Eisteddfod Gŵyl Dewi Cymdeithas Ceredigion 2017
Y Buddugolion
Gwobr Goffa Pat Neil
Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau) neu ysgrif neu stori fer heb fod dros 2000 o eiriau ar y testun ‘Encil’ neu ‘Encilio’
Gŵyl Gerddoriaieth Gymraeg, Llangrannog, bob haf
Un gronyn o Langrannog
a’n try’n ôl i’n Tír na nÓg
a’i ogof o atgofion.
Yr haf a’r Urdd yw’r fro hon
i’n co’, lle bu’r tro i’r traeth
yn anadl i’n hunaniaeth -
a Bica’n rhoi ei hanwes
i ni; lle deuem yn nes
trwy fân siarad; bu’n adeg
“’da’n gily’ mewn tywy’ teg”.
Gennym bu grym geiriau rhydd
o gilio at ein gilydd.
A Bica’n dal ein hanes,
nawr yr Ŵyl sy’n rhoi in wres
cwmnïaeth, ar draeth a dry
yn wlad drwy adeiladu
llwyfan iaith - a llifwn ’n ôl
i’r gad, o wlad lai hudol.
Fe fyn ein torf angorfa’n
y fan hallt, a’i hufen iâ.
Heddiw, mae’n plant ar ’sgwyddau,
a’n cân sy’n eu bywiocáu
mewn bro sy’n ceincio encil
â phob cytgan a chân chwil.
Ym Mae’r eigion mor agos,
daliwn dir yn hir, hyd nos
a dan nesáu, cadwn sŵn
yma, heno, lle mynnwn
oedi’r haul, rywfaint, dros dro
a chael hud y machludo.
Nôl a Mla’n (Philippa Gibson)
Englyn Ysgafn: Athro neu Athrawes
Athro Cyn-athro Gwyddoniaeth
Oherwydd rhyw gamgymeriad - a’n lab
Bron dod lawr mewn ffrwydrad,
Fe yrrom (yn ddifwriad)
Athro fry i ‘dŷ ei Dad’.
Wedi Elwch Tawelwch (Dai Rees Dafis)
Telyneg: Petheuach
Ers diwrnod ei chynhebrwng
Rwy’n cilio draw bob dydd
I roddi swp o flodau
Ar ben y crugyn pridd,
Ond methu wnaf yn ddyddiol
Wrth gyrraedd adre’n ôl
I ddidol yr holl fanion
Adawodd ar ei hôl.
Garmon (Dai Rees Dafis)
Cywydd: ‘Cymydog’ neu ‘Cymdoges’ (Daeth dau gywydd gan yr un bardd i’r brig!)
Cymydog
O ymyl tref y ‘Brymi’
Daeth fandal i’n hardal ni
Yn ofid i’n cynefin.
Rhyw foi wnaeth ffoi dros y ffin
A dod i roi ei law drom
I wanu pawb ohonom.
Dod i’n seintwar i chwar
A dod ag iaith gydag e’,
A dod â’i holl wybodaeth
Er mwyn dysgu’r Cymry caeth,
A dweud am rinweddau da
Ei hunan a’i Fritania.
Ei Brydeindod wrthodais,
Casáu oeddwn sŵn y Sais.
Mi es yn llawn emosiwn
I fygwth yr horwth hwn,
A’n ddi-wraidd ciliodd y rôg, -
Ymadael wnaeth cymydog.
Rhys Gethin (Dai Rees Dafis)
Cymdoges
Mae’r hen lodes drws nesaf
Â'i gwên fel heulwen yr haf,
Un fronnog, nid yw'r Frenni
Hoffus mor siapus â hi.
Un â'i gwallt yn aur i gyd
Yn hofran fel cae hyfryd
O wenith, un â'i chanol
Yn fain, heb lawer o fol.
Yn amal rhag ei siomi
Yr af i'w chysuro hi.
Niagra o serchowgrwydd
Yn ddiarbed red yn rhwydd.
Y mae'n weithred gyffredin
Dros y ffens ar draws y ffin
I hon dorheulo’n yr haf
Yn dor-noeth i'r darn eithaf.
Dros oror i'm diddori
Arlwy fwy ni welaf i.
Yn ei hing, pan fo angen
Newid bwlb yn codi'i ben,
Neu gorryn newydd gyrraedd
Ei gwâl a hithau'n rhoi gwaedd -
Daw'r wŷs sy'n fy nenu draw,
Wastad mae'n alwad ddistaw;
Ond mae rhyw nod i 'mywyd
O gael hon i'm galw o hyd:
Waeth rwy'n medru ei helpu hi'n
Wahanol, - a'i bodloni.
Willie Drws Nesaf (Dai Rees Dafis)
Cân Ysgafn: Fy Maniffesto i
Uchelgais mawr fy mywyd bod yn Gynghorwr Sir,
Mae gen i'r cymwysterau i gyd a dweud y gwir.
Sef mod i'n eithaf dioglyd a mod i'n brin o sens
A chadw mas o drwbwl, trwy eistedd ar y ffens.
Cyhoeddaf faniffesto yn addo yr holl fyd,
Ac os caf i fy ethol fe'i cadwaf oll i gyd.
Yn gyntaf mae rhaid cofio pe byddwn yn cael cais
I godi ty yn rhywle, fe'i rhoddwn os yn sais
Ac os bydd athro gwanllyd ac awydd gwella'i swydd
Bydd ffowlyn yn fy helpu, gwneud penderfyniad rhwydd.
Bob twll sydd yn yr heol o Mwnt i Ffosyffin,
Gwnaf siwr fod bois y cownsil, yn mynd i dynnu'u llun,
Mae eisiau golau trydan drwy'r pentref coeliwch fi
Gan fod yn wir mawr angen cael lamp o flaen tŷ ni.
Rhaid cofio am yr henoed, fe af i ar fy llw,
Rhoi canpunt bob Nadolig, gan mod i'n un o nhw
Fe fyddaf ym mhob pwyllgor, os fydd hi'n bwrw glaw,
Ac os fydd mater pwysig, fe fyddai'n cadw draw
Mae'n awlwg bydd pob elw yn mynd er lles i chwi,
Dim ond fod swm sylweddol yn mynd i mhoced i
Chwi welwch felly mod i yn haeddu cael fy lle,
A chofiwch yn y Leion bydd rhywbeth gwell na te.
Pe digwydd i mi golli, gwnaf gais i'r Cyngor Bro,
A maniffesto newydd, cymerant hwy bob tro.
Donald Trump (Emyr Davies, Pen-rhiw)
Parodi ar emyn Watcyn Wyb: “Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod”
Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod
Bydd pob cyfandir is y rhod
O’r golwg dan y dŵr.
A holl ynysoedd maith y byd
Yn uno yn un môr i gyd
Yn dawel a di-stŵr.
Mae holl wyddonwyr mwya’r wlad
Yn llwyr cytûn, a heb nacâd,
Am sail y newid hyn.
A Phen y Fan â’r Bannau Mawr
Yn gofyn pryd y daw yr awr
Ânt hwy o dan y llyn.
Mab y Mynydd (Gareth Evans)
Llythyr yn gofyn am iawndal
Sea View Edityr
Pentrecagal Western Mail
Wales Cardiff
�� Anwil Mr Edityr
Fi’n hala’r llithir hwn atoch chi yn Gwmbrag, so hwnnw’n dda iawn ond ma’n Sisneg i yn wathach. Fel hyn ma hi, fe weles i adfert yn y Western Mail yn colym y Lonli Harts a feddyles i bod rhywun yn fan ni odd yn siwto fi i’r dim.
Fi wedi bod yn byw wrth yn hunan os blinidde a meddwl o’n ni bidde câl gwraig yn eitha neis.
Oedd yr adfyrt yn gweud fod Penlopi yn thryti tw, gwallt hir gole, llygad du a bod hi’n cyrfi. Fe ffones i’r fenyw a fe wedodd y galle i ddod men wthnos.
Fe es i’n streit i byrnu gwely a fe ges i wely dwbwl newy yn shop secon hand. Achos bod ni’n ddou wedyn fe brynes i bot arall i roi dan y gwely rhag ofan fidde un pot ddim yn ddigon. Odd ise pyjamas arna’i wedyn achos o’n ni ddim wedi gwisgo pethe felny oddi ar bod y pregethwr cwrdde mawr wedi cysgu da fi. Odd y crys gwlanen yn iawn ond ma fe bach yn fyr yn y ffrynt. Wedyn oedd yn rhaid i fi bapuro’r parlwr a papur dyc ef blw pinc a blode fel dant y llew arno fe.
Ta beth fe ddath y fenyw gyda Bwcabys a oedd hi’n weddol glir bod i sell by date hi wedi paso os blinidde. Odd ci da hi fyd rhyw fwngrel debyg iddi. Weles i ddim o’i lliged hi achos odd hi’n gwisgo glasis houl a dim ond canol mis Ionawr odd hi. A son am y cyrfs, odd gida hi ddigon o rheiny ond bod nhw i gyd yn y manne rong. Ar ol dwarnod fe wedes i wrthi Cyfod dy weli a rhodia a cer nol da’r bys cinta. Ma bach o dreni achos o’n ni’n dachre lico’r ci.
So chi’n gweld Mr Edityr mod i wedi mynd i lot o goste i gal y fenyw ma pris y ffôn gwely dwbwl pot a papur wal. Nawr te sa i’n gweld bod rhaid i fi fod yn y golled ma achos bod chi wedi gweud celwidde am y fenyw ma. Fe ise cal condenseshon. Licen i chi setlo yn weddol glou achos ma’r geir wedi beni dedwi. Os na fiddwch chi’n talu a setlo’r cwbwl ar unweth fe fiddai’n hala Dai Rees Pendre a Emyr Penrhiw draw, dou foi dynsheris. Peth arall os na fidda i’n cal y shec fidda i byth yn prynu’r Western Mail to a Mr Edityr fe allwch i hwpo fe lan rwle peth cinta bore Llun. Fe wedi hala’r bil miwn gida’r llithir ne fidde’n i’n codi am ddou stamp i chi. Fe dynes i’r papur wal rhydd a mynd nol ag ef i’r shop ond ballodd y boi a rhoi’r arian nol. So Mr Edityr pay up achos fi’n meddwl bod chi yn trwbwl lan hyd ych cesel a nes lan falle.
Iwyrs Trwli
Wil
O.N. Anghofies i weid fod V.A.T. ar y pot a bod hyn yn ecstra ar y bil.
Wil (Emyr Davies, Pen-rhiw)
Erthygl adda i Bapur Bro: “Enwau Ffermydd”
Rydyn ni’n cael ein hatgoffa’n gyson erbyn hyn fod angen cofnodi enwau gwreiddiol tai a ffermydd a lonydd yn ein hardaloedd. Y rheswm, wrth gwrs, yw bod cynifer o’r rheiny’n diflannu o flaen ein trwynau, a ninnau’n gwneud dim ond ysgwyd pen a dwrdio’r rhai sy’n gyfrifol am ddileu neu newid yr enwau gwreiddiol.
Am ryw reswm does dim cymaint o newid bwriadol i’w weld yn digwydd gydag enwau ffermydd. Ai am nad yw ffermydd yn cael eu codi o’r newydd i’r un graddau â thai annedd, efallai? Ynte ai oherwydd mai disgrifio nodweddion y tir y mae’r rhan fwyaf o enwau ffermydd? Tybed?
Gallaf feddwl am lond dwrn o ffermydd sy’n gyfarwydd i ddarllenwyr papur bro y Gambo ac sydd i gyd o fewn rhyw filltir a hanner i’w gilydd, bob un yn disgrifio natur y tir, fel Pant-glas, Rhos-wen, Fron-las, Pant-coch, Dôl-werdd, Llwyn-du, Gors-lwyd. Hynny yw, rhyw fath o ymgais i gyfleu tir gwlyb, sur neu ambell ddarn tir gwell na’i gilydd fel Pant-glas, Fronfelen.
Mewn mannau eraill fe gewch enwau sy’n nodi tyfiant naturiol yr ardal, yn enwedig y coed amlycaf, fel Maesyderi, Rhydonnen, Helyg Fawr/Helyg Fach, Fronfedw, Maesyfedwen, Dolgelynen, Llwyncelyn. Ac wrth geisio cyfleu disgrifiad o leoliad fferm (waeth dyna oedd diben enwi ffermydd gan mwyaf yn wreiddiol), roedd yn bwysig iawn nodi unrhyw nodweddion daearyddol - afonydd a nentydd, bryniau, dolydd, pantiau ac yn y blaen. Cymerwch y ffermydd niferus sydd ar hyd glannau rhai o’r afonydd sy’n llifo i’r môr yng ngwaelod Ceredigion. Rhwng tua Tre-main a’r Ferwig fe welwch Nant-mawr (gwrywaidd, sylwch, nid ‘nant fach’), Nantycroi, Ffynnon-cyff, Ffrwdwenith, Ffynnon-wen, ac ati.
Mae’r gair ‘esgair’ yn eithaf cyfarwydd, hefyd, sef cefnen gymharol uchel o dir, yn cyfateb i ‘ridge’ yn Saesneg. Fe welwch Esgaireithin, Esgaironnen, Blaenresgair, Esgairwilym ar hyd y cwm i lawr i Dre-saith. Sgwn i pwy oedd y Gwilym hwnnw, waeth mae ei enw i’w weld ar fwy nag un tŷ yn ardal Blaen-porth, er enghraifft, Dolwilym, Caerwilym.
Yn aml iawn hefyd fe gewch enwau ffermydd sy’n gwneud dim mwy na dweud yn union beth yw eu lleoliad, fel Dyffryn,Troed-y-rhiw, Penrallt, Pen-lan, Pen-cnwc. Neu eu prif weithgarwch, fel y Felin neu’r Efail.
Ond erbyn hyn dydy pob enw ddim mor hawdd inni geisio’i esbonio. Ymhlith yr enwau ffermydd mewn rhan o gynefin y Gambo fe gewch Canllefaes (Fach a Fawr), sef ‘canllef’ a ‘maes’, Hen air yw ‘canllef’ am frwydyr, felly, maes y frwydr. Heb fod ymhell wedyn mae Cytir Mawr a Cytir Bach. Ystyr ‘cytir’ yw ‘cyd’ a ‘tir’, hynny yw, yr hen arfer o rannu tir yn lleiniau gweddol fach a theuluoedd yn ffermio’u llain eu hunain. Mae Crugmor ym Mhen-parc, wrth gwrs, yn dod o ‘crug mawr’ drwy ddatblygiad naturiol yr iaith. Ac mae Cryngae Mawr ym Mlaenannerch hefyd wedi datblygu’n naturiol o ‘crwn’ a ‘cae’, sy’n rhoi disgrifiad perffaith o natur y fferm yn yr hen ddyddiau. Ond beth yw tarddiad gwreiddiol Castell Pridd a Chastell Nadolig? Fe wyddom nad ystyr bresennol y gair ‘nadolig’ sy yma, ond beth?
Dydy enwau pobol ddim mor gyffredin mewn enwau tai a ffermydd, er eu bod nhw i’w gweld weithiau, er enghraifft, Treddafydd, Castell Hywel, Beddgeraint. Mae Hewl y Bowls ym Mlaen-porth wedi’i henwi ar ôl asiant un o stadau mawr yr ardal, a dywed rhai bod ardal Gogerddan wedi’i henwi ar ôl codi’r Neuadd i ferch Plas Gogerddan ger Aberystwyth ar ei phriodas. Mae yna ddamcaniaeth hefyd fod Lôn y Ladi ym Mlaen-porth wedi’i henwi ar ôl un o ladis y plas.
Mae enwau seintiau ar ffynhonnau yn gyffredin iawn, a ffermydd wedi cymryd yr enwau hynny. Mae yna nifer o enwau diddorol ar ffermydd yn ardal Ponthirwen (neu Ponthirwaun neu Ponthirwern?). Mae rhai ohonyn nhw’n awgrymu eu bod yn gysylltiedig ag arfer y pererinion o deithio o ffynnon i ffynnon ar eu ffordd o’r mynachlogydd, er enghraifft Ystrad Fflur, i Dyddewi, waeth roedd Tyddewi yn ganolfan bwysig ar raddfa genedlaethol yn y blynyddoedd cynnar. Yn wir, roedd dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Gaersalem fawr ei hun. Mae’r enwau Ffynnongripil a Thafarn y Bugail yn awgrymu bod i’r ffynhonnau hyn rinweddau pwysig iawn i wella afiechydon. Mae Ffynnon-fair, Ffynnon-gog, Ffynnon Fendigaid, Ffynhonnau, Ffynnon-wen a Ffynhonwen yn adnabyddus i bawb, mae’n siŵr.
Er yr holl gyfoeth enwau sydd o’n cwmpas ni bob dydd, a ninnau heb fod yn eu gwerthfawrogi nhw’n llwyr bob amser, efallai, mae’n drist dweud bod rhai hen enwau ffermydd wedi diflannu yn ystod ein cyfnod ni, ddarllenwyr y Gambo, ac yn gwneud hynny o hyd, debyg iawn. Mi fydda i weithiau’n dyfalu pryd aeth hen dyddyn bach y Crucwyn ym Mlaenannerch â’i ben iddo? Roedd yna lôn fach i lawr at y fferm o’r ffordd fawr gyferbyn â’r Capel, ond gan fod y cloddiau wedi’u dymchwel i greu perci mwy o faint, mae’r lôn a’r enw hefyd wedi mynd. Crug gwyn oedd yr ystyr wreiddiol, mae’n debyg, ac wedi datblygu’n naturiol yn Crucwyn. Ac mae Pwll Melyn ar ben Hewl Tanyreglwys hefyd wedi’i sychu a’r enw wedi diflannu. Ond diolch byth, mae rhai o’r enwau hyn yn parhau yn enwau’r perci.
Chwilotwr (Mary Jones, Hoddnant)
Cyfansoddi emyn ar gyfer Cymanfa Ganu Gyd-enwadol
O gyfeiriad yr ucheldir
Llifa’r nentydd glân i lawr
Gan ymuno gyda’i gilydd
I roi grym i’r afon fawr,
A daw’r afon yn ei thro
I ddiwallu angen bro.
O gyfeiriad Ebeneser,
Capel Mair a’r eglwys blwy’
Anfon neges mae’r cantorion
Am eu cydweithrediad hwy
Drwy ymuno yn un côr
I glodfori enw’r Iôr.
Aeron (Dai Rees Dafis)
Gwobr am y gerdd orau oll: Philippa Gibson (Gw. uchod ‘Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg’)
Gwobr am y darn o ryddiaith orau oll: Hywel Rees (Gw. isod)
ENCIL
Petai Kirsty Young wedi digwydd fy ngwahodd i, yn lle David Beckham, i gymryd rhan yn nathliad pen-blwydd ei rhaglen radio Desert Island Discs yn 75 oed yn ddiweddar, rwy'n siwr y buaswn wedi ei siomi'n arw. 'Bydde'n well gen i aros gatre, diolch yn fowr i chi', fyddai fy ateb.
Nid sarhau yr holwr na'r BBC fyddai fy mwriad, cofiwch, ond, yn fy myw, ni fuaswn yn gweld unrhyw bwrpas o gwbl i fynd i'r ynys ddychmygol a phell honno. A'r rheswm? Mae gen i fy ynys fy hun yn barod. Oes, a fi sydd biau hi – pob darn ohoni. Mae'n rhagori ar ynys Kirsty oherwydd lle real ydyw, man y byddaf yn mynd iddo'n aml ar fy mhen fy hun, ac aros yno heb deimlo unrhyw bang o unigrwydd o gwbl. Anamal y bydd unrhyw un yn tarfu arnaf yno, a chan fod gennyf lond cwpwrdd o ddisgiau, gallaf ddewis unrhyw wyth record o'r pentwr a'u chwarae pryd y mynnaf, a pha mor uchel a fynnaf, yn ôl fy mympwy.
Sied yw'r ynys. Ac wrth ymgolli yn yr amryfal weithgarwch a wnaf yno y darganfyddaf fy hoff encil. Roedd yr hen Gymmrodorion wedi'i deall hi i'r dim wrth annog yn eu harwyddair: 'Cared doeth yr encil'. Cytunaf â hwy bob gair.
Mae'r sied yn agos gyfleus i'r tŷ, lle byddaf yn ymroi i amrywiol waith llaw am oriau lawer – gwaith tra gwahanol i oruchwylion swyddfa y bûm yn ymhel â nhw gydol fy ngyrfa. Efallai mai dyna'r prif reswm paham bod gwaith llaw yn gymaint o bleser i mi. Pwysleisiaf nad dianc yno y byddaf yn ei wneud. Nid noddfa na lloches rhag y byd a'r betws mohoni. Ac nid ceisio llonyddwch gorffenedig yw'r bwriad, chwaith, nac ymhyfrydu yn y mwynder hwnnw y soniodd un bardd mor lesmeiriol amdano wrth gyrraedd canol rhyw gwmwd tawel. Ond pan fydd yr offer ar y fainc, a'r drws wedi'i gau, 'does unlle yn y byd yn well gennyf wrth ymroi'n llwyr i ba dasg bynnag fydd o'm blaen.
Defnydd gwahanol iawn oedd gennyf i'r sied pan brynais hi. Caban aml-bwrpas ydoedd bryd hynny, lle gallwn i ar teulu fwynhau ymlacio a thorheulo ar y patio y tu allan iddo. Dodrefnwyd ef yn addas hefyd, a phrynwyd gwely bocs a matresi fel bod ein hwyrion bach cyffrous yn gallu cysgu ynddo. Ond o dipyn i beth wrth i hwyl y plant bylu, daeth y lle wedyn yn fan cyfleus i storio'r trugareddau oedd dan-draed yn y tŷ. Y pryd hwnnw, gwelais fy nghyfle. Prynais fainc ac offer trydan i drin metel a phren, a thrawsnewidiwyd y caban yn weithdy.
Rwy'n cyfrif fy hun yn fachan digon llawdde o hyd wrth daclo rhai o ryfeddodau technolegol a chyfrifiadurol diweddar y cartref. Ond rhowch i mi fecanwaith bob tro. Mae mecaneg yn rhagori ar gyfrifiaduraeth yn fy marn i. Hyd yn oed pan oeddwn yn blentyn, byddwn wrth fy modd yn mynd i berfedd unrhyw ddyfais fecanyddol a ddeuai i'm llaw. Rwy'n credu i mi dynnu'n rhydd beiriannau weindio pob tegan a gefais erioed. A phan oeddwn dipyn yn hŷn dechreuais ymddiddori mewn clociau. Clociau wedi torri oedd rhain, a'r gamp oedd llwyddo i dynnu pob olwyn allan o'r casyn a'u hailosod. Mae'n gamp mor anodd â datrys Ciwb Rubix . Rhaid cyfaddef, serch hynny, imi ddiflasu lawer gwaith wrth ganfod olwyn neu ddwy yn 'sbâr' ar ddiwedd y dasg.
A minnau wedi bod yn gweithio ar bethau mor fân â chlociau, mae'r hyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn y sied, oherwydd ei faint, yn waith tra gwahanol. Fel hyn y bu: daeth cymydog i'r drws yn ddiweddar a chynnig annisgwyl. A oeddwn am gael ei feic mynydd– am ddim? Roedd wedi diflasu, meddai, o'i weld yn segur yng nghornel ei sied. Gwyddwn ar unwaith bod y cynnig yn fargen heb ei hail.
O fewn dim o dro roedd y beic yn ei gartref newydd wedi'i lanhau'n lân o'r caglau mwd ystyfnig oedd drosto. Gosodais ef i bwyso y tu allan wrth wal y sied. Roedd yn rhaid cael munud neu ddwy yn awr i'w lawn werthfawrogi. Yn haul y bore pefriai'r fframyn aluminiwm ar sticeri gloyw. Ymestynai'r corn gyrru yn heriol syth fel cyrn tarw, gyda'r set o ddwy gliced bob tu iddo i reoli'r un gêr ar hugain. A dyna'r teiars trwchus, rhychiog: bydd rhain yn barod i wynebu'r llwybrau garwaf ar eu siwrneiau. Y sedd bigfain wedyn, â'i gwddf hirgul. A'r olwyn gefn - rhyfeddod pennaf y beic gyda chymhlethdod y derailleur, sy'n caniatáu i'r gadwyn lithro o gog i gog i hwyluso'r gwaith pedlo, boed ar riw serth, neu ar ffordd wastad. Yn wir, yn yr haul y bore hwnnw edrychai'r beic mynydd yn hynod o osgeiddig a soffistigedig.
Cofiais yn sydyn am rybudd fy nghymydog cyn i mi ymadael ag ef yn gynharach.
'Yr unig nam sy ar y beic 'ma yw bod un sbocen fach wedi torri. Mae'n hongian yn beryglus ar yr olwyn gefen. Bydd yn rhaid i ti dynnu'r teiar bant i fynd ati cyn reidio'r beic'.
'Jobyn bach hawdd', meddwn i wrtho'n hyderus. 'Fydda i ddim chwinciad wrthi.'
Ond gwyddwn y cymerai'r gwaith rhai oriau wrth i mi fwynhau ei ddatgymalu'n llwyr ac yna ailosod pob dernyn ohonno yn ȏl – fel yn achos y clociau 'slawer dydd.
A minnau'n synfyfyrio ar ȏl datod y nyten ar wasier olaf un, cofiais fel byddai Mam wrthi'n gwau siwmper i mi'n blentyn. Byddai'r gweill yn clician, clician yn ddyfal ddi-stop am oriau. Ac yna, sylweddolai iddi wneud camgymeriad bach yn y patrwm. Rhyfeddwn wrth ei gweld yn tynnu'r ddwy weillen allan o'r gwead a datod cannoedd ar gannoedd o bwythau nes dod at y gwall. Yna, heb yngan na 'Drato!' na 'Daro!', roedd ganddi'r amynedd mawr i ailgydio yn y gwau.
Mae'n rhaid fy mod i wedi etifeddi'r gynneddf honno gan Mam, oherwydd mae gennyf amynedd Job pan fyddaf yn ymlafnio â gwaith llaw sydd o ddiddordeb i mi. Cyn mynd ymhellach mae'n bwysig fy mod i'n rhoi pwyslais ar y geiriau 'sydd o ddiddordeb i mi', rhag creu camargraff. Y gwir yw fy mod yn greadur digon diamynedd tuag at liaws o weithgareddau beunyddiol, yn enwedig y dyletswyddau bach y gellir yn hawdd eu diystyrru am gyfnod - tan iddynt chwyddo'n broblem fawr gan greu stŵr a diflastod yn y diwedd.
Wrth gwrs, digwyddai hyn yn aml pan oeddwn yn grwtyn. Gosodai Mam restr o ddyletswyddau i mi i'w cyflawni'n gyson yn y tŷ. Ond ar foreau Sadwrn, pan oedd pob plentyn arall allan yn chwarae, roedd yn rhaid i fi wneud ychydig o siopa iddi. Roedd yn gas gennyf y gwaith. Cas perffaith! Ond, daeth gollyngdod. Un dydd daeth Mair, y ferch drws nesaf, i'r drws a gofyn a garwn gael ei beic am ei bod yn gadael cartre i fod yn fyfyrwraig ym Mangor. Gollyngdod, ddywedes i? Na, roedd hwn yn un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous a brofais ar hyd fy llencyndod. O'r dydd mawr hwnnw ymlaen, fuodd dim pall ar fy mharodrwydd i nôl negeseuon dros Mam.
Beic merch oedd beic Mair. Ongl isel y bar oedd y peth amlycaf a wnai'n wahanol i feic dynion. Nid oeddwn yn hoffi'r siâp o gwbl. Gwthiais y Raleigh i mewn i sied Nhad ac euthum ati ar unwaith i'w wneud yn un mwy 'gwrywaidd' yr olwg. Tynnais i ffwrdd y fasged flaen, y gard cadwyn a'r ddau gard olwyn; codais y sedd ryw bum modfedd yn uwch, a datodais y corn â'i handlen uchel a'i droi drosodd fel bod yr handlen yn is o lawer. Roedd yn debycach i feic rasio nawr, ac roeddwn yn fodlon iawn ar ei wedd newydd.
Bu'r Raleigh a minnau yn gyfeillion anwahanadwy am flynyddoedd. Cariodd fi i bob cwr o'r byd a oedd o fewn cyrraedd i ni ein dau. Bûm yn ei drwsio, ei iro, ei beintio, ei addurno, ac, wrth gwrs, ei ddatgymalu laweroedd o weithiau yn ystod dyddiau gwyn fy llencyndod. A nawr, drigain mlynedd yn ddiweddarach, a minnau heb fod ar gefn un beic yn y cyfamser, dyma fi 'n cael cynnig un arall am ddim am yr eildro.
Roeddwn yn hynod gyffrous wrth feddwl am ei reidio. Prysurais i ddodi pob rhan ohonno yn ôl i'w le, ac ymhen dwyawr roedd yn barod. Agorais ddrws y sied a'i hebrwng yn seremonïol allan i'r stryd. Tybed a oedd fy nghymydog yn fy ngweld? Neidiais ar y sedd, ond roedd hi dipyn yn rhy uchel. Hongiai fy nghoesau fel pendiliau cloc. Yn ôl â fi i'r sied i addasu'r uchder.
Er i mi fod wrthi am hydoedd yn iro, a phwyso a thynnu, nid oedd dim yn tycio. Methais yn lân â ryddhau gwddf y sedd o'r fframyn. Roedd y rhagolygon yn dduach fyth ar ôl darllen ar y wê taw dyma'r broblem fwyaf a all ddigwydd i feic.
Deuddydd ar ôl i mi ei adael mewn siop-trwsio-beiciau yn y dre, cyfaddefodd y perchen ei fod yntau hefyd wedi methu rhyddhau'r sedd, oherwydd roedd cyrydu drwg wedi digwydd rhwng peipen ddur y sedd a'r fframyn aluminiwm. Gallai rhagor o nerth bon braich yn y feis hollti'r fframyn a difa'r beic cyfan, meddai. Gwawriodd arnaf na fyddwn byth yn gallu ei reidio â'r sedd mor uchel.
Ond hynny nid oedd ofid i'm, ys dywedodd y bardd. Onid oeddwn wedi cael mwynhad ohonno'n barod? Ac wedi meddwl, efallai y byddai taclo rhiwiau a llwybrau serth yr ardal wedi bod ormod o her mi. Bydd fy ŵyr pymtheg oed, sy'n dalach na mi, wrth ei fodd yn ei dderbyn yn anrheg gennyf. Cyn hir rwy'n siwr y bydd eisiau glanhau'r beic, a'i drwsio eto, a phryd hynny mi af ag ef yn ôl i lonyddwch fy encil i adnewyddu'r berthynas fer a fu rhyngom. Fe wnaf yn siwr, hefyd, y bydd angen gwneud mwy o waith arno na newid un sbocen fach.
0 notes