Tumgik
#dysgwyr cymraeg
llyfrenfys · 11 months
Text
Tumblr media
Protip to dysgwyr / Welsh learners-
If you're looking for active Welsh language tags to follow on certain subjects, search for mutated forms as well. That way, more relevant posts show up.
If you follow the #Cymraeg tag, also follow the #Gymraeg and #Nghymraeg tags - and repeat for any other subject (e.g. #Cath, #Gath and #Nghath).
64 notes · View notes
hypomancy · 5 months
Text
shwmae:) dysgwyr Cymraeg dw i, dw i'n eisiau ffindio blogiau Cymraeg o Tumblr!
28 notes · View notes
cythraul · 1 year
Text
It's Speak Your Language Day.
Bydda i'n defnyddio'r dydd 'ma i siarad am y lle ble ro'n i'n dysgu Cymraeg. Bydda i'n trio ei wneud o heb geiriadur.
Pan ro'n i yn prifysgol, edrychais i ar y gwefan "A Welsh Course", gan Mark Nodine. Mae'r gwefan wedi mynd, nawr. Hefyd, roedd gen i lyfr o'r enw "Teach Yourself Welsh". Roedd y gwefan yn syml, ac roedd y llyfr yn ddrwg.
Yn 2012, meddylais i "Dw i'n byw yn y ddinas fwyaf yng Nghanada. Oes rhywle yma lle medra i ddysgu Cymraeg?" Es i i Google, a des i o hyd Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant, yma yn Toronto. Anfonais i ebost, a dysgais i eu bod nhw rhoi dosbarthiadau Cymraeg! Dechreuais i ddysgu yno ym mis Medi, 2012.
Roedd y tiwtor (fel arfer dwedodd o "tiwtor", nid "athro") yn gweithio yn IT. Roedd y dosbarth yn fach iawn - dau neu dri dysgwyr, weithiau. Roedd o yn llyfrgell yr eglwys. Ro'n i heb wedi mynd i gapell ers lot o flynyddoedd, ond liciais i'r lle 'na.
Ro'n i'n dysgu yno tan Covid 19. Symudon nhw'r dosbarthiadau i Google Meet, ond roedd y dosbarthiadau ar ddydd Sadwrn, yn y bore, ac do'n i ddim eisiau siarad fore Sadwrn pan roedd fy fflatmeit yn cysgu. Peidiais i fynd.
Gwnaeth yr eglwys gau'i drysiau yn 2022. Mae'r gynulleidfa wedi ymuno eglwys arall yn Toronto; dw i ddim yn gwybod os mae'n nhw'n rhoi dosbarthiadau.
7 notes · View notes
rhywbethcymraeg · 1 year
Link
9 notes · View notes
coto524 · 5 years
Note
hey, I'm Welsh but sadly never learnt the language, do you know any good sites/apps that could teach me?
duolingo is a popular free one but mind how you use it, the app doesn’t have the grammar explanations the way the website does (and those can be somewhat lacking). say something in welsh is also popular but not free… i’ll link you back to a post (which in turn links to another. postception) with some more bits and bobs, and you can probably find more just going through #sgwod or #cymraeg on my blog
borrowing a suggestion from @becausegoodheroesdeservekidneys a while back - if you’re in wales you can probably find local welsh-language courses and activities run by the menter iaith (and if you’re not in wales, there might be a local welsh organisation if you’re in a big city, e.g. london welsh centre, birmingham welsh society). 
plus depending on the size of your local library there may be welsh books available! ik some people prefer books and some prefer apps but i would recommend trying to use a mix of methods, so you can see what works for you and so you don’t get too attached to the idiosyncrasies of any one medium. (plus: mixing various sources has a better chance of exposing you to different dialects and registers of welsh, an utterly confusing but necessary factor.)
pob lwc a dal ati!
20 notes · View notes
kyngar-blog · 5 years
Text
Cymraeg Slac.
[Os gwelwch yn dda, cywirwch unrhyw camgymeriadau a gwnaf yn y testun hon]
Y mæ Cymræg "slac" yn well na Sæsneg "slic", ond beth sy'n fy ngwylltio i yw'r ffaith bod tud (pobl), dysgwyr e.e. yn teinlo'u bod hwy'n cael eu ymosod arnynt pan cywirai rhywun eu hiaith. Pe welir rhywun yn cyfeiliorni, cywirwch hwynt, dyna'r ffordd orau o'u ddysgu. Un peth da o gam a ddaw, a hynny yw addysgu; pe adewir rhai sy'n gwneud camgymeriadau i wneud yn fynych, ni ddysgasant dim. Peidiwch â maldodi neb- gwneir hyn mwy o ddrygioni na ddaioni.
Mæ defnyddio geiriau tafodieithol yn hollol derbyniol, a sillafu gwerin ("dudodd" a " 'wedodd", e.e.)- mewn sefyllfaoedd anffurfiol- ond nid yw defnyddio geiriau Sæsneg rhwng pob yn ail gair yn dderbyniol o gwbl- Mæ Wenglish yn hollol hyrt ac mæ'n niweidiol i'r iaith. Lawrlwythwch yr 'Ap Geiriaduron'- dim esgus (Oni bai nad yw'r gair ar yr ap.)
Os ydyw Cymræg "slac" yr un mor dda a Sæsneg "slic", buasai cryn well gennyf clywed neu darllen:
"I'm goin to take my dog for a walk.'
Tros:
"Fi'n mynd i fynd â ci fi am walk."
Y gorau gennyf clywed neu darllen bysai:
"Dwi am fynd â 'nghi am dro."
Mæ'r tir yr iaith Gymræg yn cyfyngu pob blwyddyn, os ydyw hi fyw dylir dysgu hi'n iawn, nid yw lled-rhiglder yn derbyniol.
Mæ'r ffaith mai'r bardd Eisteddfodl, Ifor Ap Glyn, yw'r un a dwedodd y dyfyniad twp 'ma (Gwell Cymræg slac na Sæsneg slic) yn hollol warthus.
'Gwell Cymræg lled-gywir na Sæsneg.' chwedl innau.
3 notes · View notes
Photo
Tumblr media
Llyfr i helpu dysgwyr defnyddio Cymraeg tu allan i’r dosbarth.  A book to help learners use Welsh outside class.  Available from gwales.com
0 notes
pontiobangor · 5 years
Text
Theatr Iolo yn dychwelyd i Pontio gyda sioe deuluol ‘Pen-blwydd Poenus Pete’
Mae gwledd ar ei ffordd i deuluoedd ar ddechrau gwyliau’r hanner tymor wrth i Theatr Iolo ddod â Pen-blwydd Poenus Pete, comedi frathog a hwyliog gan y dramodydd adnabyddus Gary Owen, i Pontio Dydd Sadwrn 23 Chwefror.
Tumblr media
Mae Pen-blwydd Poenus Pete yn gyfle perffaith i deuluoedd Cymraeg eu haiath neu rai sy’n dysgu i fwynhau trip llawn hwyl i'r theatr i fwynhau comedi am helyntion bywyd teuluol.
Mae yna deulu - Mam, Dad, dau o blant a Chadi'r gath. Mae Dad yn dweud nad yw eisiau dim ffws ar ei benblwydd. Felly mae Mam yn ei gymeryd ar ei air: nid yw hi na'r plant yn gwneud DIM ar gyfer pen-blwydd Dad. Ond fe aiff Dad yn flin a phan mae ei rwystredigethau yn cyfuno a phŵer drygionus y gath, mae'r canlyniadau yn llanast llawn chwerthin.
Mae Dad yn dysgu Cymraeg (fel yn wir y mae'r actor sydd yn chwarae y rhan) ac mae'n amserol i ddod â'r gomedi boblogaidd hon yn ôl er mwyn i deuluoedd newydd ei mwynhau ynghanol y bwrlwm presennol o frwdfrydedd dros ddwyieithrwydd a chelf a diwylliant Gymraeg eu hiaith.
Yn ôl  Gary Owen: “Dwi wastad wedi sgwennu dramau ‘swn i ishe gweld ‘n hunan.  Ac ers cael plant, mwy nag unrhywbeth dwi ishe gweld dramau gall dal sylw fy mhlant.  Gyda Pen-blwydd Poenus Pete, o’n i ishe sgwennu rhywbeth bydde’n cyfleu hwyl, egni a mwynhad teulu hapus, ond pell o berffaith. Hefyd, o’n i ishe adlewyrchu sefyllfa lot o deuluoedd sy’n hala eu plant i ysgolion Cymraeg, lle bydd (o leia) un rhiant lot fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg, a’r rhiant arall falle yn stryglo i fynegi ei hunan. I fi y mae rhai o'r comediau gorau, er enghraifft Only Fools and Horses, yn y bôn yn trafod sefyllfaoedd cymdeithasol caled ac mae'n rhaid i  chi adael i'r gynulleidfa fwynhau y rhyddhad o wherthin (a mwynhau ambell slepjan wrth gwrs!)”
Mae'r tîm tu ôl i'r cynhyrchiad yn gymysgedd cyffrous o dalent cyfarwydd a newydd. Yn chwarae y Tad annibynol sydd â'i ben yn styc yn ei ffôn mae Richard Nichols sydd newydd orffen diddanu cynulleidfaoedd Sleeping Beauty yn Nghanolfan Celfydydau Glan yr Afon. Yn chwarae y Fam flinedig ond siarp ei hiwmor mae Crisian Emanuel fydd yn gyfarwydd i ddilynwyr cyfresi teledu Parch a Belonging. Yn goruchwylio y cyfan bydd Sion Pritchard. Hwn yw cynhyrchiad mawr cyntaf Sion fel cyfarwyddwr er ei fod yn gyfarwydd fel actor  - yn fwyaf diweddar yng ngyfres gomedi y BBC Tourist Trap - cyfres oedd hefyd yn cynnwys yr actores ifanc wych Mali Ann Rees sydd yn chwarae rhan Cadi y gath ddrygionus IAWN. Yn ymuno â nhw bydd yr hynod dalentog Elin Phillips yn chwarae rhan Sian, un o'r efeilliad, ochr yn ochr ac Iwan Garmon, actor ifanc arall hynod ddawnus fydd yn chwarae rhan Twm ei hefaill.
I sicrhau bod croeso i bawb, mae pecynnau cynorthwyol i ddysgwyr ar gael i'w lawrwytho am ddim o wefan Theatr Iolo yn ogystal a bod ar gael yn y ganolfan ar dddiwrnod y perfformiadau. Mae Theatr Iolo hefyd yn gwahodd teuluoedd  i ymuno â nhw am hanner awr cyn y perfformiadau yn Pontio am sesiwn hwyliog i helpu dysgwyr o bob safon ddeall y ddrama yn llawn ac ymuno yn yr hwyl.
Pen-blwydd Poenus Pete, Stiwdio Pontio
Canllaw oed: 6+
Dydd Sadwrn Chwefror 23, 11.30am + 2.30pm gyda sesiwn i ddysgwyr am 10.30am a 1.30pm cyn y sioe
Bydd gweithdy creadigol am ddim yn dilyn pob sioe i greu 'Penblwydd Poenus Pete' gyda'r artist Llŷr Alun
Archebwch arlein: 
https://tocynnau.pontio.co.uk/Online/19Poenus
www.theatriolo.com 
0 notes
dyfynnu · 6 years
Quote
@Llyfrau: RT @SiopNanog: Llyfrau #newydd, Cyfres #newydd ar gyfer #dysgwyr #Cymraeg ar gael nawr @SiopNanog a'r wefan https://t.co/BkGdiewANi #nanog @YLolfa @GwasgGomerPress @CAACymru @LlyfrauCymru @yrawrgymraeg https://t.co/SoKSI5Lksi
http://twitter.com/Llyfrau
0 notes
ioantalfryn · 6 years
Text
Talcen Caled - Hunan Ddallineb
Tumblr media
Munud I Feddwl (14/3/2018)
Mae’na weithgaredd torri’r iâ sy’n cael ei defnyddio weithiau ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion lle mae’r tiwtor yn ysgrifennu nifer o enwau personau adnabyddus neu wrthrychau neu swyddi ar post-its ac yn eu gosod ar dalcen pob dysgwyr.
Mae’r dysgwyr wedyn yn gorfod mynd o gwmpas yr ystafell yn gofyn cwestiynau i’r bobl eraill er mwyn ceisio darganfod beth sydd wedi’i ysgrifennu ar eu post-its personol.  Mae’r dysgwyr i gyd yn yr un sefyllfa gan fod pawb yn medru darllen yr hyn sydd ar dalcen rhywun arall ond yn methu â gweld yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu ar eu talcen nhw eu hunain.
Mae’r gweithgaredd hwn yn adlewyrchu sefyllfa pob un ohonom allan yn y byd go iawn.  Dyn ni i gyd, i raddau gwahanol efallai, yn medru darllen yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu ar dalcen pobl eraill, yn enwedig pobl uchelgeisiol, ond mae’r hyn sydd ar ein talcen ni’n hunain yn ddirgelwch pur i ni, petaen ni’n onest am y peth.  Mae llawer o bapurau seicolegol academaidd wedi’u cyhoeddi sy’n trafod yr huan-ddallineb hwn.
Dw i’n cofio bod mewn cyfarfod go hirfaith un tro ac wrth i’r cyfarfod fynd rhagddo wnaeth o fy nharo i fod aelodau eraill y cyfarfod yn gwbl ddi-glem ynglŷn â’r hyn roedden nhw’n trio’i wneud a pham roedden nhw’n ei wneud o.  Roedd hi’n gwbl amlwg i mi ar y pryd fod hwn a’r llall yn gweithredu er mwyn ceisio amddiffyn neu ehangu ei awdurdod, rhywun arall yn ymateb mewn ffordd arbennig oherwydd tensiwn rhyngddo fo neu hi ag aelod arall, rhywun arall jest yn licio cynulleidfa a rhywun arall yn tynnu’n groes gan fod hynny wedi datblygu’n arfer dros y blynyddoedd.  Ond ar gynffon y sylweddoliad hwn fe ddaeth cwestiwn.  Os oedd y bobl hyn yn gwbl ddi-glem ynglŷn â’r rheswm am eu hymddygiad beth amdana i?  Oeddwn i’n ymwybodol o’r hyn roeddwn i i’n trio’i wneud a pham?  Oeddwn i’n wahanol i’r lleill?  Wel yn amlwg, nac oeddwn.  Ac roedd sylweddoli hynny’n rhyddhad mawr i mi.
Y peth ydy mae ceisio amddiffyn yn barhaol y ffantasi llwyr ein bod ni’n medru darllen y post-its ar ein talcen ni’n hunain, yn deall pwy ydyn ni, beth dyn ni’n trio’i wneud a pham yn medru sugno llawer iawn o’n hegni a chreu gwrthdaro diangen.  Felly dyma gwestiwn i chi.  Petaen ni i gyd yn medru cofleidio’r ffaith fod pawb, gan gynnwys ni’n hunain, yn y bôn yn gwbl ddi-glem ynglŷn â’n gwir fwriadau beth fyddai pen draw hynny? 
https://www.psychologytoday.com/us/blog/do-something-different/201505/the-thinking-trap
0 notes
lexiconofhope · 3 years
Text
For my comp 1 class, I wrote a ~700 word definition essay on “hiraeth” about its mistranslations and associations, so if anyone would like to read it, you can find the current version here.
It would be especially appreciated among Welsh speakers and the like, even though it’s already turned in, I would always love input on the topic. It’s not as long or deeply researched as I’d like to do, but I enjoyed it nonetheless.
23 notes · View notes
lexiconofhope · 3 years
Text
It is so funny to open a Welsh learning article and immediately be able to tell where they the author is from… “lle dach chi’n byw?” Oh you are a gog, s’mae.
3 notes · View notes
lexiconofhope · 3 years
Note
Pob lwc gyda'r eira ar hyn o bryd. Dwi'n gobeithio mae pethau yn cael well amdanoch chi.
Diolch yn fawr! ❤️ Mae’n well heddiw. Dechreuodd gweithio ein trydan ar ôl i dri dydd (prynhawn ‘ma), a’r tywydd ychydig yn well hefyd. Dim dŵr eto, ond dan ni’n iawn (gynnon ni boteli dŵr).
1 note · View note
coto524 · 5 years
Text
cukibola replied to your post: as a welsh person i want you all to accept that W...
I just want to know, how do I pronounce the “ll”
the way i always try to explain it is this: put your tongue to the roof of your mouth the way you would to say a normal L, then blow air through instead, with your tongue still in place!
it should sound like 1 uniform sound (a lot of learners end up saying “chl” or “cl” instead, which is good but also multiple consonants) and i always think it sounds kinda like a cat hissing.... there’s probably some youtube videos for you to compare with to check you’re doing it right ^_^ 
10 notes · View notes