cerdd Rhyw dderyn bychan, sionc. . . Chwyth awel gref . . . Petrusgar osteg dwys . . Distawrwydd mawr . . . A’r Rhywun, yntau, yn llefaru’n awr:         *                *                * Fe blygaist dithau, er dy ystyfniced O’r diwedd, wedi ‘ngochel lawer gwaith, Gwyddwn o hyd na fedrai d’i anniddiced Ei lygaid-dynnu rhagof i drwy’r daith. Fe’m gelwaist yn Gyfarwydd rhyfedd, gynnau, A Phroffwyd siwr. Ynfyd o beth yw dyn! Nid ydoedd a’th ddilynodd hyd y grynnau Dorrit yn ofer ond Tydi dy Hun. Fel pe mynasai’r Bywyd sy’n y maes– Y dderwen gadarn neu’r glaswelltyn main, Lesteirio’r Rhin a dynn eu gwreiddiau llaes O’r pridd a’u magodd i’w grymuso’n gain, A methu ganddynt dorri’n ddail a blodau A nychu’n ddiymadferth drwy’u cyfnodau. Cans Rhin dy Fywyd dithau ydwyf i A dynn dy wreiddiau fyth o bridd dy dras, Gwesgaist fi ‘ngwaelod dy ymwybod, di, A phoeni mewn anallu heb fy ngras, Nid ydwyf i na da na drwg,–i gyd– Mae blas dy bridd, a’i wrtaith, arna’ i’n drwm, Efallai na bydd ddoeth fy ngair bob pryd, Ac y crafangaf wrth ragfarnau llwm, Ond rhaid i’th Gnawd a’th Feddwl di eu plygu I wneuthur a orchmynnwyf i drwy d’oes; A thrwof caiff dy Fywyd ei amlygu Fel, fel y mae, mewn chwerthin ac maen loes; A gwybod y bodlonrwydd sydd o Fyw Yn gwbl chywir yn ol Diben Duw. Fe blygaist, do, ond nid cyn pechu i’m herbyn; Ac ni bu bechod heb ei gosb erioed; Llechu ni cheffi’n unman rhag ei derbyn,– A’r llymaf cosb yw cosb yr ifanc oed. Nid ei di adref i arogalu’r mawn Na chofi eto ddechreu’r crwydro ffol; Ni chlywi sawr y pridd, wanwynol nawn, Na ddaw a wnaethost ti a Mair yn ol; Ni chlywi fyth aroglau gwair yr haf Heb gofio llygru’r Cyfeillgarwch cu; Na sawr y gwymon na ddaw methiant claf Y caru anghyffwrdd, eto i’th gof yn hy. Felly y teli bris dy feiau oll Nes pylo colyn Atgo, a mynd ar goll.
4 notes · View notes