Tumgik
#sir fynwy
venomous-qwille · 6 months
Note
Heyaaa, I absolutely love your fic (I wanna eat it so bad). I swear I'm autistic about it.
Fool's my favourite, so I have a quick question:
You mentioned in the Halloween q&a that he's from the UK, so does he have a British accent? If so, which one? Southend London, posh (royal), Manchester,...?
Anyway I love you and can't wait for the new chapter ❤️
Fool has a fairly posh uk accent (he enunciates a lot) with a slight South Welsh lilt if you squint. His location was in Sir Fynwy <3
55 notes · View notes
weddylwashc · 7 months
Text
Gwent (Shir)
Ma Gwent yn sir ti catw, a fa rows Shir Llywodrâth Leol yn Ne-Ddwyrân Cymru. Ma Shir ti câl i greu ar y cynta o mish Ebrill, mil now cant sîth deg pedwar (1974), gan y deddyf llywodrâth leol mil now cant sîth deg dou (1972); Fa rows câl i enoi am ydd en tyrnas Gwent. Fa rows y sir olynydd i Shir Gwînyddol Mynwy (ta thrôata bâch ydd ymyla) ag y shir trefol Casnewydd yn ddou.
Ta Deddyf Llywodrâth Leol Cymru mil now cant now deg pedwar (1994), fe rows y Shir Gwent câl i dorri ar y cynta mish Ebrill, mil now cant now deg wech (1996). 
Ta pin, ma eno’n aros yn nithur wel shir ti catw Cymru am resyma tarddodiatol Lefftenantâth a shiryfiâth, a i eno’n bará yn brifenoa wänol, am eshampyl, ydd Eddlu Gwent, y Spyty Gwent Breninol, Sosiashwn Bŵyd Gwyllt, a Choleg Gwent.
Fe rows y shir gwínyddol câl i rannu i rif o bartha, Blâna Gwent, Islwyn, Mynwy, Casnewydd a Thorfân. Ma siródd olynol yn Blâna Gwent, Cârffili (ti dod yn annar o Morgannwg Ganol), Shir Fynwy (palan chwe deg y cant 60% Dwyrînol y shir anesol run eno), Casnewydd a Thorfân.
Yn dwy fil tri (2003), fe rows y shir ti catw’n gorwtho i ddiddeori Shir Cârffili’n gron. Yn dwy fil sîth (2007), fe meddwlir pobolgâth ydd artal ma mwyetic bod pump chwe deg mil, pump cant (560,500), sydd yn i fod yn y shir ti catw mwya pobolog Cymru.
0 notes
cydrhos · 3 years
Text
Tumblr media
Gwthiwch!
0 notes
tonyplaysthemambo · 6 years
Photo
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Monmouthshire, Wales
Sir Fynwy, Cymru
2 notes · View notes
coto524 · 5 years
Note
Ble rwyt ti’n byw yng Nghymru? Dwi’n byw yn Lloegr ond es i i’r Ysgol yn Nhrefynwy (Sir Fynwy) felly dwi’n siarad tipyn bach o Gyrmaeg. Where are you from in Wales? I’m from England but I went to school in Wales - Monmouth specifically - so I speak a little bit of welsh. ( I know it’s not a direct translation but...)
aaaaa dwi ddim yn byw yng nghymru bellach! dwi’n dod o geredigion yn y dde-orllewin, ond nawr dwi’n byw yn lloegr ger brighton ^_^
1 note · View note
raysunbeam · 3 years
Photo
Tumblr media
(via St Faith's Church, Llanfoist, Monmouthshire (Sir Fynwy), Wales)
0 notes
Text
Cymraeg ail iaith - darn o ryddiaith neu farddoniaeth yn ymwneud ag unrhyw le  - Alan Iwi, Didcot (a’i ddau gynnig yn gydradd gyntaf!)
MAGWYR
Pentref yn Sir Fynwy yw Magwyr, gydag ychydig dros chwe mil o drigolion.  Fe honnir bod ei enw’n dod o’r gair Lladin ‘maceria’, sef waliau maenwaith.  Saif gweddillion hen blasty yng nghanol y pentre, wrth ymyl Eglwys Santes Fair.
Ond nid dyma’r rheswm pam mae’r enw ‘Magwyr’ (neu ‘Magor’ yn Saesneg) mor enwog, eithr lleoliad y pentref ger cyffordd 23A yr M4, allanfa gyntaf y draffordd ar ôl i deithwyr gyrraedd Cymru wedi croesi Ail Groesfan Hafren (neu, gan roi iddi ei henw newydd ofnadwy, Pont Tywysog Cymru).  Dyma borth Cymru, felly, ar gyfer y cannoedd o filoedd o bobl sy’n croesi’r bont bob blwyddyn, ac un o’r llefydd ledled y byd, megis Gretna neu Schengen, gyda nodolrwydd sy’n tarddu’n fwy o’r ffiniau cyfagos nag o’r llefydd eu hunain.
Ar y draffordd, mae’r arwydd ‘Gwasanaethau Magwyr’ yn cyhoeddu i’r byd bod bwyd neu betrol ar gael, wrth gwrs.  Ond llawer mwy na hynny, mae’n datgan bod yr ymwelwr, neu’r Cymro neu Gymraes ar ei ffordd adref, wedi cyrraedd yr Hen Wlad o’r diwedd.  Gall fod taw taith hir oedd y tu ôl iddynt, neu bod llawer mwy o filltiroedd o darmac a chiwiau i ddod o’u blaen, ond o hyn ymlaen maen nhw yng Nghymru, gwlad beirdd a chantorion, gwlad Iaith y Nefoedd.
Nawr ’te, rhwng pasio olion yr hen fythau tollau a chyrraedd yr allanfa dan sylw, mae ’na ddau arwydd matrics wrth ochr yr heol.  Mae’r awdur wedi mynd heibio iddynt yn ystod haf y llynedd, a dyma’r neges bwysig oedd i’w gweld ar un cyntaf ohonynt: “WELSH COVID RULES APPLY”.  Nid yn Lloegr ydych chi o hyd, annwyl ymwelwr, ond hanner awr i ffwrdd o Fae Caerdydd, lle mae hawliau deddfu gyda’r Senedd, fel mae wedi bod ers blynyddoedd. Peidiwch â dychmygu y bydd pob rheol yn ddelwedd ddrych o’r un Seisnig; nid fel ’na yw’r byd yn gweithio.  Senedd Cymru a benderfyna ai i ganiatáu neu i wahardd i fusnesau gael eu hagor – nid San Steffan.
Symudwn ymlaen at yr ail arwydd matrics, a dyfalwn sut defnyddiwyd y lle oedd ar gael arno fe.  A dyma’r ateb: “WELSH COVID RULES APPLY”.  Yr union eiriau unwaith eto.  Ond y peth oedd ar goll, wrth gwrs, oedd unrhyw fersiwn Cymraeg.  Mae’r gyfraith yn mynnu bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal gan awdurdodau cyhoeddus, felly pam dyrannwyd dau arwydd er mwyn cyfrathrebu’r neges yn Saesneg, a dim o gwbl yn y Gymraeg?  Wel, ceir ei gyfiawnhau ar sail y ffaith nad siaradwyr Cymraeg yw’r gynulleidfa darged, tybiaf.  Ond cawn ni feddwl fymryn.  Roedd yr arwydd cyntaf yn ddigon fawr i’w weld.  A dweud y gwir, ceir gyhuddo unrhyw yrrwr a fethodd ei weld o fod wedi gyrru heb ofal a’r sylw dyladwy!  Oes angen un arall tebyg, rhag ofn bod y trosedd hwnnw wedi digwydd?  Nac oes.  Ychwanegu pwyslais oedd amcan yr ail arwydd.  Ond holwn ni: beth yw’r ffordd orau i ddangos, yn glir ac heb os, bod deddfwriaeth Cymru’n wahanol i gyfraith Lloegr ac yn orfodol i’w hufuddhau? Arwain drwy enghraifft yw’r ateb, wrth reswm, nid pigo un rheol i’w dilyn a’r llall i beidio â’i dilyn, fel plentyn ffwdanllyd sy’n bwyta’i fyrgyr tra’n poeri mas y pys.
I derfynu, felly: gallaf argymell Gwasanaethau Magwyr o’r galon. Cewch brynu petrol a defnyddio’r tŷ bach, a phan fo’r rheolau Covid yn ei ganiatáu, eistedd lawr gyda phaned mawr o de i leihau’ch pwysedd gwaed pan yw’r iaith Gymraeg yn cael ei bychanu a’i hanwybyddu.
Hwyaden y Môr
 CYSGOD RHITA GAWR
 Dydd dedwydd ar yr Wyddfa,
A’r mynydd dan dywydd da,
A’r glud rheil ar gledrau’r rhiw
'n eu haddo i ni heddiw.
Tynnir llun neis i Facebook,
Gaiff glics a “likes”, efo lwc.
 Ond daeth tempest trwm: cwmwl, Taran, iâ, y gwynt a'r niwl.
O'r bryn i Laslyn islaw,
Brochell gas; Llyn Glas llawn glaw.
A'r Lliwedd! Mor wyllt yw'r lle!
Byd cieiddlyd; dim cuddle.
 O’r Grib Goch, gwaedd groch yn gri: Cerddwyr sy’n cael eu corddi.
Cybôl yw’u hawydd cwblhau
Y trip yn eu fflip-fflopiau!
Oer, gwael, gwan — ar glogwyni.
Cura’r storm eu crysau-T.
 Mae’r gwynt yn troi, cnoi eu cnawd.
 chwymp, heb fap na chwmpawd, Syrthiodd y criw i'w diwedd,
Hyd lwybyr byr tua’r bedd:
Hen feddrod cysgod y cawr,
Porth i wynfa, parth enfawr.
Llanzoom
0 notes
gofgeiriau · 4 years
Text
Y Pedair Cainc, The Mabinogion
Os ydyn ni'n darllen y fersiynau sydd ar gael o'r Mabinogion, mae'n hawdd gweld sut roedd Tolkien o'r farn bod gyda'r Cymry olygfa lygredig o'r Coblynnod.
Er enghraifft, yn "Pwyll Prince of Dyfed", mae Arawn yn amlwg Elf, er bod un o'r dyddiau diweddarach pan gafodd yr Ellyllon ei leihau o'u gwladwriaeth flaenorol. Fodd bynnag, mae’r rhesymau dros Pwyll’s ac Arawn yn cyfnewid teyrnasoedd am flwyddyn yn cael eu sensro a’u “Cristnogoli” yn drwm. Dim ond mewn gweithiau llawer cynharach y gellir dod o hyd i'r fersiwn wreiddiol. Ysgrifennwyd y rhain yn Gymraeg yn sgript Tengwar, ac maen nhw'n rhagddyddio dylanwad Cristnogol yn Ynysoedd Prydain.
Yn ffodus, mae rhai ychydig o'r dogfennau gwreiddiol hyn ar ôl.
Mae "Llyfr Llwyd Pen-y-Cae" yn llawysgrif wedi'i hysgrifennu ar groen lloi, a arferai gael ei gadw yn "Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Sir Fynwy" ym Mhontypridd. Pan ddaeth yr Ysgol yn Brifysgol Morgannwg ym 1992 gwerthwyd y llawysgrif iddi casglwr preifat. Dyma’r llawysgrif hynaf yn sgript Elvish, heblaw am lawysgrifau “Translations from the Elvish” a “The Red Book of Westmarch”, y dywedir ei bod ym meddiant "Cymdeithas Tolkien Prydain Fawr".
Nid ydw i wedi gallu edrych ar y Llyfr Llwyd gwreiddiol, ond dangoswyd rhai ffotograffau digidol imi. Rydw i’n atgynhyrchu un dudalen o’r “Math Son of Mathonwy” gwreiddiol yma. Mae’n amlwg yn y fersiwn wreiddiol hon fod Pryderi, etifedd teyrnas Pwyll, yn hanner Elven. Gwraig Arawn yn wreiddiol oedd Rhiannon, ac elf o Deulu Ffinrwd (Finrod). Yn wreiddiol, Pryderi oedd cymeriad canolog y Pedair Cangen. Cododd Gwydion Llew fel iawndal am ladd Pryderi. Roedd Llew yn fab i Arawn gan Arianrhod.
If we read the extant versions of the  Mabinogion, it’s easy to see how Tolkien thought that we Welsh had a corrupted view of the Elves. For instance, in Pwyll Prince of Dyfed, Arawn is clearly an Elf, although one from later days when Elves were diminished from their former state. However, the reasons for Pwyll’s and Arawn’s exchanging kingdoms for a year are heavily censored and “Christianized”. The original version can only be found in much earlier works. These were written in Welsh in Tengwar script, and they predate Christian influence in the British Isles. 
Fortunately, some few of these original documents do remain. The “Grey Book of Pen-y-Coed” is a manuscript of 84 vellum pages, once kept at the “South Wales and Monmouthshire School of Mines” in Pontypridd. When the School became The University of Glamorgan in 1992, the manuscript was sold into private hands. It is the oldest manuscript in Elvish script, except for the manuscripts of “Translations from the Elvish” and “The Red Book of Westmarch”, said to be in the possession of the Tolkien Society of Great Britain. I have not been able to examine the original Grey Book, but some digitally retouched pages have been made available to me. I reproduce one page from the original “Math Son of Mathonwy” here.
It is clear in this original version that Pryderi, heir to Pwyll’s kingdom, is half-Elven. Rhiannon was originally Arawn's wife, and an elf of the House of Ffynrwd (Finrod). Pryderi was originally the central character of the Four Branches. Gwydon’s raising of Llew Llaw Gyffes is explicitly in recompense for slaying Pryderi. Llew was Arawn’s son by Arianrhod.
Tumblr media
0 notes
mantellgwynedd · 4 years
Text
Sefydliad Cymunedol Cymru
Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r gronfa hon wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n addasu gwasanaethau a chymorth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, wedi’u heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Yn bennaf, byddwn yn darparu cymorth ar gyfer y canlynol (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
• gweithgareddau sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed sy’n hunanynysu (yr henoed, pobl â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes ac ati)
• Anghenion parhaus pobl sy’n agored i niwed i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn cael eu cynnal
• cymorth i fanciau bwyd a sefydliadau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn caledi a achosir gan y pandemig, gan gynnwys newyn plant
• cydgysylltu ymateb cymunedol
• costau gwirfoddolwyr i’r rhai sy’n ymateb i effeithiau’r pandemig
• costau ychwanegol gweithio o bell ac addasu gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned ehangach
• Cymorth ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a chymorth profedigaeth
Sylwch mai dim ond am 6 mis y byddwn yn ystyried cost cyflwyno’r gwasanaeth / cefnogaeth i ddechrau. Byddwch yn gallu ail-ymgeisio am gyllid pellach os yw’r angen yn dal i fodoli ar ôl Medi 2020.
Os bydd arian yn caniatáu, byddwn yn darparu cymorth i:
• atal colli incwm contractau a chodi arian ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed
Sylwch fod ceisiadau sy’n gwneud cais am grant i lenwi’r gap o incwm rydych wedi’i golli yn cael eu roi ar restr wrth gefn ar hyn o bryd a byddwn yn eu hail-ystyried ym mis Gorffennaf pan fydd gennym well syniad o faint o arian sydd gennym i ddosbarthu. Byddwn yn annhebygol o gynnig cyllid i sefydliadau sydd gyda’g cronfeydd wrth gefn sydd dros 6 mis o gostau rhedeg y sefydliad
Y grantiau sydd ar gael
• Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o hyd at £200,000
• Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol rhwng £201,000 a £500,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a cynghorau cymunedol a tref sydd yn cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned drwy effaith pandemig Coronafirus yng Nghymru.
Fyddem ond yn cefnogi grwpiau a sefydliadau a all ddangos tystiolaeth eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cadw a ganllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r firws.
Cysylltwch â ni ar 02920 379 580 neu e-bostiwch [email protected] fam ragor o wybodaeth
0 notes
yesnayak · 4 years
Text
Dau rybudd llifogydd difrifol mewn grym yn y de
Dau rybudd llifogydd difrifol mewn grym yn y de
[ad_1]
Image caption Cafodd rhai trigolion eu symud o’u cartrefi ym Mynwy nos Lun
Mae dau rybudd difrifol am lifogydd – sy’n golygu bod perygl i fywyd – mewn grym yn Sir Fynwy wrth i Afon Gwy gyrraedd ei lefel uchaf erioed yn sgil Storm Dennis.
Cafodd rhai trigolion eu symud o’u cartrefi ym Mynwy nos Lun ac fe wnaeth lefel yr afon gyrraedd 7.14m am 07:45 fore…
View On WordPress
0 notes
soniaaristo · 5 years
Text
Arestio gyrrwr wedi marwolaeth beiciwr modur
Arestio gyrrwr wedi marwolaeth beiciwr modur
https://ift.tt/eA8V8J Dyn 71 oed wedi cael ei arestio wedi i berson gael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Sir Fynwy.
Brought to you by BBC. Fead more: https://ift.tt/2GzZIMe
* * * * * Breaking news, sport, TV, radio and a whole lot more. The BBC informs, educates and entertains – wherever you are, whatever your age. https://www.bbc.com/
View On WordPress
0 notes
drudwen · 7 years
Text
Ann Watkins a Ruth Roberts - E. Tomos
Tumblr media
Roedd trawsgludo yn rhan annatod o system gyfraith a threfn yng ngwledydd Prydain yn ystod y ddeunawfed ganrif. Pasiwyd Deddf Trawsgludo ym 1718. Bwriad y ddeddf hon oedd cael gwared â gwehilion cymdeithas drwy eu halltudio yn bell, bell o Brydain i diroedd newydd yr Ymerodraeth. Hyd nes 1776 America oedd prif gyrchfan llongau Prydeinig ond gyda dechrau Rhyfel Annibyniaeth yn America roedd gofyn canfod cyrchfan newydd, a dewiswyd Awstralia.
Rhwng 1787 ac 1852 anfonwyd 147,580 o droseddwyr o Brydain i Awstralia, ac yn eu plith roedd 283 o ferched o Gymru. Yn nechrau’r ddeunawfed ganrif ffurfiwyd cysyniadau ‘modern’ ynghylch rhywedd. Cred a oedd yn ennill lle blaenllaw gan gyfoeswyr oedd y gred awdurdodedig mai merched oedd y gwanaf o’r ddau ryw; yn gorfforol ac yn feddyliol. Ystyriwyd merched fel unigolion mamol, goddefol a chain. Yn ogystal â hyn, credai cyfoeswyr fod merched yn disgyn i mewn i ddau ddosbarth, y merched da a’r merched drwg. Lliwiwyd y gred hon gan draddodiadau Cristnogol; roedd merched un ai’n hollol dda, fel y Forwyn Fair, neu’n hollol ddrwg fel Efa yng Ngardd Eden. Gyda chredoau mor gadarn yn siapio’r ddelwedd o ferched roedd hi’n anochel y byddent hefyd yn lliwio’r system gyfreithiol ac yn arwain at amrywiaeth yn y driniaeth a dderbyniai troseddwyr benywaidd a gwrywaidd.
Ym 1866 mewn erthygl yn y Cornhill Magazine dywedwyd ‘Criminal women, as a class, are found to be more uncivilised than the savage… less true to all natural and womanly instincts… they are guilty of lying, theft, unchastity, drunkenness, slovenliness.’ Roedd cryn stigma yn amgylchynu’r merched hyn; cawsent eu hystyried fel puteiniad meddw, israddol ac anfoesol.
Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb.  Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau. Mae achosion llys yn ategu’r farn hon. Alltudiwyd Ann Watkins, 19 blwydd oed o Sir Fynwy am ddeng mlynedd i Van Diemen’s Land wedi iddi ddwyn darn o facwn a thorth o fara, ei throsedd cyntaf hyd y gwyddom. Gyrrwyd Ruth Roberts i Van Diemen’s Land am saith mlynedd wedi iddi ddwyn pedwar cabaets o ardd ger Y Bala.
Wrth edrych ar y driniaeth a dderbyniodd troseddwyr benywaidd, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw’r gwrthdaro cyson a geir rhwng y ddelwedd o’r ferch eiddil a’r gred fod rhai merched yn wirioneddol ddrwg. Sut oedd merch i ragdybio sut y byddai’r rheithgor yn ymateb iddi? Ai drwy gydymdeimlo â hi, gan ei bod hi’n ddyletswydd ar ddynion yn unol ag agweddau patriarchaidd yr oes i amddiffyn merched? Mae hi’n bosib dadlau fod y troseddwr benywaidd yn ymgorfforiad o’r ddwy gred - onid oedd angen gwarchod ‘Efa’r ferch ddrwg’ hefyd gan ei bod hithau fel y gweddill yn wan? Darllen Pellach: Beddoe, Deirdre, Welsh Convict Women (Y Bont-faen, 1979) Williams, Richard, J. Sentenced to Hell: The Story of men and women transported from north Wales 1730 – 1878 (Pwllheli, 2011) Mae Elin Tomos newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Hanes gyda Chymraeg. Mi fydd hi’n mynd yn ôl i gwbwlhau gradd meistr yno ym mis Medi.
0 notes
Text
Rhaglen 2016 – 17
Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, i ddechrau am 7:30yh oni nodir yn wahanol
2 Medi 2016
Trafod cyfansoddiadau Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau dan ofan y Prifardd Tudur Dylan
1 Hydref
Gillian Jones: D. Jacob Davies a’i Waith
2 Tachwedd (ar nos Fercher)
Recordio rhagen Galwad Cynnar
3 Rhagfyr (am 7:00)
Parti’r Llywydd / Swper Nadolig
Adloniant: Malomo
7 Ionawr 2017
Rhiannon Ifans a Trefor Pugh: cyflwyniad am y Plygain
15 Ionawr (ar nos Sul)
Gwasanaeth Plygain – Capel Glynarthen
4 Chwefror
Sgwrs gan Caryl Lewis, Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2016
4 Mawrth (am 7:00)
Cawl Gŵyl Dewi ac Eisteddfod Flynyddol y Gymdeithas (Beirniad: y Prifardd Ceri Wyn)
1 Ebrill
Brethyn Cartref a Chyfarfod Blynyddol
17 Mehefin
Gwibdaith
0 notes